Mae teithio o Abertawe i Fanceinion yn haws nag erioed.

P’un ai a ydych chi’n teithio ar gyfer busnes neu bleser, mae’n haws nag erioed mynd ar y trên o Abertawe i Fanceinion.

Mae trenau’n rhedeg drwy gydol y dydd gyda llawer o wasanaethau uniongyrchol.

 

Pa mor hir mae’n ei gymryd?

Gyda’r daith gyfan yn cymryd tua phedair awr, gallwch fanteisio ar ein Wi-Fi am ddim ar y trên a mwynhau diod boeth neu fyrbryd. Mae gennym amrywiaeth o opsiynau tocynnau a all arbed arian i chi, gan gynnwys ein tocynnau Advance a thocynnau unrhyw bryd.

Gwybodaeth fyw am drenau sy’n gadael ac yn cyrraedd

Pam teithio o Abertawe i Fanceinion?

Mae Manceinion, trysor Gogledd Lloegr o ran ei diwylliant bywiog ac atyniadau cyffrous yn denu ymwelwyr o bob cwr o’r byd i mwynhau ei horielau, ei hamgueddfeydd, ei hanes diwydiannol, ei stadia pêl-droed byd-enwog ac, wrth gwrs, ei siopa. Mae llond trol o bethau i’w gwneud ym Manceinion.

Llwythwch yr ap hawdd ei ddefnyddio i lawr i ganfod y bargeinion gorau a’n holl docynnau rhataf sydd ar gael.