Mae’n wych gweld pawb allan ar ein rhwydwaith eto.

Mae nifer y teithwyr yn cael eu monitro’n ddyddiol ac mae ein gwasanaethau rhwng Caerdydd - Henffordd - Amwythig - Crewe yn arbennig o boblogaidd ar benwythnosau.

 

Er mwyn gwella eich profiad o deithio

  • Mae cerbydau ychwanegol yn cael eu darparu lle bo modd – chwiliwch am lefydd gwag ar drenau
  • Gwnewch eich gwaith cartref cyn teithio. Gallai gwaith cynnal a chadw sydd wedi’i drefnu effeithio ar eich cynlluniau teithio
  • Prynwch eich tocyn cyn teithio. Mae rhai tocynnau’n brin
  • Storiwch eich bagiau yn y raciau a ddarparwyd yn hytrach nag ar seddi a cheisiwch gadw’r llwybrau cerdded drwy’r canol yn glir
  • Cadwch draw oddi wrth ddrysau fel bod pobl yn gallu mynd ar y trên ac oddi arno’n rhwydd
  • Os yw eich cerbyd yn llawn, ewch i gerbyd arall rhag ofn bod mwy o le yno
  • Mae bysiau wrth gefn ar gael yn Henffordd, Amwythig a Crewe ar gyfer y gwasanaethau prysuraf

 

I gael cyngor teithio byw ar gyfer eich taith ar y diwrnod