Rydyn ni eisiau i chi deimlo’n ddiogel wrth deithio gyda ni.

Mae ein staff ar ein trenau ac yn ein gorsafoedd wedi cael eu hyfforddi i ddelio’n hyderus ac yn ddiogel ag amrywiaeth o sefyllfaoedd ac amgylchiadau.

 

Gweld, Dweud, Datrys.

Peidiwch â gadael unrhyw eiddo personol heb ei oruchwylio mewn gorsafoedd, ar drenau na mewn meysydd parcio. Os ydych chi’n gweld rhywun yn ymddwyn yn amheus neu’n dod o hyd i unrhyw eitemau heb eu goruchwylio, rhowch wybod i aelod o staff neu’r Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig, neu cysylltwch â ni yn un o’r mannau cymorth yn ein gorsafoedd. 

 

Yr Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig

Tecstiwch 61016

Yr Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig ydy’r gwasanaeth heddlu cenedlaethol ar gyfer y rheilffyrdd yng Nghymru, Lloegr a’r Alban. Mae’n darparu gwasanaeth plismona i weithredwyr rheilffyrdd, eu staff ac i deithwyr. Mae hefyd yn gyfrifol am blismona system danddaearol Llundain, Rheilffordd Ysgafn y Docklands, System Tram Metro Canolbarth Lloegr, a Croydon Tramlink.

Ewch i wefan yr Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig yma.

 

Yn ein gorsafoedd

Mae’r rhan fwyaf o’n gorsafoedd wedi’u hachredu gyda’r Cynllun Gorsafoedd Diogel sy’n cael ei redeg gan yr Adran Drafnidiaeth a'r Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig, sy’n golygu ein bod wedi ymrwymo i sicrhau bod y gorsafoedd yn amgylcheddau diogel a saff i chi a’n staff.

Efallai y byddwch hefyd yn gweld arwyddion Nod Parcio mewn rhai o’n meysydd parcio, sy’n golygu ein bod wedi cael ein hachredu gan y Cynllun Parcio Mwy Diogel, felly gallwch adael eich car yn hyderus gan wybod ei fod mewn lle diogel.

 

Camerâu Teledu Cylch Cyfyng (CCTV) a chamerâu corff

Mae gan y rhan fwyaf o’n trenau, ein gorsafoedd a’n meysydd parcio systemau teledu cylch cyfyng, sy’n helpu i ddarparu amgylchedd mwy diogel i’n cwsmeriaid a’n staff.

Mae rhai o’n staff hefyd yn gwisgo camerâu corff bach i helpu i’ch diogelu chi ac i wella eu diogelwch personol, yn ogystal â’u defnyddio fel tystiolaeth ar gyfer erlyniadau.