Safonol. Profiadol. Dibynadwy.
Gwasanaethau peirianneg arbenigol all roi eich cerbydau rheilffordd yn ôl ar y trac iawn.
Yn gwasanaethu diwydiant rheilffyrdd y DU ers dros 25 mlynedd, rydym yn darparu cynhyrchion a gwasanaethau o'r ansawdd uchaf un a hynny ar amser.
Ein gwasanaethau
Ein harbenigedd yw ailwampio ac adnewyddu Cerbydau Trên a Cherbydau Cludo Nwyddau ar gyfer Cwmnïau Trenau, FOC a ROSCO, popeth o uwchraddio, ailwampio, adnewyddu a chynnal a chadw cerbydau teithwyr a cherbydau chludo nwyddau a ddefnyddir ar reilffyrdd y DU.
![]()
Cerbydau cludo teithwyr a nwyddau
Ailwampio, adnewyddu neu adfer cerbydau cludo teithwyr a nwyddau.
![]()
Ailwampio bogïau
Ailwampio, adnewyddu neu adfer cerbydau cludo teithwyr a nwyddau. Ailwampio ac adnewyddu pob math o locomotifau, cerbydau cludo teithwyr a cherbydau cludo nwyddau 'bogi'.
![]()
Ailwampio a chyflenwi olwynion
Ailwampio, adnewyddu a chyflenwi pob math o locomotifau, cerbydau teithwyr a setiau olwynion newydd ar gyfer cerbydau cludo nwyddau.
![]()
Cydrannau
Mae gan ein cyfleusterau'r gallu i ailwampio cydrannau o focsys echeli i unedau atal aer a pheiriannau pwysau.
Rydym yn datblygu ein systemau a'n technegau yn gyson i ddarparu peirianneg werthfawr a chynaliadwy, fel y gall eich cerbydau fod yn ôl ar waith cyn gynted â phosibl.
Adborth cwsmeriaid

Mae gan GWR berthynas gadarnhaol â Pullman Rail sy'n dweud ein bod yn hyblyg iawn ac yn canolbwyntio ar y cwsmer o ran bodloni'r galw sydd gennym am gyflenwad o drenau 'Bogie' a set o olwynion. Mae Pullman yn deall gofynion ein busnes ac mae ganddynt y gallu i ymdrin ag unrhyw faterion sy'n codi mewn modd agored a gonest. Mae GWR wedi tyfu ei berthynas a'i gyflenwad gyda Pullman Rail dros y 7 mlynedd diwethaf ac maent yn hapus â gwasanaeth a dibynadwyedd y cynnyrch a gawn. Nathan Vines, Uwch Reolwr Contractau (Peirianneg) ar ran GWR.

Mae gallu Pullman i fodloni gofynion cwsmeriaid wedi arwain at gyflenwi cynhyrchion o ansawdd yn gyson ac ar amser.
Sut gallwn ni helpu?
Byddem yn falch iawn o gael gwell dealltwriaeth o'ch anghenion a'ch gofynion busnes, fel y gallwn deilwra pecyn gwasanaeth sy'n bodloni eich gofynion chi.