
Gwelliannau Canolog Caerdydd
Rydym yn cynllunio system drafnidiaeth sy'n gweithio i bawb. Fel rhan o'r rhaglen weddnewid hon, rydym yn arwain gwaith datblygu i wella gorsaf reilffordd brysuraf Cymru - Caerdydd Canolog.
Mae delweddau newydd sbon yn dangos sut y gallai Caerdydd Canolog edrych o ganlyniad i fuddsoddiad mawr i wella'r orsaf.
Cyflwynwyd yr achos busnes llawn ar gyfer y gwelliannau arfaethedig i orsaf Caerdydd Canolog ar ddiwedd y flwyddyn ddiwethaf a bydd dogfennau cynllunio’n cael eu cyflwyno’n fuan. Mae cyflawni’r cynllun yn amodol ar gymeradwyo’r cynlluniau a’r achos busnes llawn.







Nodir bod delweddau a rennir at ddibenion enghreifftiol yn unig a gallant newid wrth i gynlluniau ddatblygu.
Gyda chyllid o hyd at £140 miliwn gan Yr Adran Drafnidiaeth, Prifddinas-Ranbarth Caerdydd, a Llywodraeth Cymru, bydd y gwelliannau arfaethedig yng ngorsaf Caerdydd Canolog yn darparu uwchraddiadau a gwelliannau sylweddol i’r orsaf.
Nod y cynllun gwella yw lliniaru gorlenwi a thagfeydd yn yr orsaf a chyflawni cynnydd hirdymor yn nifer y cwsmeriaid. Bydd hefyd yn gwella’r safle ei hun trwy drawsnewid cyfleusterau cwsmeriaid a chydweithwyr, gwella llif cerddwyr, a galluogi gwell hygyrchedd i’n cwsmeriaid â nam symudedd. Bydd y cynllun yn gwella edrychiad ac awyrgylch yr orsaf er lles y cwsmeriaid gan gadw hanes a threftadaeth yr adeilad ar yr un pryd.
Mae’r cynllun gwella gorsaf Caerdydd Canolog yn cyfrannu at fuddsoddiad sylweddol ehangach o drawsnewid trafnidiaeth yn ninas Caerdydd. Mae hyn yn cynnwys cynlluniau adfywio uchelgeisiol. Caiff y gwaith trawsnewid ym Metro Canolog ei gyflawni drwy’r gynghrair Ganolog, sy’n bartneriaeth rhwng sefydliadau sector gyhoeddus wrthi’n cydweithio i drawsnewid trafnidiaeth yng nghalon Caerdydd. Bydd y gynghrair Ganolog yn gweithio ar y cyd i ddarparu newid trawsnewidiol i drafnidiaeth yng Nghaerdydd a’r rhanbarth ehangach er mwyn gwella cysylltiadau rhwng bysiau, trenau, cerdded, gyrru ar olwynion a seiclo ac i annog teithio cynaliadwy.
