Diwallu anghenion cenedlaethau’r dyfodol

Mae ein system drafnidiaeth yn cysylltu pobl â’i gilydd, yn clymu cymunedau at ei gilydd ac yn galluogi busnesau i dyfu ac ehangu. Mae’n un o’r adnoddau mwyaf pwerus a deinamig sydd gennym ar gyfer cydlyniant cymunedol, cyfiawnder cymdeithasol a thwf economaidd cynhwysol.

Bydd Llwybr Newydd – Strategaeth Drafnidiaeth Cymru 2021 yn siapio ein system drafnidiaeth yng Nghymru dros yr 20 mlynedd nesaf drwy bennu ffordd newydd o feddwl sy’n rhoi pobl a newid yn yr hinsawdd ar flaen ac wrth galon ein system drafnidiaeth.

 

Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015

Mae ein dull gweithredu ar gyfer datblygu cynaliadwy yn cael ei arwain gan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015. Mae’n diffinio saith nod llesiant a phum ffordd o weithio i helpu gwasanaethau cyhoeddus i ddiwallu anghenion y presennol heb amharu ar allu cenedlaethau’r dyfodol i ddiwallu eu hanghenion eu hunain.

Dyma sut byddwn ni’n cyflawni’r saith nod llesiant:

 

Cymru lewyrchus

Byddwn yn ysgogi gweithgarwch economaidd ac yn hyrwyddo economi ffyniannus, arloesol a charbon isel, a fydd yn darparu cyflogaeth o ansawdd uchel i aelodau o’n tîm ac i’n cadwyn gyflenwi. Byddwn yn gwarchod adnoddau naturiol ac yn gwella ansawdd yr amgylchedd yr ydym yn gweithredu ynddo drwy hyrwyddo defnydd cynaliadwy, lleihau gwastraff a sbarduno gwelliant parhaus.

 

Cymru gydnerth

Byddwn yn gwella ein cydnerthedd ac yn addasu i’r newid yn yr hinsawdd a digwyddiadau tywydd eithafol, ac yn rheoli risg amgylcheddol drwy gynllunio, monitro, adolygu a, lle bo’n briodol, newid ein camau gweithredu. Byddwn yn lleihau diraddiad cynefinoedd ac adnoddau naturiol, ac yn amddiffyn a gwella bioamrywiaeth.

 

Cymru iachach

Byddwn yn hyrwyddo rhwydwaith trafnidiaeth sy'n gyfartal yn gymdeithasol, yn gynhwysol, yn iach ac yn ddiogel ar gyfer holl aelodau ein tîm.

 

Cymru sy'n fwy cyfartal

Byddwn yn darparu mynediad i systemau trafnidiaeth diogel, fforddiadwy, hygyrch a chynaliadwy i bawb, gan wella diogelwch ar y ffyrdd, yn bennaf drwy ehangu trafnidiaeth gyhoeddus a rhoi sylw arbennig i anghenion pobl dan anfantais. Byddwn yn darparu cyfleoedd i weithio a hyfforddi, gan nodi bylchau mewn sgiliau a chynnig prentisiaethau a hyfforddiant. Byddwn yn parchu hawliau sylfaenol ac amrywiaeth ddiwylliannol, ac yn hybu lles meddyliol a chorfforol.

 

Cymru o gymunedau cydlynus

Byddwn yn defnyddio ein gorsafoedd i roi gwybodaeth i bobl ac i roi gwybod iddynt am ddigwyddiadau lleol a digwyddiadau eraill ledled Cymru, ac i ymgysylltu â chymunedau lleol i wneud yn siŵr bod eu buddiannau wrth galon ein penderfyniadau. Byddwn yn cynnig rhwydwaith trafnidiaeth sy’n fwy integredig, gyda gwell cysylltedd rhwng gorsafoedd a chymunedau.

 

Cymru â diwylliant bywiog lle mae'r Gymraeg yn ffynnu

Byddwn yn hyrwyddo iaith a diwylliant Cymru drwy ymgysylltu â Chyngor Celfyddydau Cymru, Croeso Cymru, Cadw a thrydydd partïon eraill i hyrwyddo celfyddydau, diwylliant, treftadaeth Cymru a’r iaith Gymraeg. Byddwn hefyd yn hyrwyddo celfyddydau, diwylliant a threftadaeth yr ardaloedd eraill rydyn ni’n eu gwasanaethu.

 

Cymru sy'n gyfrifol ar lefel fyd-eang

Byddwn yn lleihau ein heffaith amgylcheddol fyd-eang a’n heffaith ar gymunedau tramor drwy gaffael yn gyfrifol. Byddwn yn cydymffurfio â rheoliadau bioamrywiaeth rhyngwladol ac yn lleihau ein hôl troed carbon.