Mae cymaint o bethau i’w gwneud yng Nghasnewydd, sef y ddinas fwyaf ond dwy yng Nghymru - o fynd am dro yng nghefn gwlad i ymweld â mannau hanesyddol hynod. Prynwch docynnau trên ar-lein heddiw, neu ar ein ap hwylus. Dydyn ni ddim yn codi ffioedd archebu.

 

Faint o amser mae’r trên o Gaerdydd i Gasnewydd yn ei gymryd?

Mae trenau'n rhedeg rhwng Caerdydd a Chasnewydd bob rhyw 15 munud neu lai, drwy gydol y dydd. Dim ond 15 munud mae’r daith yn ei gymryd. Nid yw’r trên yn stopio ar y ffordd, felly gallwch chi ymlacio a mwynhau’r daith fer hon. Defnyddiwch ein gwiriwr capasiti i weld pa mor brysur mae eich trên yn debygol o fod ac i gynllunio eich taith.

 

Amseroedd trenau o Gaerdydd i Gasnewydd

Gwybodaeth fyw am drenau sy’n gadael ac yn cyrraedd