Mae teithio o Gaerdydd I Henffordd ar y trên yn hawdd, yn gyfforddus ac yn fforddiadwy. Gyda gwasanaethau uniongyrchol rheolaidd, mwynhewch daith ddi-straen gyda golygfeydd prydferth.
Manylion allweddol
- Hyd y daith: Tua 1 awr 3 munud
- Trenau uniongyrchol: Oes, sawl gwasanaeth bob dydd
- Amlder: Tua 63 o drenau bob dydd
- Trên cyntaf: Tua 04:32 o Gaerdydd Canolog
- Trên olaf: Tua 00:30 o Gaerdydd Canolog
- Gorsaf darddiad: Caerdydd Canolog
- Gorsaf gyrchfan: Henffordd
- Cyfleusterau: Seddi eang, mannau gwefru a Wi-Fi am ddim ar y trên
- Arbedion ar docynnau: Prynwch yn gynnar, defnyddiwch gerdyn rheilffordd neu teithiwch y tu allan i oriau brig er mwyn cael y gwerth gorau am eich arian
-
Wi-Fi am ddim -
Pwyntiau gwefru -
Uniongyrchol
Pam teithio ar y trên o Gaerdydd i Henffordd?
Mae Henffordd yn ddinas gadeirlan gyda hanes cyfoethog a bywiog, wedi'i lleoli ar hyd Afon Gwy brydferth. Mae digon i'w weld a'i wneud, o werthfawrogi diwylliant i siopa neu hyd yn oed mentro ar ychydig o antur.
- Cadeirlan Henffordd: Nid yn unig mae gan yr eglwys gadeiriol bensaernïaeth syfrdanol i'w hedmygu, mae hefyd yn gartref i arddangosfeydd cyffrous fel y Mappa Mundi o'r 13eg ganrif, sef trysor canoloesol sy'n dangos sut roedd ysgolheigion ar un adeg yn deall y byd.
- Battlelands Paintball & Raceway Go-Karting: Os ydych chi'n chwilio am gyffro, rhowch gynnig ar weithgareddau peli paent neu wib-gartio.
- Yr Amgueddfa Seidr: I’r rheini sy’n dwlu ar seidr, rhaid ymweld â’r amgueddfa hon, lle gallwch hyd yn oed gymryd rhan mewn profiadau creu seidr ymarferol.
- Siopa: Mae Henffordd yn ddelfrydol ar gyfer ychydig o therapi manwerthu, gan gynnwys pob dim o siopau mawr ar y stryd fawr i siopau lleol unigryw sy'n gwerthu paentiadau a chrochenwaith.
Ewch i’n canllaw i Henffordd am ragor o ysbrydoliaeth.
Awgrymiadau gwych ar gyfer prynu eich tocyn trên o Gaerdydd i Henffordd
Arbedwch arian ar eich taith gyda'r opsiynau canlynol:
- Tocynnau Advance*: Prynwch docynnau’n gynnar i fachu’r prisiau gorau.
- Cardiau rheilffordd: Arbedwch hyd at draean ar eich taith nesaf.
- Tocynnau Unrhyw Bryd: Teithio hyblyg, unrhyw bryd yn ystod y dydd.
- Tocynnau tymor - Gwerth gwych am arian i deithwyr rheolaidd.
Beth am ddefnyddio ein ap? Mae'n caniatáu ichi weld ein holl fargeinion teithio fforddiadwy mewn un lle hawdd ei gyrchu.
*Tocynnau Advance sy’n cynnig ein prisiau gorau a gellir defnyddio disgowntiau cardiau rheilffordd wrth eu prynu. Ni allwn warantu argaeledd tocynnau Advance oherwydd dim ond nifer cyfyngedig ohonynt sydd ar gael a dim ond hyd at 18:00 y diwrnod cyn i chi deithio y maent ar werth. Byddem yn argymell eich bod yn prynu tocynnau’n gynnar i osgoi cael eich siomi.
Cwestiynau cyffredin
Pa mor hir yw'r daith ar y trên o Gaerdydd i Henffordd?
Mae'r trenau cyflymaf o Gaerdydd i Henffordd yn cymryd ychydig dros awr, gydag amseroedd teithio cyfartalog tua 1 awr a 5 munud. Mae gwasanaethau rheolaidd yn rhedeg drwy gydol y dydd, gan ddarparu digon o opsiynau ar gyfer eich cynlluniau teithio.
Oes trenau uniongyrchol o Gaerdydd i Henffordd?
Oes, mae gwasanaethau uniongyrchol o Gaerdydd i Henffordd bob dydd. Mae'r trenau hyn fel arfer yn galw mewn gorsafoedd allweddol ar hyd y llwybr, gan gynnig taith gyfleus a syml.
Pa mor aml mae trenau o Gaerdydd i Henffordd?
Gall trenau redeg mor aml â dwywaith yr awr, ond rydym bob amser yn argymell gwirio cyn teithio.
Pryd mae'r trên cyntaf o Gaerdydd i Henffordd?
Mae trên cyntaf y dydd fel arfer yn gadael Caerdydd am 04:32 y bore.
Pryd mae'r trên olaf o Gaerdydd i Henffordd?
Yn dechnegol, mae trên olaf y dydd am 22:21, ond os ydych chi am aros a mwynhau eich noson yng Nghaerdydd am hirach, mae trên olaf am 00:30.
-
Ymweld â Chaerdydd Dewch i ddarganfod Visit Cardiff
-
Ymweld â Chaer Dewch i ddarganfod Visit Chester
-
Ymweld â Manceinion Dewch i ddarganfod Visiting Manchester
-