Arloesedd ynghyd â phrofiad.
Mae Pullman Rail wedi bod yn gwasanaethu'r diwydiant rheilffyrdd am y ddau ddegawd diwethaf, gan ddarparu arbenigedd technegol a chrefftwaith o ansawdd.
Gan weithredu o'n depo ar y brif reilffordd yng Nghaerdydd, rydym yn cydweithio â'n cleientiaid i ddatblygu atebion arloesol sy'n mynd i'r afael â'u gofynion penodol - o brosiectau ailwampio cyfan, i atgyweirio a chynnal a chadw.
Mae ein harbenigedd technegol mewn diogelwch a rheoli prosiect yn golygu y gallwn ddarparu atebion peirianneg a chynhyrchu pwrpasol er mwyn bodloni manylebau penodol. Rydym yn datblygu ein systemau a'n technegau yn gyson i ddarparu canlyniadau sy'n gynaliadwy, sydd ar amser ac sy'n effeithiol o ran cost - er mwyn cwtogi amseroedd arwain a chylch gwaith fel y gallwn roi eich cerbydau yn ôl ar waith chreu refeniw cyn gynted â phosibl.
Gyda dros 20 mlynedd o brofiad, gan weithio ochr yn ochr â'r diwydiant rheilffyrdd, gallwch ddibynnu arnom i ddarparu canlyniadau eithriadol - wedi'u teilwra i'ch technegau.
Mae Rheilffordd Pullman yn rhan o Grŵp TrC.
Mae ein harbenigeddau yn cynnwys ailwampio ac adnewyddu Cerbydau Trên a Cherbydau Tynnu ar gyfer Cwmnïau Trenau, FOC a ROSCO, popeth o uwchraddio, ailwampio, adnewyddu a chynnal a chadw cerbydau teithwyr a cherbydau cludo nwyddau a ddefnyddir ar reilffyrdd y DU.
Achrediadau

Ers 2010, rydym wedi cynnal achrediad RISAS ar gyfer ein gwaith ailwampio ac atgyweirio bogïau a setiau olwynion.

Ers 1995, rydym wedi cynnal achrediad ISO 9000, gan gadarnhau ymhellach ein hymrwymiad i ansawdd a safonau.
Sut gallwn ni helpu?
Byddem yn falch iawn o gael gwell dealltwriaeth o'ch anghenion a'ch gofynion busnes, fel y gallwn deilwra pecyn gwasanaeth sy'n bodloni eich gofynion chi.