Mae croesfannau rheilffordd ar gael mewn lleoliadau gwahanol ar draws y rheilffordd lle mae angen i ffyrdd a llwybrau troed groesi’r cledrau. Maen nhw’n helpu cerddwyr, traffig ar y ffyrdd ac anifeiliaid i groesi’n ddiogel.

Network Rail sy’n gyfrifol am weithredu croesfannau rheilffordd ac mae sawl math gwahanol ohonynt. Er enghraifft, mae croesfannau sy’n defnyddio rhwystrau awtomatig a goleuadau rhybudd ar gyfer priffyrdd prysur a chroesfannau lle mae llwybr troed â giât ar gyfer ardaloedd trefol a gwledig.

Mae Network Rail yn asesu pob croesfan yn ofalus ac yn rhoi iddi lefel briodol o ddiogelwch yn unol â’r canllawiau diogelwch a gymeradwywyd gan Arolygiaeth Rheilffyrdd Ei Mawrhydi. Felly mae’r math o groesfan a ddarperir mewn unrhyw leoliad penodol wedi cael ei ystyried yn ofalus ac mae’n dibynnu ar ffactorau fel pa mor gyflym ac aml yw’r trenau a faint o draffig sydd ar y ffyrdd.

 

Pan fyddwch chi’n defnyddio croesfan reilffordd, cofiwch wneud y canlynol:

  • darllenwch yr arwyddion rhybudd a dilynwch y cyfarwyddiadau’n ofalus
  • os ydych chi ar feic, dewch oddi arno a cherddwch
  • goruchwyliwch blant ac anifeiliaid
  • stopiwch, edrychwch bob ffordd a gwrandewch
  • pan fydd y lein yn glir, croeswch yn gyflym heb redeg (gan edrych a gwrando o hyd)
  • os oes giât, dylech bob amser ei chau ar eich ôl

 

Os ydych chi’n gyrru, dilynwch Reolau’r Ffordd Fawr - yn ogystal â'r arwyddion rhybudd a ddarperir yn lleol - fel y rheolau sylfaenol hyn:

  • darllenwch a dilynwch yr arwyddion rhybudd wrth ddynesu at y groesfan
  • dylech gymryd sylw o unrhyw oleuadau rhybudd, larymau clywadwy a rhwystrau awtomatig
  • peidiwch â chael eich temtio i ‘neidio’r goleuadau’ neu guro’r rhwystrau. Mewn sawl lleoliad mae camerâu ‘Gatso’ yn cael eu gosod i arsylwi achosion o gamddefnyddio croesfannau ac fe allech chi gael eich erlyn
  • mewn rhai lleoliadau, mae ffôn yn darparu cyswllt uniongyrchol â’r swyddog signalau. Os nad ydych chi’n siŵr, dylech bob tro ffonio’r swyddog signalau i wneud yn siŵr ei bod hi’n ddiogel i chi groesi.

Gallwch chi helpu i wneud croesfannau’n fwy diogel drwy ddangos esiampl dda a mynnu bod eich teulu, ffrindiau a defnyddwyr eraill yn dilyn y rheolau. Gallai camddefnyddio croesfan reilffordd arwain at farwolaeth neu anaf difrifol i chi’ch hun neu i eraill, yn cynnwys y bobl ar y trên.

Cofiwch, peidiwch â chymryd risgiau. Meddyliwch yn ddiogel, byddwch yn ddiogel.

I gael rhagor o wybodaeth am ddiogelwch rheilffyrdd, cysylltwch â llinell gymorth genedlaethol Network Rail ar 03457 114 141 neu ewch i Network Rail.

Os byddwch chi’n gweld unrhyw un heblaw staff y rheilffordd neu gontractwyr ar y cledrau, ffoniwch yr Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig  ar 0800 405 040.