Cyflogwr teg a chynhwysol

Mae Trafnidiaeth Cymru (TrC) yn gyflogwr teg a chynhwysol sy’n cydnabod bod Undebau Llafur yn elfen bwysig wrth inni adeiladu ein sefydliad. Felly mae Trafnidiaeth Cymru wedi dewis cydnabod yr holl undebau yn y sectorau er mwyn sicrhau ein gallu, wrth inni dyfu, i weithio’n effeithiol mewn Partneriaeth Gymdeithasol.

Mae TrC yn awyddus i hyrwyddo penodiad blaengar trwy gael cynrychiolydd enwebedig o’r Undebau ar Fwrdd y Cyfarwyddwyr, a’n bwriad yw penodi Cynrychiolydd yr Undebau Llafur i’n Bwrdd.

Mae TrC yn cydlafurio â’r Undebau Llafur canlynol: