Os ydych chi’n rhywun sy’n crwydro’n hamddenol neu’n heiciwr gwych, mae teithiau cerdded yng Nghymru ar gyfer pobl o bob gallu. O lwybrau arfordirol i gefn gwlad tawel i fynyddoedd anhygoel, mae’r tirweddau’n syfrdanol ac yn werth eu gweld.
Dyma rai o’n hoff deithiau cerdded. Peidiwch â phoeni, maen nhw’n cael eu grwpio yn ôl gallu, er mwyn i chi allu dod o hyd i’r llwybr sy’n addas i chi.
Teithiau cerdded hawdd yng Nghymru
Dyma rai o’n hoff deithiau cerdded hawdd yng Nghymru. Perffaith ar gyfer teuluoedd, cerddwyr hŷn a phobl anabl.
Cylchdaith Ynys y Barri
Lleoliad: Ynys y Barri, De Cymru
Yr orsaf agosaf: Ynys y Barri
Mae modd gwneud cylchdaith Ynys y Barri mewn camau neu rannau, ac mae modd ei addasu ar gyfer pob cerddwr. Mae’r daith gerdded lawn yn cymryd cwpwl o oriau ac mae modd gweld golygfeydd arfordirol hyfryd o Fae Whitmore, Bae Jackson a Môr Hafren. Beth am aros i gael lluniaeth (pysgod a sglodion?) ar hyd y ffordd?
Cwm Idwal
Lleoliad: Cwm Idwal, Gogledd Cymru
Yr orsaf agosaf: Bangor
Cwm Idwal yw un o’r teithiau cerdded hawsaf yn Eryri, ac mae modd gweld golygfeydd godidog o’r mynyddoedd. Cerddwch o amgylch y llyn rhewlifol a gweld ffurfiannau craig unigryw, yn ogystal â phlanhigion ac anifeiliaid anhygoel. Mae caffi hyfryd, sy’n berffaith i chi gael diod sydyn ar ôl i chi orffen.
Gwarchodfa Natur Genedlaethol Cadair Idris
Lleoliad: Dolgellau, Gogledd Cymru
Yr orsaf agosaf: Machynlleth
I’r de o Barc Cenedlaethol Eryri, mae taith gerdded o amgylch Gwarchodfa Natur Genedlaethol Cadair Idris sy’n berffaith ar gyfer pobl sy’n defnyddio cadair olwyn neu os ydych chi’n gwthio pram. Cewch olygfeydd hyfryd a phrofi’r gorau o fyd natur.
Teithiau cerdded cymedrol yng Nghymru
Edrychwch ar y teithiau cerdded cymedrol hyn i’r rhai sy’n chwilio am fwy o her.
Cylchdaith Ysgyryd Fach
Lleoliad: Sir Fynwy, De Cymru
Yr orsaf agosaf: Y Fenni
Mae’r llwybr hwn dros Ysgyryd Fach yn dechrau o’r orsaf. Mae’n gyfle i weld nentydd bach a choetir tawel cyn anelu am i fyny i weld golygfeydd godidog. Mae’r daith yn cymryd ychydig oriau, perffaith i chi gael ymestyn eich coesau ar y ffordd.
Afon Lledr a Llwybr y Pysgotwyr
Lleoliad: Pont-y-pant, Gogledd Cymru
Yr orsaf agosaf: Pont-y-Pant
Mae’r daith hyfryd hon yn mynd â chi drwy Eryri i fwynhau golygfeydd o’r afon a’r rhaeadr. Cerddwch drwy’r goedwig ar hyd Afon Lledr. Mae sawl llwybr. Gall rhai ohonyn nhw fod yn anodd, felly byddwch yn ofalus.
Teithiau cerdded anodd yng Nghymru
Yn ein hoff deithiau cerdded anodd yng Nghymru, mae cyfle i weld tirweddau gyda’r gorau yn y byd. Tarwch olwg ar ein hoff rai isod.
Llwybr Cwellyn
Lleoliad: Gwynedd, Gogledd Cymru
Yr orsaf agosaf: Bangor
Cerddwch ar hyd llwybr 6-7 milltir i gopa’r Wyddfa. Mae’n un o’r llwybrau cerdded hynaf yng Nghymru, ond eto’n gymharol dawel gyda dringfa gyson i’r copa. Mae rhai rhannau yn gymharol anodd, yn enwedig tua’r copa. Ond mae’n werth yr ymdrech i gael gweld y golygfeydd.
Cylchdaith Castell a Mynydd Caerffili
Lleoliad: Caerdydd, De Cymru
Yr orsaf agosaf: Llys-faen a’r Ddraenen
Mae’r llwybr hyblyg hwn ychydig yn llai na deg milltir, gan fynd â chi o amgylch Mynydd Caerffili a Chastell Coch. Mae’r daith yn cynnig golygfeydd panoramig anhygoel o Fae Caerdydd. Mae hefyd yn gadael i chi brofi hanes y castell, drwy gaeau a choetiroedd.
Cas-gwent i Dyndyrn drwy Ddyffryn Gwy
Lleoliad: Cas-gwent, De Cymru
Yr orsaf agosaf: Cas-gwent
Mae’r llwybr cerdded rhwng Cas-gwent a Thyndyrn yn llwybr unigryw 13 milltir o hyd. Mae’n mynd â chi o’r dref, drwy Dwnnel Tidenham ac ar hyd rheilffordd Dyffryn Gwy i adfeilion Abaty Tyndyrn. Cofiwch fod y twnnel ar gau ar adegau penodol rhwng mis Hydref a mis Mawrth i ddiogelu ei ystlumod.
Awydd her? Edrychwch ar ein canllaw i deithiau cerdded eraill ledled Cymru, gan gynnwys Llwybr Arfordir Cymru a Ffordd Cambrian.