Datganiad hygyrchedd ar gyfer trc.cymru

Submitted by content-admin on

1. Cyflwyniad

Mae’r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i tfw.wales a’r cyfeiriad cyfatebol trc.cymru

Transport for Wales sy’n rhedeg y wefan hon. Mae arnom eisiau i gynifer â phosibl o bobl allu defnyddio’r wefan hon. Er enghraifft, mae hynny’n golygu y dylech allu gwneud y canlynol:

  • newid lliwiau, lefelau cyferbynnedd a ffontiau
  • nesáu hyd at 300% heb i’r testun orlifo oddi ar y sgrin
  • gwe-lywio’r rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio bysellfwrdd yn unig
  • gwe-lywio’r rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio meddalwedd adnabod llais
  • gwrando ar y rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio rhaglen darllen sgrin (gan gynnwys y fersiynau diweddaraf o JAWS, NVDA a VoiceOver)

Rydym hefyd wedi sicrhau bod testun y wefan mor syml â phosib i’w ddeall.

Mae cyngor ar gael gan AbilityNet ynghylch gwneud eich dyfais yn haws ei defnyddio os oes gennych chi anabledd.

2. Pa mor hygyrch yw’r wefan hon

Rydym yn gwybod nad yw pob rhan o’r wefan hon yn gwbl hygyrch:

  • ni wnaiff y testun ail-lifo mewn colofn sengl wrth newid maint ffenestr y porwr
  • nid oes modd addasu uchder llinell neu fwlch rhwng testun
  • nid yw’r rhan fwyaf o ddogfennau PDF hŷn yn gwbl hygyrch i feddalwedd darllen sgrin
  • nid oes penawdau ar ffrydiau fideo byw
  • mae’n anodd defnyddio dim ond y bysellfwrdd i symud o amgylch rhai o’n ffurflenni ar-lein
  • allwch chi ddim neidio i’r prif gynnwys os ydych chi’n defnyddio rhaglen darllen sgrin
  • dim ond hyn a hyn y gallwch chi chwyddo’r map ar ein tudalen ‘cysylltu â ni’
     

3. Adborth a gwybodaeth gyswllt

Os oes angen gwybodaeth ar y wefan hon arnoch mewn fformat gwahanol, fel PDF hygyrch, print bras, hawdd ei ddarllen, recordiad sain neu braille:

E-bost: customer.relations@tfwrail.wales

Ffôn: 0333 3211 202

Byddwn yn ystyried eich cais ac yn cysylltu'n ôl â chi.

 

Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd sy’n ymwneud â'r wefan hon

Rydym bob amser yn awyddus i wella hygyrchedd y wefan hon. Os ydych chi’n dod ar draws unrhyw broblemau sydd heb eu nodi ar y dudalen hon, neu os ydych chi’n credu nad ydym yn bodloni’r gofynion hygyrchedd, cysylltwch â.

 

Gweithdrefn gorfodi

Y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) sy’n gyfrifol am weithredu Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau ac Apiau Symudol) (Rhif 2) 2018 (y ‘rheoliadau hygyrchedd’). Os ydych chi’n anhapus â’r ffordd rydyn ni’n ymateb i'ch cwyn, cysylltwch â’r Gwasanaeth Cynghori a Chefnogi Cydraddoldeb (EASS).

4. Gwybodaeth dechnegol am hygyrchedd y wefan hon

Mae Transport for Wales wedi ymrwymo i wneud ei wefan yn hygyrch, yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau ac Apiau Symudol) (Rhif 2) 2018.

Mae’r wefan hon yn cydymffurfio’n rhannol â safon Lefel AA Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We fersiwn 2.1 oherwydd diffyg cydymffurfio a'r eithriadau sy’n cael eu rhestru isod.

  • Ni ddarperir adborth clywedol i ddefnyddwyr darllenwyr sgrin sy'n defnyddio NVDA a Firefox wrth lywio'r rhestr o orsafoedd yn y blychau rhestr arfer 'I' ac 'O'.  Mae'r mater hwn yn cael ei ystyried a bydd sylw’n cael ei roi iddo yn ystod y 4 wythnos nesaf.
  • Ni all defnyddwyr darllenwyr sgrin gyrchu'r llinell amser gadael a chyrraedd ar hyn o bryd, rydym yn chwilio am ateb i’r broblem hon a bydd yn cael sylw yn ystod y 4 wythnos nesaf.

 

Cynnwys nad yw o fewn cwmpas y rheoliadau hygyrchedd

PDFs a dogfennau eraill

Mae rhai o’n dogfennau PDF a Word yn hanfodol er mwyn darparu ein gwasanaethau. Er enghraifft, mae gennym ddogfennau PDF sy’n cynnwys gwybodaeth ynghylch sut y gall defnyddwyr ddefnyddio ein gwasanaethau, a ffurflenni a gyhoeddwyd fel dogfennau Word. Erbyn mis Medi 2020, rydym yn bwriadu trwsio’r rhain neu roi tudalennau HTML hygyrch yn eu lle.

Nid yw’r rheoliadau hygyrchedd yn ei gwneud hi’n ofynnol i ni drwsio PDFs neu ddogfennau eraill a gyhoeddwyd cyn 23 Medi 2018 os nad ydyn nhw’n hanfodol i ddarparu ein gwasanaethau. 

Bydd unrhyw ddogfennau PDF neu Word newydd rydym yn eu cyhoeddi yn diwallu safonau hygyrchedd.

Fideos byw

Nid ydym yn bwriadu ychwanegu capsiynau at ffrydiau fideo byw oherwydd bod fideos byw wedi’u heithrio o’r rheoliadau hygyrchedd.

5.Paratoad y datganiad hygyrchedd hwn

Paratowyd y datganiad hwn ar 07/09/2021.
Adolygwyd ddiwethaf ar 07/09/2021.

Cafodd y wefan hon ei phrofi ddiwethaf ar  01/09/2021. Cynhaliwyd y prawf gan Digital Accessibility Centre.

Gwnaethom ddefnyddio’r dull hwn i benderfynu ar ddetholiad o dudalennau i'w profi  https://digitalaccessibilitycentre.org/index.php/transport-for-wales-01.