Sut bydd y gwaith o drawsnewid y Metro yn effeithio ar eich cynlluniau teithio rhwng Ionawr a Chwefror 2025
Mae’r Metro yn cael ei adeiladu’n bwrpasol ar gyfer dyfodol Cymru. Bydd yn ffordd fodern, effeithlon a chynaliadwy o deithio, ond efallai y bydd cyfnodau o newid i’ch cynlluniau teithio dros dro tra byddwn yn ei adeiladu. Lle bo hynny’n bosibl, rydyn ni’n trefnu bod y gwaith trawsnewid yn digwydd yn ystod cyfnodau llai prysur er mwyn tarfu cyn lleied â phosibl. Rydyn ni’n cynnig cysylltiadau rhwng gwasanaethau rheilffyrdd a gwasanaethau bysiau.
Gwasanaethau bws yn lle’r trenau
Rydym bob amser yn chwilio am gyfleoedd i wella profiad y cwsmer. Bydd eich adborth gonest am yr arolwg yn ein helpu i lunio ein gwasanaethau bysiau yn y dyfodol.
Ionawr
- Gorsaf Caerdydd Heol y Frenhines | Gwaith peirianneg mawr Dydd Gwener 31 Ionawr - Dydd Sul 02 Chwefror
-
Gwasanaethau bws yn lle trên
-
Caerdydd Canolog - Radur drwy Llandaf
Caiff trenau i / o Ferthyr a Threherbert eu dargyfeirio trwy Lein y Ddinas a byddant yn rhedeg yn ddi-stop rhwng Radur a Chaerdydd Canolog -
Caerdydd Heol y Frenhines - Bae Caerdydd
Hefyd, derbynnir tocynnau trên ar wasanaeth Baycar Bws Caerdydd.-
Ar waith rhwng Dydd Llun 03 - Dydd Sul 09 Chwefror (tan 1800 bob dydd)
Darperir gwasanaethau bws yn lle trên tan 0915 bob dydd tan ddydd Sadwrn 08 Chwefror.
Derbynnir tocynnau trên ar wasanaethau Baycar Bws Caerdydd tan 1830.
-
-
Caerdydd Canolog - Penarth
Dydd Gwener 31 Ionawr a dydd Sadwrn 01 Chwefror yn unig. Hefyd, derbynnir tocynnau trên ar wasanaethau Bws Caerdydd 92, 93 a 94 rhwng Caerdydd Canolog a Phenarth. -
Caerdydd Canolog - Rhymni
-
-
-
Dim gwasanaeth bws yn lle trên
-
Caerdydd Canolog - Coryton
Derbynnir tocynnau trên ar wasanaethau Bws Caerdydd 21, 23 a 27 rhwng Caerdydd Canolog a Coryton.
-
-
Derbynnir tocynnau trên
-
Gwiriwch fanylion teithiau ar cardiffbus.com.
-
-
Mae’r swyddfa docynnau yng ngorsaf Caerdydd Heol y Frenhines yn parhau ar agor drwy gydol y cyfnod.
-
-
Dyma leoliad y safle bws yn lle trên:
Safle bws yn Plas Dumfries. I Ganol Caerdydd/Bae Caerdydd, safle bws HC o flaen y maes parcio.I Cathays / y Mynydd Bychan, safle bws HU, yr un ochr â Sainsbury’s. -
-
-
-
Teithio - Cwestiynau Cyffredin
-
Pa waith fydd yn cael ei wneud yn ystod y cyfnod hwn?
Y bwriad yw ymgymryd â phecyn cyfan o waith, gan gynnwys gwaith ar y cledrau a’r signalau yn ogystal â gwaith cynnal a chadw cyffredinol. Gwybodaeth am y Metro yma.
Pryd fydd yr amserlenni diwygiedig ar gael ar y systemau archebu ar-lein?
Yn sgil y Coronafeirws, rydym yn rhedeg llai o wasanaethau ar hyn o bryd a bydd amserlenni trenau yn cael eu llwytho i fyny i’r systemau archebu tocynnau ar-lein wythnos ymlaen llaw. Cofiwch fwrw golwg ar eich taith cyn teithio. Bydd amserlenni bysiau diwygiedig yn cael eu harddangos yn eich gorsaf leol o ddechrau mis Gorffennaf.
Beth alla i ei ddisgwyl pan fyddaf yn cyrraedd cyfnewidfa gorsaf Radur?
Bydd gorsaf Radur yn gweithredu fel y brif gyfnewidfa rhwng y gwasanaethau trenau a bysiau. Bydd timau gwasanaeth cwsmeriaid ar gael yng ngorsaf Radur i gyfeirio'r cwsmeriaid i’r gyfnewidfa ac ohoni yn y maes parcio gerllaw. Mae trafnidiaeth ffordd wedi cael ei threfnu i gyd-fynd â'r gwasanaethau trên fel nad oes yn rhaid i chi ddisgwyl yn rhy hir.
Ble fyddaf i’n cael fy nghasglu neu fy ngollwng yn fy ngorsaf leol?
Mae’r rhan fwyaf o bwyntiau casglu / gollwng y gwasanaethau bysiau y tu allan i’r orsaf. Bydd digon o arwyddion ond gallwch ddod o hyd i’r lle i chi fynd i ddal y bysiau fydd yn rhedeg yn lle'r trenau yma (dewiswch eich gorsaf yna Gwybodaeth Maes Parcio) neu ar y Poster Gwybodaeth Ddefnyddiol yn eich gorsaf.
Fel arfer rwy'n mynd â beic ar y trên am fy mod ei angen i barhau â'm taith – oes modd i mi fynd â’m beic ar y bws?
Fel arfer ni chaniateir mynd â beic ar wasanaethau bysiau sy'n rhedeg yn lle’r trenau, ond lle bo modd gellir mynd â’ch beic yn ddibynnol ar ddisgresiwn y gyrrwr a’r lle sydd ar gael. Chi fydd yn gyfrifol am eich beic ar ein gwasanaethau bysiau, ac ni all Trafnidiaeth Cymru dderbyn unrhyw gyfrifoldeb dros unrhyw ddifrod.
Alla’ i fynd â’m ci ar y gwasanaeth bysiau?
Fel arfer ni chaniateir cŵn ar y gwasanaethau bysiau sy'n rhedeg yn lle’r trenau, ac eithrio cŵn tywys.
Alla’ i fynd â phram ar y gwasanaeth bysiau?
Caniateir pramiau, ond gofynnwn i chi eu plygu cyn mynd ar y bws
Faint o amser ychwanegol fydd mynd ar y bws yn ychwanegu at fy nhaith?
I gael yr union amseroedd, bydd yn rhaid i chi edrych ar eich teithiau penodol, ond dyma ganllaw ar gyfer rhai teithiau allweddol. Mae’r rhain yn seiliedig ar amseroedd ar gyfartaledd ar gyfer yr adeg y teithir gyda’r nos.
Llwybr Amcan o amseroedd gwasanaethu bysiau Radur - Pontypridd 00:35 awr Radur - Merthyr Tudful 01:20 awr Radur - Aberdare 01:20 awr Radur – Treherbert 01:25 awr Alla’ i brynu tocyn ar y bws?
Nid oes cyfleusterau i brynu tocynnau ar y bysiau. Mae’n rhaid i chi brynu tocynnau cyn mynd ar y bws o’ch swyddfa docynnau lleol, peiriannau tocynnau, ar-lein gan ddefnyddio ein hadnodd cynllunio teithiau neu ein ap.
Rwy’n defnyddio cadair olwyn, alla’ i ddefnyddio'r gwasanaeth bws sy'n rhedeg yn lle'r trenau?
Mae mynediad ar gyfer cadeiriau olwyn am fod lloriau llwytho isel. I gael cyngor ac i drefnu cymorth ymlaen llaw, ffoniwch ein tîm Cymorth i Deithwyr ar 03330 050 501.
-
Gwaith gwella yn y dyfodol
I gael gwybod am y gwaith gwella ar draws ein rhwydwaith a all effeithio ar yr amserlen, ewch i’r dudalen hon.
-
Oeddech chi’n gwybod?Teithiwch yn SaffachGallwch gynllunio ymlaen llaw a phenderfynu pryd i deithio gan ddefnyddio ein Gwiriwr Capasiti.Gwirio capasiti