Dewch i ni ddychwelyd i archwilio lleoedd Newydd
Gall ein trenau fynd â chi i rai o gyrchfannau gorau'r DU a hefyd, gallwch arbed hyd at hanner y pris gyda thocynnau Ymlaen Llaw ar deithiau trên pellter hir pan fyddwch chi'n archebu hyd at 6 wythnos cyn teithio*.
Felly, gadewch inni fynd yn ôl at bori heb borwr, i weld golygfeydd dinasoedd ac nid gwefannau, a chael mwy o amser teulu a llai o amser sgrin. Ewch i'n tudalen cyrchfannau i gael golwg ar rai o'n dewisiadau gorau.
*Yn amodol ar argaeledd. Mae telerau ac amodau yn berthnasol. Gweler trc.cymru/advance am fanylion llawn.

Cynllunio taith trên
Gallwch ddod o hyd i docynnau rheilffordd rhad a theithio’n ddiogel yng Nghymru a’r gororau
Gallwch ganfod amseroedd trenau, prynu tocynnau trên rhad a chael gwybodaeth fyw am hynt trenau mewn eiliadau, i gyd wrth glicio botwm
Heb unrhyw ffioedd trafodion byddwch bob amser yn gallu dod o hyd i docynnau trên rhad ar gyfer eich taith, a gyda'n ap rhad ac am ddim, cewch fynediad ar unwaith i amseroedd trên ar flaenau eich bysedd.