Mae Llwybr Arfordir Cymru yn ymestyn ar hyd arfordir gogoneddus Cymru i gyd. Dyma’r unig lwybr troed yn y byd sy’n dilyn arfordir gwlad gyfan o’r dechrau i’r diwedd.

Mae’r llwybr yn rhedeg am oddeutu 870 milltir (1,400km), ac yn mynd â chi drwy bentrefi pysgota tawel, clogwyni dramatig, traethau tywod eang a threfi harbwr prysur. Byddwch yn mynd heibio cestyll, goleudai, gwarchodfeydd natur a mannau lle mae’r tir yn cwrdd â’r môr sy’n teimlo fel nad oes neb na dim wedi’u cyffwrdd o gwbl.

Does dim rhaid i chi fod yn gerddwr profiadol i’w fwynhau. Un o’r pethau gorau am gerdded Llwybr Arfordir Cymru yw pa mor hyblyg yw’r llwybr. Mae rhai pobl yn ei gerdded o un pen i’r llall dros nifer o wythnosau. Mae eraill yn gwneud darnau byrrach, gan droi hyn yn gyfres o deithiau cerdded undydd neu anturiaethau ar benwythnosau.

 

Beth yw Llwybr Arfordir Cymru?

Cafodd Llwybr Arfordir Cymru ei agor yn swyddogol yn 2012, gan greu llwybr cerdded di-dor o amgylch holl arfordir Cymru. Mae’n cysylltu llwybrau arfordirol sydd eisoes yn bodoli â rhannau newydd, gan ei gwneud yn bosibl cerdded o’r ffin â Lloegr yn y de i’r ffin â Lloegr yn y gogledd heb adael yr arfordir.

Mae’r llwybr yn mynd drwy rai o ardaloedd arfordirol mwyaf adnabyddus Cymru, gan gynnwys:

  • Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro
  • Pen Llŷn
  • Bae Ceredigion
  • Penrhyn Gŵyr
  • Ynys Môn

Ar hyd y ffordd, byddwch yn gweld golygfeydd sy’n newid yn gyson. Un diwrnod efallai y byddwch yn cerdded uwchben y môr ar glogwyni garw. Ar ddiwrnod arall, gallech fod yn dilyn llwybr aber neu’n cerdded ar hyd promenâd gyda hufen iâ yn eich llaw.

Os oes gennych chi ddiddordeb mewn sut mae’r llwybr yn gweithio ochr yn ochr â thrafnidiaeth gyhoeddus, mae gennym dudalen benodol ar gyfer Llwybr Arfordir Cymru gyda threnau sy’n dangos sut mae gwahanol rannau’n cysylltu â’r rhwydwaith rheilffyrdd.

 

Pa mor hir yw Llwybr Arfordir Cymru?

Mae’r daith gerdded lawn ar hyd Llwybr Arfordir Cymru dros oddeutu 870 milltir. Mae faint o amser mae’n ei gymryd yn dibynnu ar sut rydych chi’n dewis ei wneud.

Mae rhai cerddwyr yn cwblhau’r llwybr cyfan mewn tua 6 i 8 wythnos, tra bo eraill yn ei rannu ac yn cerdded rhannau dros fisoedd neu hyd yn oed flynyddoedd. Mae’n well gan lawer o bobl ganolbwyntio ar rannau penodol o ran hyd, gan ddewis llwybrau sy’n addas i’w ffitrwydd, yr amser sydd ganddyn nhw, a’r math o olygfeydd maen nhw’n eu mwynhau fwyaf.

Does dim un ffordd “gywir” o’i gerdded. Mae’r llwybr yno i chi grwydro a gweld wrth eich pwysau.

 

Ble mae Llwybr Arfordir Cymru yn dechrau ac yn gorffen?

Nid dim ond un man cychwyn sydd gan Lwybr Arfordir Cymru. Mae hynny’n rhan o’i apêl.

Yn draddodiadol, mae’r llwybr yn cael ei ddisgrifio fel un sy’n mynd rhwng:

  • Cas-gwent, ger ffin Lloegr yn y de a
  • Queensferry, ger ffin Lloegr yn y gogledd

Mae llawer o gerddwyr yn dewis mannau cychwyn ar sail cysylltiadau trafnidiaeth hawdd, llety cyfagos neu ddarn penodol o arfordir maen nhw eisiau crwydro ynddo. Os ydych chi’n cynllunio eich taith ar y trên, gallwch weld y llwybrau a’r cysylltiadau drwy ddefnyddio ein cynllunydd teithiau.

 

Sut beth yw cerdded Llwybr Arfordir Cymru?

Amrywiaeth yw hanfod Llwybr Arfordir Cymru. Mae rhai rhannau’n wastad ac yn hawdd, sy’n golygu eu bod yn ddelfrydol ar gyfer teuluoedd neu deithiau cerdded hamddenol. Mae rhannau eraill yn cynnwys dringfeydd serth, tir anwastad a phentiroedd agored lle mae’r tywydd yn gallu effeithio mwy.

Byddwch yn mynd drwy drefi glan môr, tirweddau arfordirol anghysbell, gwarchodfeydd natur a harbwrs prysur. Gan fod y llwybr yn mynd drwy gynifer o gymunedau, mae’n hawdd cyfuno sawl elfen - cerdded ac aros am fwyd yn lleol, aros dros nos a gwyliau bach byr.

Mae bod yn agos at drefi a gorsafoedd rheilffordd hefyd yn rhoi hyblygrwydd i chi. Os bydd eich cynlluniau’n newid, gallwch gael gafael ar wasanaethau ar draws ein rhwydwaith rheilffyrdd.

 

Map Llwybr Arfordir Cymru a chynllunio llwybrau

Mae defnyddio map Llwybr Arfordir Cymru yn ffordd wych o gynllunio eich taith gerdded, yn enwedig os ydych chi’n bwriadu cerdded y llwybr fesul darn. Mae mapiau’n eich helpu i ddeall pellteroedd dyddiol, nodi’r darnau anoddach a gweld lle mae'r trefi, y llety a’r gorsafoedd cyfagos.

Mae llawer o gerddwyr yn defnyddio cymysgedd o fapiau digidol a theithlyfrau print, yn dibynnu ar ble maen nhw’n bwriadu mynd a pha mor anghysbell yw’r rhan honno. Mae canolfannau ymwelwyr lleol a sefydliadau cerdded hefyd yn darparu gwybodaeth a diweddariadau am lwybrau.

Os ydych chi’n bwriadu teithio rhwng rhannau’r llwybr ar drên, mae’n werth gwybod beth yw eich opsiynau o ran tocynnau ymlaen llaw. Mae rhagor o wybodaeth ar ein tudalen tocynnau trên.

 

Oes modd cerdded Llwybr Arfordir Cymru mewn rhannau?

Oes, a dyna sut mae’r rhan fwyaf o bobl yn ei wneud. Mae’r llwybr yn rhannu’n ddarnau hwylus yn naturiol, yn aml o gwmpas trefi sydd â mynediad at reilffordd. Mae hyn yn ei wneud yn ddelfrydol ar gyfer teithiau undydd, teithiau penwythnos neu gwblhau’r llwybr yn raddol dros amser.

Mae rhannau poblogaidd yn cynnwys rhannau arfordirol ger trefi mawrion yn ogystal ag ardaloedd gwledig tawelach lle mae’r golygfeydd yn ymagor go iawn. Mae cerdded rhannau byrrach hefyd yn golygu y gallwch chi gerdded llwybrau sy’n cyd-fynd ag adegau o’r flwyddyn, amodau’r tywydd ac oriau golau dydd.

 

Pam mynd ar y trên wrth gerdded Llwybr Arfordir Cymru?

Mae llawer o bobl yn dewis mynd ar y trên wrth gerdded Llwybr Arfordir Cymru, yn enwedig wrth gerdded y llwybr mewn rhannau.

Mae teithio ar y trên yn ei gwneud hi’n haws dechrau a gorffen teithiau cerdded mewn gwahanol lefydd heb orfod mynd yn ôl yr un ffordd neu boeni am barcio. Mae’n rhoi hyblygrwydd i chi hefyd os bydd y tywydd yn newid neu os byddwch chi’n penderfynu torri taith cyn pryd.

Gallwch edrych ar opsiynau trenau, mathau o docynnau a phrisiau hyblyg ar ein tudalen teithio ar drenau.

Os ydych chi’n rheoli teithiau wrth i chi fynd o le i le, gallwch hefyd brynu a storio tocynnau gan ddefnyddio’r ap.

 

Cwestiynau cyffredin

Ydy Llwybr Arfordir Cymru yn anodd?

Mae rhai rhannau’n heriol, yn enwedig lle mae’r llwybr yn dringo clogwyni serth neu’n croesi tir anwastad. Ond, mae llawer o ddarnau’n addas i ddechreuwyr. Mae’r anhawster yn amrywio yn ôl lleoliad, felly mae’n werth darllen manylion y llwybr cyn cychwyn.

Oes modd beicio Llwybr Arfordir Cymru?

Llwybr cerdded yw Llwybr Arfordir Cymru yn bennaf. Mae rhai rhannau’n gorgyffwrdd â llwybrau beicio, ond nid yw’r llwybr cyfan yn addas ar gyfer beicio. Os ydych chi’n bwriadu mynd ar daith feicio, mae’n well chwilio am lwybrau beicio dynodedig ar yr arfordir.

Oes modd i mi gerdded rhannau o Lwybr Arfordir Cymru gyda phlant?

Oes. Mae llawer o rannau’n addas i deuluoedd, yn enwedig rhannau mwy gwastad ger trefi a thraethau. Dylech bob amser wirio’r pellteroedd, y tir a’r cyfleusterau ymlaen llaw i wneud yn siŵr bod y llwybr yn addas i bawb yn eich grŵp.

Ble rydych chi’n aros wrth gerdded Llwybr Arfordir Cymru?

Mae amrywiaeth eang o lety ar gael ar hyd y llwybr, gan gynnwys gwestai, llety gwely a brecwast, gwersylloedd ac opsiynau hunanarlwyo. Gan fod y llwybr yn mynd drwy gymaint o drefi a phentrefi, mae’n hawdd i chi gynllunio aros dros nos sy’n addas i’ch cyllideb a’ch cyflymder cerdded.

Oes angen offer arbennig arnaf i gerdded Llwybr Arfordir Cymru?

Mae bŵts neu esgidiau cerdded da yn hanfodol ac mae dillad sy’n dal dŵr bob amser yn syniad da. Heblaw am hynny, mae offer yn dibynnu ar y rhan rydych chi’n ei cherdded a’r adeg o’r flwyddyn. Dylech bob amser edrych ar ragolygon y tywydd a chyngor lleol cyn teithio.