Wedi sylwi. Wedi sôn. Wedi setlo.

Os gwelwch rywbeth nad yw'n edrych yn iawn, siaradwch â staff neu anfonwch neges destun i Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig ar 61016.
Fe wnawn ni ei ddatrys. Wedi sylwi. Wedi sôn. Wedi setlo.

Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig yw'r gwasanaeth heddlu cenedlaethol ar gyfer rheilffyrdd Cymru, Lloegr a'r Alban.  Maent yn darparu gwasanaeth plismona i weithredwyr rheilffyrdd, eu staff a theithwyr.  Maen nhw hefyd yn gyfrifol am blismona system London Underground, Rheilffordd Ysgafn y Dociau, System Tramiau Metro Canolbarth Lloegr a Croydon Tramlink.

Ewch i wefan Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig yma.

 

Pryd ddylwn i gysylltu â Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig?

Tecstiwch 61016* neu ffoniwch 0800 405 040 pryd:

  • os ydych am roi gwybod am ddigwyddiad sydd eisoes wedi digwydd mewn dull di-sylw
  • mae materion yn effeithio arnoch chi yn yr orsaf neu ar y trên
  • mae gennych ymholiad cyffredinol i’r heddlu

Caiff y rhif neges testun ei fonitro 24/7 ac, er nad yw ar gyfer riportio argyfyngau, bydd Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig yn anfon swyddogion os oes angen.

*Gall eich darparwr gwasanaeth ffôn  symudol godi ffi bach am yrru neges destun at 61016. Bydd yr union gost yn dibynnu ar eich rhwydwaith a'ch tariff.

 

Pryd i ddeialu 999?

Deialwch 999 os ydych angen ymateb brys gan yr heddlu megis:

  • mae trosedd yn digwydd
  • mae rhywun sy'n cael ei amau o drosedd gerllaw
  • mae rhywun wedi'i anafu, dan fygythiad neu mewn perygl

Os yw eich ymholiad yn ymwneud â bysiau neu ffyrdd, gallwch gysylltu â heddlu lleol unrhyw le yn y wlad trwy ddeialu 101.

 

Ap y Railway Guardian

Mae ap Railway Guardian yn blatfform cyfathrebu dwy ffordd newydd arloesol rhwng Heddlu Trafnidiaeth Prydain a defnyddwyr y rheilffyrdd, a gynlluniwyd i annog adrodd am bryderon a throseddau ar y rhwydwaith rheilffyrdd trwy fformat mwy manwl gywir.

Dyma ap diogel sydd yma i'ch helpu teimlo yn fwy diogel wrth deithio.

Mae'r ap yn eich galluogi i:

  • Adrodd trosedd
  • Rhannu eich taith
  • Mynediad i newyddion, canllawiau a chymorth

Lawrlwythwch Ap Railway Guardian am ddim.

Ap y Railway Guardian