
Cadwch yn ddiogel, cynlluniwch ymlaen llaw a byddwch yn deithiwr cyfrifol
Ystyriwch eraill wrth deithio
Cyn teithio
- Cynlluniwch eich taith. Gall rhai o'n gwasanaethau fod yn brysur yn enwedig yn ystod oriau brig, ar benwythnosau a phan fydd y tywydd yn dda. Dewch o hyd i'r trenau sydd â lle arnynt: https://trc.cymru/statws-gwasanaeth/gwiriwr-capasiti
- Gweithiwch gartref os gallwch chi.
- Ewch yn ddigyswllt a phrynwch eich tocyn ar ap TfWRail. Mae gwiriadau tocynnau ar waith.
- Peidiwch â theithio os ydych chi'n teimlo'n sâl
Wrth deithio
- Gwisgwch orchudd gwyneb ar ein trenau ac yn adeiladau ein gorsafoedd oni bai eich bod wedi'ch eithrio
Cofiwch bod hyn yn ofyniad cyfreithiol yng Nghymru - Ceisiwch gerdded neu feicio ar deithiau byrrach.
- Cadwch unrhyw ffenestri ar agor i helpu gyda awyru.
- Byddwch yn barchus - nid yw ymddygiad gwrthgymdeithasol yn dderbyniol ar unrhyw ran o'n rhwydwaith.
- Cadwch eich pellter - mae Coronafeirws yn dal i fod yn ein cymunedau, helpwch ni i barhau i Gadw Cymru yn Ddiogel trwy gadw pellter parchus oddi wrth eraill os yn bosib.
Teithio y tu allan i Gymru
Bydd angen i chi ddilyn y canllawiau ar gyfer Lloegr, Yr Alban a Gogledd Iwerddon.
Gallwch weld y rheolau diweddaraf ar gyfer teithio tramor i ac o Gymru, yma.
Llai o amserlenni bysiau a rheilffyrdd
Mae gwasanaethau'n rhedeg amserlen lai
Os ydych chi'n teithio ar fws, edrychwch ar wefan eich gweithredwr bysiau lleol i gael mwy o wybodaeth.
Gallwch wirio eich gweithredwyr lleol yma
Mae ein gwasanaethau rheilffordd yn rhedeg ar amserlen lai. Os ydych chi'n teithio ar drên, defnyddiwch ein gwiriwr capasiti
Gwybodaeth ddefnyddiol am drenau, bysiau a iechyd
- Gallwch chi gael rhagor o wybodaeth am Deithio’n Saffach a’n haddewid ni i chi yma.
- Byddwch yn deithiwr cyfrifol, cynlluniwch ymlaen llaw a defnyddiwch ein Gwiriwr Capasiti os ydych chi’n teithio ar drên
- Edrychwch ar wefan eich gweithredwr bysiau lleol i gael rhagor o wybodaeth. Gallwch ddod o hyd i'ch gweithredwr lleol yn https://www.cymraeg.traveline.cymru/
- Darllenwch ein Cwestiynau Cyffredin i gael gwybod mwy am yr hyn rydym yn ei wneud i sicrhau bod teithiau hanfodol ar drafnidiaeth gyhoeddus yng Nghymru mor ddiogel â phosibl.
- Gallwch chi gael yr wybodaeth ddiweddaraf am ofal iechyd gan y GIG.
- Gallwch chi gael yr wybodaeth ddiweddaraf am ofal iechyd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru yma.