Bellach, APCOA sy'n gofalu am ein meysydd parcio gorsafoedd
Mae APCOA Parking UK bellach yn gweithredu ac yn rheoli meysydd parcio gorsafoedd rheilffordd ar ran Trafnidiaeth Cymru.
Sut mae hyn yn effeithio arna i?
PayByPhone
Os ydych eisoes wedi cofrestru ar gyfer ap PayByPhone, gallwch ddefnyddio'r un manylion i fewngofnodi i'ch cyfrif a defnyddio'r ap i dalu ym mhob un o feysydd parcio gorsaf TrC.
I gael manylion llawn ewch i wefan PayByPhone.
Tocynnau tymor
Os oes gennych docyn parcio tymor ar gyfer unrhyw faes parcio gorsaf TrC, bydd hyn yn parhau'n ddilys tan ei ddyddiad dod i ben presennol. Gallwch barhau i ddefnyddio ein peiriannau tocynnau i brynu’r tocyn.
Sicrhewch bod eich tocyn Tymor papur bob amser yn cael ei arddangos wrth barcio mewn maes parcio gorsaf.
Os hoffech brynu tocyn Tymor rhithwir, ewch i wefan APCOA i gofrestru. Cofiwch y bydd angen i chi wneud hyn cyn i'ch tocyn presennol ddod i ben.
Deiliad Bathodyn Glas?
Cofiwch arddangos eich bathodyn glas os ydych yn parcio yn un o’n mannau hygyrch. Byddwch yn talu ein cyfraddau safonol os bydd costau parcio yn berthnasol.
Gyrwyr tacsi
Os nad ydych wedi gwneud hyn eisoes, cofrestrwch ac ymgeisiwch am drwydded tacsi rithwir newydd ar wefan APCOA i'w defnyddio ym meysydd parcio gorsaf TrC.
APCOA TfWRL Taxi Permit Portal
Cyfyngiadau parcio ceir
Rydym yn gwneud gwaith seilwaith ar draws rhwydwaith rheilffyrdd Cymru a’r gororau i adfywio ein gorsafoedd a darparu gwasanaethau cyflymach, amlach sy’n diwallu anghenion ein cwsmeriaid yn well.
Mewn rhai o’n gorsafoedd, efallai y bydd llai o leoedd parcio ar gael gan fod angen i ni ddarparu mynediad i’r rheilffordd i’n contractwyr.
Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra y mae hyn yn ei achosi. Rydym yn gweithio'n galed i gwblhau'r gwaith hwn yn ddiogel, cyn gynted ag y gallwn.
Ewch i'n tudalennau gorsafoedd i weld a oes unrhyw gyfyngiadau parcio ar waith.
Adnabod Cerbydau yn Awtomatig (ANPR)
Mae system ANPR ar waith mewn nifer o'n meysydd parcio talu-am-barcio yn ein gorsafoedd. Bydd y dechnoleg hon yn ein helpu i:
- reoli ein meysydd parcio'n fwy effeithiol;
- cadw'r cyfleusterau parcio'n fwy diogel a saff i'n cwsmeriaid;
- deall yn well sut a phryd y mae ein meysydd parcio'n cael eu defnyddio;
- helpu i sicrhau bod lleoedd parcio ar gael i gwsmeriaid y rheilffordd;
- nodi parcio anawdurdodedig, arosiadau hirach na'r hyn a ganiateir a thoriadau eraill o delerau ac amodau parcio yn y meysyss parcio; a
- chefnogi gwelliannau yn y dyfodol i gyfleusterau parcio a chynllunio trafnidiaeth ehangach.
Nid oes unrhyw newidiadau eraill i'n meysydd parcio talu-am-barcio, a bydd taliadau parcio'n parhau i fod yn berthnasol yn y gorsafoedd a restrir isod.
Os byddwch yn parcio yn un o'n gorsafoedd, cadwch lygad am yr arwyddion ANPR wrth gyrraedd.
Prisiau parcio yn ein meysydd parcio
Gorsaf | Nifer y bylchau |
| Y Fenni | 66 |
| Bangor | 214 |
| Pen-y-bont ar Ogwr | 94 |
| Caerdydd | 353 |
| Caerfyrddin | 64 |
| Caer | 252 |
| Bae Colwyn | 74 |
| Henffordd | 135 |
| Cyffordd Llandudno | 66 |
| Llwydlo | 26 |
| Castell-nedd | 64 |
| Casnewydd | 250 |
| Doc Penfro | 19 |
| Port Talbot | 135 |
| Twnnel Hafren | 105 |
| Amwythig | 203 |
| Abertawe | 3 (Mannau i'r anabl) |
| Dinbych-y-pysgod | 75 |
| Wrecsam Cyffredinol | 62 |
Cewch ragor o wybodaeth gan gynnwys lleoliadau, tariffau, oriau agor a nifer y llefydd parcio drwy chwilio am orsaf yma.
Manylion cyswllt
Gwefan: https://www.apcoa.co.uk/contact/
Ffôn: 03453 193 542