Tocynnau Hywel Dda
Rydyn ni wedi uno â Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda i roi disgownt ar docynnau bws i staff ar y bwrdd iechyd pan fyddant yn teithio i’r gwaith ar fws. Rydyn ni wedi gwneud hyn er mwyn hwyluso teithio mewn ffordd fwy cynaliadwy a lleihau’r pwysau ar feysydd parcio prysur yn yr ysbyty.
Rwy’n gweithio i Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda. Ar ba wasanaethau alla i gael disgownt?
Ar wasnaethau TrawsCymru T1, T1A, T1X a T2 a T28.
Gallwch gael disgownt ar docynnau ar gyfer y gwasanaeth T1 (a weithredir gan FirstCymru ar ein cyfer) rhwng canol trefi Caerfyrddin ac Aberystwyth drwy Ysbyty Glangwili a gwasanaethau T2 a T28 rhwng canol tref Aberystwyth ac Ysbyty Bronglais.
Faint allwn i arbed?
Gallech arbed rhwng 20% a 36% yn dibynnu ar y fath o docyn rydych chi’n ei brynu.
Sut ydw i’n prynu tocyn â disgownt?
Gallwch ei brynu gyda’r gyrrwr bws gan ddangos eich cerdyn adnabod staff GIG.
Gallwch hefyd ei brynu ymlaen llaw gan ddefnyddio ap TrawsCymru, gan ei storio ar eich ffôn clyfar a’i ddangos i’r gyrrwr bws. Yn gyntaf, bydd angen ichi lawrlwytho’r ap a chreu cyfrif.
Sut ydw i’n prynu tocyn â disgownt ar ap TrawsCymru?
Bydd yn rhaid ichi gadarnhau eich bod yn gweithio i Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda er mwyn dilysu’ch tocyn ar ôl ei brynu*
- Agorwch yr ap, dewiswch docynnau symudol > sgroliwch i waelod y rhestr docynnau > dewiswch ‘Tocynnau/tocyn Hywel Dda’.
- Dewiswch y math o docyn sydd ei angen arnoch > Prynwch nawr > cwblhewch y taliad. Bydd y tocyn nawr yn eistedd yn ‘Eich Tocynnau’
- Yn ‘Eich Tocynnau’ dewiswch Gwirio Angenrheidiol > Cael eich dilysu > Uwchlwythwch hunlun a gofynnwch am e-bost dilysu.
- Agor yr e-bost dilysu > uwchlwytho llun o'ch bathodyn adnabod > cyflawni’r proses.
Byddwn yn cymharu’r hunlun â’r llun ar eich bathodyn adnabod i sicrhau taw chi ydyw.