Ymchwiliad yr Hydref: Adroddiad Cynnydd

Submitted by positiveUser on

Crynodeb Gweithredol

Yn ystod hydref 2018 gwelwyd nifer eithriadol o uchel o fannau fflat ar olwynion ar draws fflyd Gwasanaethau Rheilffordd Trafnidiaeth Cymru. Am sawl wythnos ym mis Tachwedd, cafodd y gwasanaeth ei effeithio'n ddifrifol gyda hyd at 25 o'r cyfanswm o 127 o unedau'n segur yn aros am waith troi teiars ar gyfer difrod mannau fflat. Yn ogystal, roedd setiau olwynion 4 – 5 uned yn nesáu at ddiwedd eu hoes weithredol, gan roi mwy o straen ar gyfleusterau cynnal a chadw.

Mae mannau fflat yn digwydd pan fydd olwyn yn llithro ar hyd y rheilffordd yn lle rholio. Mae hyn yn digwydd pan fydd llai o ffrithiant nag arfer yn y man cyswllt ('rheilffordd lithrig’). Mae hon yn broblem adnabyddus ar reilffyrdd ledled y byd ac mae'n gysylltiedig â dail a lleithder ar y cledrau yn aml iawn. Fodd bynnag, mae wedi dod yn amlwg y gall ystod ehangach o ffactorau gael dylanwad hefyd, sy'n cynnwys:

- Sylweddau estron lleol sy'n halogi wyneb y cledrau;

- Sut mae proffiliau olwynion, rheilffyrdd a blociau brêc yn rhyngweithio;

- Technolegau modern ar drenau i reoli ymlyniad isel;

- Hyfforddiant i yrwyr, polisi a phrofiad o amodau ymlyniad isel;

- Dulliau trin wyneb y cledrau;

- Prosesau ar gyfer ymateb i adroddiadau ymlyniad isel/mannau fflat ac ymateb iddynt;

O ystyried y system olwynion-rheilffordd yn ei chyfanrwydd, mae grŵp gweithredu wedi cael ei sefydlu i edrych yn fanylach ar y materion uchod. Mae'n cael ei ariannu ar y cyd gan TrC a Network Rail (NR), gydag ymgynghorwyr annibynnol yn cynghori lle bo angen. Bydd y Bwrdd Diogelwch a Safonau Rheilffyrdd (RSSB) yn cyfrannu hefyd er mwyn ategu sylfaen eang o wybodaeth a sicrhau y gellir rhannu allbynnau â'r diwydiant ehangach.

Nod argymhellion yr adroddiad hwn yw cyfeirio ymdrechion lliniaru lle bydd yr enillion mwyaf i'w gweld ar gyfer hydref 2019. Mae'r camau gweithredu a'r amserlenni cyfredol sydd wedi'u cytuno fel a ganlyn:

- Ystyried meysydd lle y gwnaeth paratoadau'r hydref weithio'n dda a lle gallai dull gwahanol o fynd ati arwain at welliannau;

- Parhau i leoli ac ymchwilio i sylweddau estron ar wyneb y cledrau a allai fod wedi cyfrannu at ymlyniad gwael yn 2018;

- Deall unrhyw broblemau rhyngweithio ehangach rhwng olwynion a'r cledrau sy'n effeithio ar fflyd TrC;

- Cynnal pecyn o addasiadau er mwyn gwella gwydnwch y fflyd yn yr hydref a chael data meintiol ar ymlyniad;;

- Gweithredu proses i adolygu ac ymateb i wybodaeth am ymlyniad mewn modd amserol.

Mae'r adroddiad hwn yn disgrifio'r gwaith a wnaed ers lansio'r ymchwiliad ym mis Tachwedd 2018, y canfyddiadau hyd yma a'r camau i liniaru'r effeithiau ar gyfer hydref 2019. Bydd y traciwr argymhellion yn cael ei ddiweddaru ar ôl pob cyfarfod misol rhwng Gweithrediadau a Pheirianneg TrC ac NR.

 

Amserlen Camau Gweithredu TrC/ NR (Crynodeb hyd yma)

Delwedd: tabl yn dangos Amserlen Camau Gweithredu TrC/ NR (Crynodeb hyd yma)

 

Cyflwyniad

Mae mannau fflat ar olwynion, y mae enghreifftiau ohonynt i'w gweld yn Ffigur 1, yn fath o ddifrod i olwyn sy'n digwydd pan fydd olwyn yn llithro yn erbyn y cledrau. Mae hyn yn digwydd pan fo cyfernod ffrithiant rhwng olwyn a'r cledrau yn annigonol i gynnal yr ymlyniad sydd ei angen i sicrhau'r grym tyniad/brecio dymunol. Wrth i'r set olwynion roi'r gorau i rolio'n rhydd, gan naill ai rholio'n arafach na'r gweddill neu gloi'n llwyr, mae man fflat yn datblygu ar hyd gwadn yr olwyn ac mae'r trên allan o reolaeth am eiliad. Unwaith mae hyn yn digwydd, bydd sŵn curo wrth i'r olwyn droi yn dangos bod yna fan fflat. Hefyd, bydd grymoedd fertigol rhwng yr olwyn a'r cledrau yn cynyddu, sy'n gallu difrodi'r cerbyd a'r rheilffordd os nad ydynt yn cael sylw.

Ffigur 1: Enghreifftiau o fannau fflat difrifol o fis Tachwedd 2018.

Mae dwy brif safon sy'n rheoli mannau fflat ar olwynion o ran eu maint a'r grymoedd effaith y maent yn eu cynhyrchu gan gynnwys Safon y Grŵp Rheilffyrdd GM/RT 2466 [1] sy'n ei gwneud yn ofynnol i'r unedau â mannau fflat 40-60mm o hyd gael eu tynnu o'r gwasanaeth a Safon Network Rail NR/SP/TRK0133 [2] sy'n gosod terfynau o ran grymoedd effaith a dylid cymryd yr unedau allan o wasanaeth os ydynt yn mynd uwchlaw'r terfynau hyn.

Caiff mannau fflat eu cywiro drwy ailbroffilio'r olwyn ar durn, sy'n arwain at golli deunydd olwyn a byrhau hyd oes y set olwynion. Mae'n effeithio ar argaeledd trenau ar gyfer gwasanaethau hefyd - felly rhaid rhoi mesurau ar waith i leihau'r risg o fannau fflat. Caiff mannau fflat eu hachosi gan nifer o fecanweithiau ar draws y system reilffyrdd gan gynnwys:

Seilwaith – amodau gwael ar ben y cledrau yn sgil dail (a strategaeth rheoli llystyfiant ar hyd y rheilffordd) neu ddifwynwyr allanol eraill fel saim, olew, disel, gweddillion diwydiannol a ffermio, geometreg y rheilffordd (graddiannau a chrymedd);

Cerbydau – cyfluniad y breciau ac addasu breciau, system ddiogelu rhag i olwynion lithro (WSP), system taenu tywod a chydnawsedd olwynion/cledrau;

Gweithrediadau -amserlennu, arferion cyflymu/brecio gyrwyr, hyfforddiant gyrwyr a'u profiad o amodau ymlyniad isel;

Yr amgylchedd – effeithiau tymheredd a lleithder ynghyd â'r uchod, neu dueddiadau yn yr hinsawdd yn newid pryd mae dail yn cwympo a faint sy'n cwympo.

Felly mae angen ystyried yr holl ffactorau cyfrannol wrth benderfynu ar ddull o atal mannau fflat ar olwynion yn y dyfodol.

Fel y dangosir yn Ffigur 2, mae'r nifer o fannau fflat ar olwynion sy'n effeithio ar fflydoedd TrC wedi tyfu yn ystod y 2-3 mlynedd diwethaf. Gwelwyd y cynnydd mwyaf erioed yn hydref 2017 o gymharu â 2016, a rhagorwyd ar hwnnw eto gyda chynnydd o fwy na 50% yn ystod 2018. Ar yr adeg waethaf yng nghanol mis Tachwedd 2018, roedd dros chwarter fflyd TrC ar stop yn disgwyl am eu tro ar y turn olwynion neu set olwynion newydd.

Ffigur 2: Unedau ar stop i durnio teiars bob hydref – cyfanswm hyd yma.

Gellir gweld bod y gyfradd o fannau fflat wedi gostwng ar ôl diwedd mis Tachwedd, gyda dim ond rhai achlysurol i'w cael yn ystod mis Rhagfyr ac i mewn i Ionawr 2019.

Yn ystod 2018, roedd mannau fflat wedi'u dosbarthu'n gyfartal ar draws unedau dosbarth 142, 143 a 150. Mae trenau dosbarth 150 yn gwasanaethu amrywiaeth ehangach o lwybrau, mae ganddynt fwy o seddi ac maent yn cymryd mwy o amser i'w troi - a dyna pam ystyriwyd bod eu heffaith ar y gwasanaeth i deithwyr yn fwy difrifol.

O fflyd TrC, dim ond dosbarthiadau 158 a 175 sydd wedi'u ffitio â system WSP. Nid yw'r unedau dosbarth 14X a 15X, sy'n gweithredu'n bennaf ar reilffyrdd y Cymoedd, yn cael eu gwarchod ac felly cawsant eu heffeithio'n waeth. Mae offer taenu tywod ar gael ar yr unedau hyn i wella ymlyniad lle bo angen. Fodd bynnag, caiff y system ei rhoi ar waith â llaw, sy'n golygu na fydd yn cael ei defnyddio hyd nes y bydd y gyrrwr yn sylwi bod olwyn yn llithro.

At hynny, nid oes system rybuddio yn y caban i roi gwybod i'r gyrrwr bod trên yn dod at safleoedd ymlyniad isel. Gosodir arwyddion ar ochr y lein yn ystod yr hydref i roi gwybod i yrwyr [3], mewn ardaloedd lle mae'n hysbys bod ymlyniad gwael (fel y rhestrir yn Atodiad Adrannol NR), sy'n rhoi ychydig bach o rybudd.

Mae'n hanfodol bwysig bod yr unedau'n cael eu gosod â system WSP a bod y system taenu tywod yn un awtomatig ac wedi'i chysylltu â'r WSP fel bod tywod yn cael ei daenu cyn gynted ag y sylwir ar olwyn yn llithro.

 

Gwaith a wnaed, Yr Hydref 2018

Mae TrC wedi sefydlu'r ymchwiliad presennol i asesu'r ffactorau a gyfrannodd at fannau fflat ar olwynion yn 2018. Hyd yma, edrychwyd ar y meysydd canlynol:

Paratoadau Arriva/TrC ar gyfer yr hydref

Yn ystod y cyfnod paratoi, gweithiodd KeolisAmey yn agos gyda Threnau Arriva Cymru i leihau'r risgiau i'r fflyd a berir gan yr hydref:

• Cwblhau newidiadau i setiau olwynion i sicrhau bod oes olwynion ar ddechrau'r hydref yn 6 mis o leiaf yn unol â phroses QP002 Trenau Arriva. Ar gyfer fflydau 14X a 15X, cyflawnwyd hyn ar gyfer 83% o echelau, wrth ddefnyddio cyfraddau traul cyfartalog ar gyfer 2016-17 a gyfrifwyd gan KeolisAmey. Fodd bynnag, ar y pwynt hwn roedd nifer yr olwynion a ddifrodwyd yn llawer uwch nag y rhagwelwyd.

• Comisiynu asesiad o gyflwr a chontract cynnal a chadw ar gyfer y turn olwynion yn Nhreganna, yn ogystal â chytuno ar fynediad at durnau olwynion eraill er mwyn atgyfnerthu gallu troi teiars.

• Sicrhau bod cyflenwad o setiau olwynion treilar/wedi'u pweru newydd ar gael, a gallu cyflenwyr lleol i ail-banio/adnewyddu echelau yn ôl yr angen.

Paratoadau Network Rail gyfer yr hydref

Cyn i'r dail ddechrau cwympo, cynhaliwyd nifer o gamau y cytunwyd arnynt i liniaru effaith cwymp dail ar ymlyniad olwynion-cledrau, gan gynnwys:

• Diweddaru rhestr yr Atodiad Adrannol o safleoedd ymlyniad isel. Yn seiliedig ar adroddiadau o ddigwyddiadau yn y gorffennol, mae hyn yn rhan o'r briff a roddwyd i'r gyrwyr ym mis Medi.

• Cafodd torri llystyfiant ei flaenoriaethu mewn nifer o ardaloedd, a nodwyd gan asesiad pwysedig o risg SPAD. Caniatawyd hyn er gwaethaf adolygiad ehangach gan yr Adran Drafnidiaeth o reoli coed ar hyd rheilffyrdd.

• Cynlluniwyd diagramau o drên trin wyneb y cledrau (RHTT), ac ar gyfer 2018 roeddent yn cynnwys 2 driniaeth ddyddiol o linell Cwm Rhymni. Dechreuodd y RHTT redeg ar 1 Hydref, a oedd ar ôl dechrau'r cyfnod ymlyniad isel fel y gwelir yn Ffigur 1.

• Defnyddiwyd taenwyr gel tyniant (TGA) mewn nifer o leoliadau a chafodd rhai eu huwchraddio ar gyfer 2018. Mae'r teclynnau hyn ar ymyl y rheilffordd yn dosbarthu gel sy'n cynnwys sandite i wyneb y cledrau ar adegau sy'n cael eu penderfynu gan fynd a dod y trenau. Er gwaethaf yr adolygiadau blynyddol, nid yw eu lleoliad o amgylch y rhwydwaith wedi newid llawer ers sawl blwyddyn.

Ffigur 3: (a) Trên trin wyneb y cledrau (b) Taenwr gel tyniant.

Ymchwiliad Rhagarweiniol TrC

Er mwyn sicrhau bod pob parti yn cyfrannu at y gwaith yn y dyfodol, cynhaliwyd cyfarfod ar 3 Ionawr 2019 rhwng TrC, NR ac MRCL. Nodwyd y pwyntiau trafod canlynol:

• Dangosodd adolygiad o adroddiad ar ôl yr hydref NR [4] fod llystyfiant ond yn cyfrif am ran o'r broblem ymlyniad ac nid y cyfan ohoni. Mae'r adolygiad yn rhoi dadansoddiad o gofnodion o ymlyniad isel (ROLAs) yn ôl lleoliad a lefel halogiad.

• Mae dadansoddiad NR samplau yn dilyn ROLAs yn dangos bod halogiad dail yn bresennol mewn 29 o 61 o achosion. Mae dosbarthiad ROLAs hefyd yn adlewyrchu'r patrwm hwn, fel y mae wedi'i fapio yn Atodiad A. Roedd y safleoedd â'r nifer fwyaf o ROLAs, Llanilltud Fawr a Threhafod, mewn ardaloedd ag ymdrechion dwys i dorri llystyfiant.

• Fodd bynnag, rhaid bod yn ofalus wrth ddefnyddio ROLAs fel ffynhonnell data. Mae nifer yr adroddiadau hyn yn isel (4 yn y tymor cyfan ar y gwaethaf) ac mae a yw gyrwyr yn penderfynu rhoi gwybod am amodau yn fater goddrychol iawn. Mae hyn yn rhannol oherwydd newid yn y derminoleg ar gyfer 2018, sy'n dynodi amodau rheilffordd fel 'da', 'yn unol â'r disgwyl' neu 'adroddadwy'. Defnyddir y ffurflen ar gyfer gwasanaethau teithwyr sy'n aros mewn gorsafoedd a threnau cludo nwyddau a allai ddioddef o lithr olwyn ar lethrau. Felly, mae angen gwaith pellach i fireinio'r map yn Atodiad A.

• Cyn yr hydref 2017, gosododd Network Rail yr addasydd ymlyniad ar wyneb y cledrau, fel triniaeth atodol ochr yn ochr â chwistrellu dŵr a thaenwyr wrth ymyl y rheilffordd, mewn 47 o safleoedd ar draws rhwydwaith Cymru a'r Gororau, heb gynnwys cledrau’r Cymoedd. Mae addaswr ymlyniad yn gymysgedd o ronynnau tywod a metel mewn daliant gel. Mae wedi'i gynllunio i wella'r ffrithiant yn y rhyngwyneb olwynion-cledrau gyda'r nod o leihau'r llithriad olwynion. Yn dilyn hydref heriol yn 2016, cytunodd Network Rail a Threnau Arriva ar y cyd i ddileu'r taenu addaswr ymlyniad o'r manylebau triniaeth. Wedi hynny, mae'r data a gasglwyd yn ystod yr hydref 2017 a 2018 wedi'i ddadansoddi ac mae'n dangos mai dim ond 2 o'r 47 o safleoedd a gafodd eu trin ag addaswyr ymlyniad yn flaenorol a welodd gynnydd yn nifer y digwyddiadau ymlyniad a gofnodwyd dros flynyddoedd olynol ers i'r defnydd ohono gael ei atal.

• Mae'r teithiau camerâu olwynion-cledrau fel y'u hamlinellir yn yr adran ganlynol wedi datgelu bod nifer o sylweddau eraill yn bresennol a allai fod yn effeithio ar ymlyniad, yn enwedig os byddant yn bresennol gydag anwedd mewn tywydd penodol.

• Mae profion TGA eisoes wedi'u cynnal gan ddefnyddio dau frand gwahanol o gel ac mae eu cyfradd defnyddio yn amrywio. Mae effeithiolrwydd gwirioneddol taenwyr wrth ymyl y rheilffordd yn faes posibl i'w adolygu - cynhaliodd NR dreial o bellter cario'r gel yn Ebrill 2017, gan ganfod bod y gel mewn cysylltiad unwaith yn unig am bob cylchdro'r olwyn a'i fod yn ymestyn tua 50 metr y tu hwnt i'r taenwr. Nodir hefyd y gall y gel gael ei ddefnyddio, neu fod ffroenellau'n gallu cael eu blocio, cyn y cylch arolygu/ailgyflenwi o 2 wythnos. Mae eu cyfyngiadau yn golygu y gallai eu presenoldeb fod yn peri i yrwyr oramcangyfrif yr amodau ymlyniad a brecio'n galetach o ganlyniad.

• Ar ôl diwedd yr hydref, cynhaliodd Network Rail brofion swab mewn pedwar safle lle'r oedd yna ymlyniad isel. Ni wnaeth canlyniad dadansoddiad swab ddangos difwynwyr sylweddol ar gledrau ac eithrio olion malurion du/brown, calsiwm (un safle), silicon, ffosfforws a hydrocarbonau. Gallai'r rhain fod yn fwynau neu'n irad. Mae irad yn aml yn cynnwys calsiwm a ffosfforws, felly mae'n bosibl bod gormod o irad yn cyfrannu at y broblem.

• Dangosodd dadansoddiad o'r lawrlwythiadau monitro a chofnodi ar drenau (OTMR), a gymerwyd o unedau a gafodd eu rhoi ar stop gan fannau fflat, fod profion brêc yn cael eu cynnal mewn rhai achosion gan ddefnyddio brêc cam 2 o'r dechrau, yn hytrach na defnyddio cynnydd rheoledig drwy gam 1, fel y dangosir yn Ffigur 4 isod. Deilliodd yr arfer hwn o amwysedd yng nghyfarwyddiadau brecio'r gyrwyr, a oedd yn cynnwys gweithredoedd nad oes eu hangen bellach yn ôl y rheolau. O ganlyniad, mae'r cyfarwyddiadau i gael eu diweddaru, i weithredu'r brêc yn fwy graddol ar unedau brêc gwadn heb WSP.

Ffigur 4: Enghraifft o lawrlwythiad OTMR dosbarth 150 OTMR yn dangos llithriad olwyn ar gyflymder o 70mya. Mae’r cyflymder (glas) yn lleihau’n gyflym ar ôl pwyso’r brêc sy’n dangos bod y set olwynion wedi’i chloi wrth i’r trên barhau i symud.

Camerâu rhyngwyneb olwynion-cledrau

Mae gosod camerâu o dan drenau, ynghyd â GPS i fonitro cyflymder a lleoliad y trenau, yn rhoi'r gallu i gofnodi ymddygiad troi a brecio setiau olwynion. Nod y dull hwn yw lleoli unrhyw broblemau'n ymwneud â phroffiliau olwynion a chledrau, yn ogystal â helpu i nodi ardaloedd â difwynwyr (naill ai llystyfiant neu ffynonellau allanol) a allai fod yn effeithio ar ymlyniad.

Ffigur 5: Offer wedi’i osod ar waelod y trên a llun o’r camera.

Yn dilyn y cyfarfod cychwynnol, cwblhawyd y broses newid peirianneg er mwyn gosod camerâu ar y trenau a oedd yn rhedeg fel stoc coetsys gwag mewn traffig yn ystod y nos. Defnyddiwyd uned dosbarth 150 i gwmpasu cymaint o'r rhwydwaith ag sy'n rhesymol ymarferol a chan fod yr unedau 150 wedi gweld cynnydd mewn mannau fflat yn unol â fflydoedd eraill.

Roedd y safleoedd a awgrymwyd ar gyfer profion yn cynnwys cymysgedd o'r rheini ag ymlyniad da; rhestrir ardaloedd gwael hysbys yn yr Atodiad Adrannol (ychwanegwyd nifer o'r rhain yn 2018); a rhai a allai fod â difwynwyr pellach ar wyneb y cledrau. Cynhaliwyd y profion dros ddwy noson yn olynol, sef 12 a 13 Rhagfyr. Cofnodwyd manylion llawn y codau, yr amserau a gynlluniwyd a'r amseroedd gwirioneddol [5]. Cafodd profion brêc eu cynnal gan yrwyr yn ôl yr arfer a chynlluniwyd arosfannau mewn gorsafoedd sy'n ardaloedd ymlyniad isel hysbys. Recordiwyd cyfanswm o tua 15 awr o fideo, a oedd yn cwmpasu tua 450 milltir o gledrau.

Dylid nodi bod y mynegai ymlyniad fel y'i rhagwelwyd gan NR yn cael ei ystyried yn 'dda' ar ddyddiadau'r profion, a bod cwymp y dail yn tynnu at ei derfyn. Rhagwelwyd y byddai'r dail ar y ddaear yn 1.1%, yn wahanol i >5% yn ystod y cyfnodau mwyaf difrifol o'r tymor cwympo dail.

Cipiodd y camerâu sawl digwyddiad nodedig, fel y'u disgrifir yn Atodiad B, a'r rhain oedd y pwyntiau trafod ar gyfer y cyfarfod cychwynnol rhwng NR a TrC.

 

Casgliadau hyd yn hyn

Yn seiliedig ar y gwaith a wnaed uchod, mae'r canfyddiadau canlynol wedi dod i'r amlwg sy'n pennu'r cyfeiriad ar gyfer camau gweithredu pellach:

• Nid cwymp dail yn unig sy'n achosi problemau ymlyniad. Felly, mae angen mynd i'r afael â'r broblem mewn ffordd ehangach, a bydd angen ailedrych ar y rhaglen torri llystyfiant ar hyd rheilffyrdd er mwyn canolbwyntio ymdrechion lle maent yn fwyaf perthnasol.

• Cafwyd cynnydd o 64% mewn ROLAs yn 2018 er gwaethaf y newid yn y derminoleg, gan amlygu arwyddocâd y duedd. Mae'r rhain yn parhau'n ffordd oddrychol o adrodd ar amodau wyneb y cledrau ac mae angen data mwy dibynadwy i lywio penderfyniadau.

• Efallai y bydd yn rhaid dechrau rhedeg RHTT ar rai rhannau o lwybr Cymru yn gynt nag arfer. Yn 2018, dechreuodd y gwaith RHTT ar 1 Hydref (2 wythnos ynghynt na blynyddoedd blaenorol), ond dechreuodd fflatiau ar fflyd TfW ddod i'r amlwg ym mis Medi. Erbyn 1 Hydref roedd 60 o fannau fflat eisoes yn rhoi trenau ar stop.

• Dangosodd astudiaeth fanwl o allbynnau OTMR fod rhai gyrwyr wedi brecio'n rhy siarp wrth ddefnyddio brecio cam 3 ar gyflymder uchel.

• Dangosodd y recordiad fideo nifer o broblemau posibl gyda'r rhyngwyneb olwynion-cledrau:

- Olwynion yn llithro wrth frecio ar dro cas;

- Irad neu ddŵr ar wyneb y cledrau;

- Llystyfiant yn tyfu ger y lein;

- Llwch yn cael ei dasgu o'r rhyngwyneb, yn arbennig yn ystod cyswllt fflans.

• Mae profion swab wedi dangos bod tywod yn cael ei ddefnyddio mewn rhai lleoliadau y tu allan i'r hydref, gan atgyfnerthu'r syniad bod problemau ymlyniad sylfaenol yn bodoli drwy gydol y flwyddyn.

 

Argymhellion

Yr amcan yn dilyn yr adroddiad hwn yw cynnal gweithgor misol, er mwyn lleihau'r risg o fannau fflat yn hydref 2019. Bydd y tîm ymchwilio yn cynnwys TrC, Network Rail ac ymgynghorydd annibynnol ar y rhyngwyneb olwynion/cledrau i sicrhau bod pob rhanddeiliad yn mynd i'r afael â phroblemau. Bydd y RSSB yn cymryd rhan hefyd i gyfryngu trafodaethau os bydd angen a sicrhau bod y canfyddiadau yn cynrychioli (neu'n gallu helpu i lywio) arfer gorau'r diwydiant. Dylai cwmpas y gweithgor gael ei lywio gan ganfyddiadau'r adroddiad hwn a'i ddiweddaru'n gyson wrth i gamau gweithredu gael eu cwblhau.

Delwedd: tabl yn dangos Perchennog, Cam Gweithredu, Diweddariad, Statws. 

Bydd casgliadau pellach yn cael eu hychwanegu at yr adroddiad hwn unwaith y bydd y bobl dan sylw yn hyderus bod achosion sylfaenol wedi cael eu nodi a bod y camau gweithredu y cytunwyd arnynt yn mynd i'r afael â nhw mor llawn â phosibl. Nodwyd y risgiau prosiect isod a chytunwyd ar y mesurau lliniaru perthnasol.

Tabl yn dangos: Risg a Lliniaru.

Risg #1: Gallai gwneud sawl newid i'r gwaith o reoli ymlyniad (ynghyd ag amrywioldeb naturiol yn y tywydd) gelu a yw'r newidiadau wir yn mynd i'r afael ag achosion sylfaenol.

Lliniaru: Lle y bo'n ymarferol, dylid treialu newidiadau newydd ar safleoedd penodol am gyfnod cychwynnol i asesu eu heffeithiolrwydd yn feintiol cyn eu cyflwyno'n ehangach. Cyfranogiad RSSB i ddod ag ymarfer o lwybrau /cwmnïau rheilffordd eraill.

Risg #2: Gyrwyr newydd (50) yn dechrau ar gledrau'r Cymoedd yn gyrru yn yr hydref am y tro cyntaf.

Lliniaru: Defnyddio efelychwyr ar gyfer hyfforddiant ymlyniad isel, gan ystyried manteision/anfanteision yn erbyn diwrnodau hyfforddiant llwybrau llithrig. Briffiau gan yrwyr sydd â phrofiad o amodau cyfnewidiol. Adborth rheolaidd ar ymlyniad er mwyn annog adroddiadau cyson.

Risg #3: Rhaglen gosod WSP ar unedau dosbarth 150 ar y gweill, ond heb ei chwblhau cyn mis Hydref.

Lliniaru: Briff gyrwyr cyn yr hydref i adlewyrchu hyn.

 

Dogfennau cyfeirio

[1] Railway Group Standard GM/RT 2466 Rhifyn 03 Chwefror 2010

[2] Safon Network Rail NR/SP/TRK0133 Rhifyn 3 Mehefin 2006

[3] Trenau Arriva Cymru, Briff Gyrwyr, Medi 2018

[4] Network Rail, Adolygiad Cymru a'r Gororau Hydref 2018

[5] Gwasanaethau Rheilffordd TRC, Log amseru treial olwynion-cledrau, Rh

 

Atodiad A: Safleoedd ymlyniad isel sydd wedi cael sylw

Tabl yn dangos: Mae’r tabl hwn yn rhestru’r safleoedd o ddiddordeb a gafodd sylw yn ystod y ddwy daith â chamera – fel y’u mapiwyd.

Delwedd: Llwybrau a deithiwyd wrth dreialu’r camera, yn dangos safleoedd ag ymlyniad gwael hysbys, blaenoriaeth rheoli llystyfiant a mwy na 2 gofnod o ymlyniad isel (ROLAs) wedi’u cyflwyno.

 

Atodiad B: Canfyddiadau’r camera

Roedd edrych ar y lluniau yn dangos rhai ffactorau a allai fod yn cyfrannu at ymlyniad isel – dyma rai enghreifftiau:

Delwedd 1: Dail ar falast platfform i lawr Sgiwen.

Delwedd 2: Naddion metel i’w gweld wrth frecio, lawr y lein i Lanhiledd.

Delwedd 3: Llithriad olwynion, i fyny’r lein i Lanhiledd.

Delwedd 4: Dŵr ar wyneb y cledrau, twnnel Cocyd i lawr.

Delwedd 5: Llwch yn cael ei daflu o’r rhyngwyneb olwynion-cledrau, am i fyny y tu hwnt i orsaf Pontypridd.