Ydych chi erioed wedi meddwl sut mae Trafnidiaeth Cymru (TrC) yn gweithio’n gyson i wella'r ffordd rydyn ni'n gweithredu?

Edrychwch ddim pellach na Hacathon Cinetig TrC; lle daeth y digwyddiad â grŵp amrywiol o unigolion ynghyd i fynd i'r afael â’r heriau byd go iawn sy'n wynebu ein sefydliad.

Beth yw Hacathon?

Dychmygwch le bywiog sy'n llawn creadigrwydd, arbenigedd ac angerdd. Digwyddiad cydweithredol yw’r hacathon lle daw pobl at ei gilydd am gyfnod byr i ddatrys problemau penodol.

Nod ein hacathon Cinetig oedd manteisio ar ddeallusrwydd a phrofiad cyfunol ein cydweithwyr, partneriaid ac arweinwyr y dyfodol. Croesawyd cyfranogwyr o bob adran o TrC, partneriaid megis Amey, Network Rail a Pullman Rail, a myfyrwyr brwdfrydig o Brifysgol Caerdydd hyd yn oed.

Yn ystod dau ddiwrnod cyffrous, roedd 6 tîm wedi mynd i'r afael â heriau a oedd yn canolbwyntio ar fabwysiadu ymddygiadau teithio mwy cynaliadwy, teclyn Rhwydwaith T, rhagfynegi gwaith, rheoli logisteg, datgarboneiddio seilwaith trwy well ddefnydd o ynni ac ymestyn cylchoedd bywyd asedau. Roedd amgylchedd cydweithredol wedi meithrin gwaith tîm a sgiliau datrys arloesol.

Cawsom sgwrs am bwysigrwydd yr hacathon gyda Barry Lloyd (Pennaeth Arloesi a Datblygu Cynnyrch Newydd) a gynhaliodd y digwyddiad ar ran TrC:

"Rydyn ni yma heddiw oherwydd yr heriau rydyn ni'n eu hwynebu; gwella profiad cwsmeriaid, creu trafnidiaeth fwy diogel ac integredig a sbarduno arloesedd ledled Cymru. Mae'r cyfranogwyr yn gweithio mewn timau cymysg gyda chydweithwyr, partneriaid a myfyrwyr o'n prifysgolion lleol i archwilio syniadau, profi atebion a chreu prototeipiau a all siapio sut rydym yn gweithredu yn gyffredinol."

Rhannodd un o'r cyfranogwyr, MacKenzie Lambert (rheolydd trên Trafnidiaeth Cymru) a Sarah Winstone (Cytundebau Masnachol Pullman Rail) eu barn am yr hacathon.

Dywedodd MacKenzie Lambert: "Mae hi wedi bod yn bleser gweithio gyda phartneriaid busnes Trafnidiaeth Cymru na fyddwn i byth yn dod ar eu cyfyl o ddydd i ddydd yn fy swydd arferol, a defnyddio rhai o’r teclynnau sydd ar gael."

Meddai Sarah Winstone: "Rydw i wedi gorfod ymestyn y modd dwi’n meddwl am lawer o bethau. A thrwy weithio gydag ystod o bobl o wahanol gwmnïau, a gwahanol rolau, rydw i wedi dysgu cryn dipyn."

Llongyfarchiadau i'n henillwyr 'Tocynnau Du' ac i’r ‘Red Dragons’ am y cydweithio gorau.

Gobeithiwn weithredu syniadau a datrysiadau'r hacathon arloesol, a rhannu diweddariadau ar y datblygiadau pan fyddant yn cael eu gwireddu.

 

 

 

 

Cysylltwch â ni ar gyfryngau cymdeithasol