Crynodeb o’n Strategaeth Gyfathrebu 1 Ebrill 2019 - 31 Mawrth 2020

Submitted by positiveUser on

Crynodeb o’n Strategaeth Gyfathrebu

1 Ebrill 2019 - 31 Mawrth 2020

1. Cyflwyniad

Fel sefydliad ifanc, mae Trafnidiaeth Cymru (TrC) yn llywio gweledigaeth Llywodraeth Cymru o rwydwaith trafnidiaeth diogel, integredig, fforddiadwy a hygyrch o safon uchel yng Nghymru. Ein gweledigaeth yw creu rhwydwaith trafnidiaeth y mae Cymru’n falch ohono.

Er bod ein cenhadaeth, ein gweledigaeth a’n gwerthoedd yn glir, mae angen inni nawr sefydlu a datblygu ein brand a’n dulliau ymgysylltu, gan gychwyn gyda’r rheilffyrdd ac yna fel sefydliad amlfodd wrth i’n cylch gwaith ehangu.

Ein hamcanion cyfathrebu hirdymor yw:

  •  Gofalu bod cwsmeriaid wrth wraidd popeth a wnawn a bod ganddyn nhw lais yn natblygiad Trafnidiaeth Cymru
  • Bod ein gweithwyr yn falch o fod yn rhan o deulu Trafnidiaeth Cymru a’u cyfraniad at gyflawni ein hamcanion
  • Creu brand hollol ddwyieithog sy’n canolbwyntio ar gwsmeriaid, brand dibynadwy sy’n cael ei barchu gan ein cwsmeriaid allweddol ac sy’n rhan allweddol o fywyd y genedl
  • Cael ein cydnabod fel sefydliad arloesol o safon byd
  • Bod ein cynulleidfaoedd allweddol yn deall ein gwerth strategol a’n heffaith ar Gymru a’i heconomi
  • Dangos ein bod yn cyflawni polisïau Llywodraeth Cymru yn ogystal â’n heffaith ar bob cwr o Gymru
  • Bod ein brand yn aelod parchus o deulu brand Cymru
  • Meithrin perthynas effeithiol, dibynadwy a chydweithredol â’n cwsmeriaid, rhanddeiliaid a grwpiau buddiant
  •  Datblygu brand y ‘Metro’ ymhellach er mwyn sicrhau ei fod yn ategu brand ehangach Trafnidiaeth Cymru.

Lewis Brencher

Cyfarwyddwr Cyfathrebu

Trafnidiaeth Cymru

 

2. Ein cenhadaeth, gweledigaeth a gwerthoedd

2.1 Ein cenhadaeth

Mae Trafnidiaeth Cymru’n bodoli er mwyn cadw Cymru i symud yn ddiogel trwy gyflwyno gwasanaethau sy’n canolbwyntio ar gwsmeriaid, cyngor arbenigol a buddsoddi yn ein seilwaith.

2.2 Ein gweledigaeth

Creu rhwydwaith trafnidiaeth y gall Cymru ymfalchïo ynddo.

2.3 Ein gwerthoedd

Meithrin ymddiriedaeth ein cwsmeriaid, gweithwyr a rhanddeiliaid sy’n seiliedig ar ein gwerthoedd:

Ein gwerthoedd

  • Iechyd
  • Diogelwch
  • Llesiant

Sut hoffem i’n cwsmeriaid deimlo: Llawn ymddiriedaeth

Sut hoffem i’n gweithwyr deimlo: Yn gyfrifo

Sut hoffem i’n rhanddeiliaid deimlo: Wedi’u sicrhau

 

Bod gyda’r gorau

  • Perfformiad o’r radd flaenaf
  • Bywiog ac yn mynd amdani

Sut hoffem i’n cwsmeriaid deimlo: Llawn edmygedd

Sut hoffem i’n gweithwyr deimlo: Yn falch

Sut hoffem i’n rhanddeiliaid deimlo: Yn falch

 

Bod yn gadarnhaol

  •  Yr agwedd gywir
  • Gallu gwneud, parod i wneud

Sut hoffem i’n cwsmeriaid deimlo: Yn hyderus

Sut hoffem i’n gweithwyr deimlo: Wedi’u grymuso

Sut hoffem i’n rhanddeiliaid deimlo: Wedi’u clywed

 

Bod yn gysylltiedig

  • Mentro
  • Rhwydweithio

Sut hoffem i’n cwsmeriaid deimlo: Teimlo wedi eu cynnwys

Sut hoffem i’n gweithwyr deimlo: Teimlo wedi eu cynnwys

Sut hoffem i’n rhanddeiliaid deimlo: Teimlo wedi eu cynnwys

 

Bod yn deg

  • Trin pobl yn dda
  •  Uniondeb
  • Cydraddoldeb

Sut hoffem i’n cwsmeriaid deimlo: Teimlo wedi’u gwerthfawrogi

Sut hoffem i’n gweithwyr deimlo: Teimlo wedi’u clywed

Sut hoffem i’n rhanddeiliaid deimlo: Teimlo wedi’u gwerthfawrogi

 

Creu llwyddiant ar y cyd

  • Brwd o blaid y fargen orau

Sut hoffem i’n cwsmeriaid deimlo: Llawn cyffro/ ysbrydoledig

Sut hoffem i’n gweithwyr deimlo: Teimlo wedi eu cynnwys

Sut hoffem i’n rhanddeiliaid deimlo: Teimlo wedi eu cynnwys

 

3. Ein personoliaeth a thôn ein llais

3.1. Bydd ein strategaeth gyfathrebu yn seiliedig ar ein pedair o nodweddion personoliaeth allweddol sydd wedi’u hamlinellu yn ein canllawiau brand:

  • Dynol
  • Gonest
  • Diddorol
  • Defnyddiol

Bydd nodweddion ein personoliaeth yn llywio cywair ein cyfathrebiadau yn ogystal â sut rydyn ni’n cyfathrebu. Mae ein canllawiau brand yn cynnwys manylion pellach am bersonoliaeth brand a thôn llais Trafnidiaeth Cymru. Rydyn ni’n diweddaru ein canllawiau brand (gweler Atodiadau) yn rheolaidd yn seiliedig ar syniadau cynulleidfaoedd allweddol.

 

4. Ein cynulleidfaoedd allweddol

4.1. Nod Trafnidiaeth Cymru yw ennill ei blwyf fel sefydliad arloesol o safon byd, ac yn y blynyddoedd nesaf, byddwn yn adeiladu cydnabyddiaeth o’r brand ymhlith ein cynulleidfaoedd allweddol. Byddwn yn teilwra ein cynnig a’n negeseuon er mwyn ennyn diddordeb ein cynulleidfaoedd allweddol ac apelio at rai sy’n newydd i ni.

Byddwn yn meithrin dealltwriaeth o’n cynulleidfaoedd allweddol yn ogystal â nodweddion y brand a fydd yn sefydlu ac yn adeiladu ar ein hygrededd.

4.2. Mae ein cynulleidfaoedd allweddol yn cynnwys:

Allanol

Cwsmeriaid

Pobl Cymru

Pobl y gororau (yn achos trenau)

Busnesau

Cyflenwyr

Gohebwyr, dadansoddwyr a sylwebyddion

Gweithwyr proffesiynol a sefydliadau’r diwydiant trenau

Yr Undeb Ewropeaidd (adolygu gofynion ERDF y prosiect)

 

Llywodraeth

Gweinidogion Llywodraeth Cymru

Llywodraethau Cymru a’r DU

Llywodraeth Leol

 

Gwleidyddol

Aelodau Cynulliad

Aelodau Seneddol

 

Rhanddeiliaid

Lleol

Cenedlaethol

Undebau llafur

Sefydliadau partner

Rheoleiddwyr

 

Mewnol

Gweithwyr

Staff ar secondiad Llywodraeth Cymru

Ymgynghorwyr

Contractwyr

Cyfarwyddwyr Anweithredol

Gweithwyr sefydliadau partner

 

5. Blaenoriaethau negeseuon allweddol

 

Delwedd: Pyramid

1 - Byddwn yn creu rhwydwaith trafnidiaeth y gall pobl ymfalchïo ynddo

2 - Rydyn ni ar ddechrau’r daith o drawsnewid ein rhwydwaith trafnidiaeth cenedlaethol, gan fuddsoddi £5 biliwn dros 15 mlynedd.

Rydyn ni’n rhoi’r cwsmer wrth wraidd popeth a wnawn

3 - Rydyn ni’n gwmni di-elw, dan berchnogaeth lwyr Llywodraeth Cymru.

Cawsom ein sefydlu gan Weinidogion Cymru er mwyn helpu i gyflawni amcanion Llywodraeth Cymru, gan gynnwys Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol. 

Byddwn yn cydweithio â’n partneriaid yn y diwydiant.

Image: Circular graph representing Measures, What they are, Who they are implemented for, How they are implemented, with the end Vision being creating a transport network of which people are proud. 

 

6. Ein hamcanion cyfathrebu strategol

6.1 Ein cenhadaeth cyfathrebu

Er mwyn creu brand Trafnidiaeth Cymru y gall pobl ymddiried ynddo, rhaid inni gydnabod bod ein brand yn adlewyrchiad o’r penderfyniad a wnawn fel sefydliad yn y pen draw, ac mai dim ond rhan o ddatblygiad ein brand yw’r gwasanaeth rydyn ni’n ei ddarparu i’n cwsmeriaid, ac felly’r gwaith a wnawn ym maes cyfathrebu. Law yn llaw â chyflwyno ein hamcanion sefydliadol, gallwn helpu i ddatblygu ein brand trwy gael cysylltiadau cyfathrebu dynol a gonest sy’n ennyn diddordeb ein cwsmeriaid, cydweithwyr, partneriaid a rhanddeiliaid ledled teulu Trafnidiaeth Cymru.

6.2 Byddwn yn cyflawni ein cenhadaeth gyfathrebu strategol o greu brand y gall pobl fod yn falch ohono drwy’r ffrydiau gwaith canlynol, pob un yn canolbwyntio ar ein grwpiau cynulleidfaoedd allweddol:

  • Brandio a marchnata
  •  Cyfathrebu ac ymgyrchu mewnol
  • Cysylltiadau cyfathrebu
  • Cysylltiadau’r llywodraeth a materion cyhoeddus
  •  Ymgysylltu cymunedol a’n gwaith cynghori ein hunain

6.3 Brandio a marchnata

Byddwn yn adeiladu a datblygu brand dwyieithog Trafnidiaeth Cymru ac yn sicrhau ei fod yn cael ei gyflwyno’n gyson ar draws ein holl faes gweithgarwch, gan sicrhau ei fod yn dod yn rhan eiconig o deulu brand Cymru yn ogystal â rhan gadarnhaol o wead bywyd y genedl. Byddwn yn creu brand y gall pobl Cymru fod yn falch ohono trwy gynllun da a chyflwyno safonau ein brand.

Byddwn yn dangos sut rydyn ni’n cyflawni yn erbyn amcanion polisi Llywodraeth Cymru trwy ddatblygu stori glir yn seiliedig ar Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, yn ogystal â’r meysydd polisi eraill sy’n rhan o gylch gwaith Trafnidiaeth Cymru ar ran Llywodraeth Cymru. Byddwn yn cyflwyno ymgyrchoedd penodol ar sail yr amcanion polisi hyn, a lle mae gennym gylch gwaith gan Lywodraeth Cymru i gyflawni prosiectau penodol.

6.4 Cyfathrebu mewnol ac ymgysylltu â chydweithwyr

Byddwn yn meithrin perthnasau cadarnhaol a chynhwysol â chydweithwyr er mwyn sicrhau eu bod nhw’n falch o fod yn rhan o deulu Trafnidiaeth Cymru. Byddwn yn cyflawni hyn trwy ddatblygu cyfleoedd cadarnhaol i rannu gwybodaeth a sicrhau bod gan weithwyr a phartneriaid cyflenwi lais wrth siapio’r sefydliad. Byddwn yn creu adnoddau a diwylliant i sicrhau bod perthynas agored, gydweithredol a chlir yn bodoli rhwng cydweithwyr a thimau ledled y sefydliad, ac yn cefnogi arweiniad gweladwy ac atebol.

6.5 Cysylltiadau’r cyfryngau

Byddwn yn credu brand cyfarwydd a dibynadwy ar y cyfryngau cymdeithasol sy’n adlewyrchu ein personoliaeth fel sefydliad gonest, clir, defnyddiol a dynol. Byddwn yn adlewyrchu ein parodrwydd i drawsnewid gwasanaethau cyn gynted â phosib. Byddwn yn cynyddu’r sylw cadarnhaol yn y cyfryngau er mwyn helpu i gyfleu a chyfathrebu newid yn ogystal â meithrin naratif, strwythur a thôn llais clir yn gall pobl uniaethu â nhw, eu deall, ac ymfalchïo ynddyn nhw. Byddwn yn adeiladu ac yn datblygu perthynas gref â phartneriaid yn y diwydiant, rhanddeiliaid a newyddiadurwyr.

6.6 Cysylltiadau’r llywodraeth a materion cyhoeddus

Byddwn yn hyrwyddo enw da Trafnidiaeth Cymru ac yn meithrin ymddiriedaeth ym mrand Trafnidiaeth Cymru gyda Llywodraeth Cymru, Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn ehangach, Aelodau Seneddol a chynrychiolwyr etholiadol yn fwy eang. Byddwn yn parhau i feithrin ein perthynas â Gweinidogion Llywodraeth Cymru trwy sicrhau ein bod yn cyflawni eu hamcanion trwy gyfathrebu, cefnogi ac ymgysylltu’n effeithiol. Byddwn yn helpu Llywodraeth Cymru i gyfathrebu ac ymgysylltu ag Aelodau Cynulliad ac Aelodau Seneddol Cymru yn San Steffan am bynciau gweithredol sy’n ymwneud â Trafnidiaeth Cymru a’n partneriaid cyflenwi.

6.7 Cynghori ac ymgysylltu cymunedol

Nid dim ond ein teithwyr ddylai elwa ar ein gwasanaethau. Dylent hefyd gael effaith gadarnhaol ar yr economïau a’r cymunedau lleol yr ydym yn eu gwasanaethu, a’r unig ffordd o wneud hyn yw trwy gydweithio â’r economïau a’r cymunedau hynny.

Fe wnaethom gydweithio â’n Partneriaethau Rheilffyrdd Cymunedol a grwpiau cymuned eraill er mwyn datblygu ein Gweledigaeth Rheilffyrdd Cymunedol sy’n amlinellu ein hymrwymiadau o 2019 ymlaen. Bydd Trafnidiaeth Cymru’n creu panel cynghori a fydd yn rhoi syniad o sut rydyn ni’n cyflawni ein hymrwymiadau. Bydd ein gwaith cynghori ehangach yn cynnig llwybrau ymgysylltu clir a hygyrch i’n defnyddwyr, rhanddeiliaid a grwpiau buddiant.

Hefyd, byddwn yn ystyried sut i gynnwys ein strwythurau ymgysylltu cyfredol yn ein fframwaith cynghori newydd er mwyn sicrhau bod cyfleoedd ymgysylltu clir a thryloyw ar draws ein cyfrifoldebau cylch gwaith cyfredol.

6.8 Strategaethau manylach

Rydyn ni wedi datblygu strategaethau manwl ar gyfer pob ffrwd waith gan ddefnyddio adnodd cynllunio OASIS y Government Communication Service.

 

7. Ein strategaeth frandio a marchnata

7.1 Creu brand y gall pobl Cymru ymfalchïo ynddi, gan sicrhau ei fod yn rhan uchel ei barch o frand teulu Cymru ac yn rhan gadarnhaol o wead bywyd y genedl. Byddwn yn adeiladu brand Trafnidiaeth Cymru trwy gynllunio a dylunio da a thrwy gymhwyso a chynnwys ein safonau brand yn gyson.

7.2 Mae Trafnidiaeth Cymru yn sefydliad ifanc, ac yn 2019-20 byddwn yn cyflwyno’r sylfeini a fydd yn ein helpu i adeiladu ein brand a chyflawni ein gweithgareddau marchnata yn y dyfodol.

7.3 Bydd ein brand yn llywio’r canlynol:

  • Ein hamcanion cyfathrebu eraill
  • Ein strategaeth profiad cwsmeriaid
  • Ein strategaeth farchnata gorfforaethol

7.4. Rydyn ni eisoes wedi gwneud gwaith sylweddol o ran lansio Trafnidiaeth Cymru a datblygu ein brand hyd yma, ac yn 2019-20, byddwn yn canolbwyntio ar adeiladu ein brand a chyfathrebu ein heffaith hirdymor er mwyn cyrraedd ein nod hirdymor.

7.5. Gweithredu

Adeiladu brand strategol

Fel sefydliad ifanc, mae’n rhaid inni adeiladu ein brand dwyieithog ar sylfeini cadarn er mwyn sicrhau ein bod yn ymgysylltu’n effeithiol â’n cynulleidfaoedd allweddol ac yn ennyn eu parch a’u hymddiriedaeth. Yn 2019-20, byddwn yn adeiladu ein dealltwriaeth a’n dirnadaeth o’n cynulleidfaoedd allweddol er mwyn datblygu a gweithredu gweledigaeth/strategaeth brand effeithiol yn ogystal â’n brand digidol/ar-lein yn unol â’n strategaeth profiad cwsmeriaid digidol sydd wrthi’n cael ei datblygu.

Bydd y ddealltwriaeth a’r ddirnadaeth hon hefyd yn llywio ein strategaeth datblygu creadigol ac yn ein helpu i ddatblygu addewid/syniad brand ac ymgyrchoedd effeithiol yn ogystal â hunaniaeth weledol ac asedau brand ategol effeithiol, sy’n creu argraff.

Yn 2019-20, byddwn yn parhau i ddatblygu tôn ein llais a’n negeseuon craidd. Bydd tôn llais unigryw yn fodd i gysylltu â’n cwsmeriaid a sicrhau bod ein holl ddulliau cyfathrebu yn gyson, boed wyneb yn wyneb, mewn print, dros y ffôn, ar y sgrin neu ar-lein.

Rheoli, cyflwyno a gwarchod brand

Er mwyn creu brand sy’n creu argraff, gyda phersonoliaeth unigryw a thôn llais cyson, byddwn yn gweithredu dull cryf o reoli brand a gwarchodaeth effeithiol. Byddwn yn parhau i ddatblygu ein canllawiau brand er mwyn sicrhau eu bod yn llywio’n fanwl sut rydyn ni’n defnyddio ein brand. Byddwn yn cyhoeddi fersiynau newydd o’n canllawiau brand bob dwy flynedd.

Byddwn yn ymgysylltu â defnyddwyr ein brand er mwyn sicrhau eu bod yn dod yn ddefnyddwyr hyddysg gyda dealltwriaeth drylwyr o brif nodweddion ein personoliaeth, ein sylw at fanylder a’n cysondeb.

Nod Trafnidiaeth Cymru yw bod yn sefydliad uchel ei barch o safon byd, a bydd tu mewn a thu allan i’n pencadlys yn ymgorffori ein brand ac yn cefnogi ein huchelgeisiau o fod yn gyflogwr o ddewis yn ogystal â’r gwaith adfywio lleol ac uchelgeisiol ym Mhontypridd a gweithgareddau mewnfuddsoddiad Llywodraeth Cymru.

Datblygu brand gyda phobl/gweithwyr

Nod Trafnidiaeth Cymru yw creu brand y mae pobl Cymru’n falch ohono, a’n cenhadaeth, ein gweledigaeth a’n gwerthoedd yw conglfeini ein brand. Mae ein pobl/gweithwyr yn gwneud cyfraniad hollbwysig at adeiladu ein brand hefyd, ac yn 2019-20, byddwn yn datblygu ein brand mewnol/pobl ac yn ymgorffori ein gwerthoedd fel sail i ddatblygu diwylliant Trafnidiaeth Cymru.

Byddwn yn cynnwys ein pobl trwy ddatblygu tôn llais fewnol unigryw sy’n ategu tôn llais allanol Trafnidiaeth Cymru ac yn sicrhau bod ein holl gyfathrebiadau mewnol yn glir ac yn gyson.

Y Gymraeg

Mae Trafnidiaeth Cymru’n darparu gwasanaethau trwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg, ac mae ein brand yn ddwyieithog. Yn 2019/2020, byddwn yn diweddaru ein strategaeth iaith Gymraeg ac yn cefnogi polisïau i wreiddio’r Gymraeg/dwyieithrwydd o fewn diwylliant Trafnidiaeth Cymru. Bydd hyn yn adeiladu ar y safonau a ymgorfforwyd gennym gan Lywodraeth Cymru.

Hefyd, byddwn yn sicrhau bod ein tôn llais fewnol unigryw yn cydnabod y ffaith mai sefydliad dwyieithog yw Trafnidiaeth Cymru, a bod ein holl weithgareddau cyfathrebu yn y ddwy iaith yn glir a chyson.

Marchnata ac ymgyrchoedd strategol

Mae Trafnidiaeth Cymru’n bwrw ymlaen â gweledigaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer rhwydwaith trafnidiaeth y dyfodol, ac yn 2019-20, byddwn yn dechrau adeiladu ein henw da fel sefydliad arloesol o safon byd.

Byddwn yn sicrhau’n lle wrth gyflawni polisi Llywodraeth Cymru yn effeithiol a chyfathrebu ein gwerth strategol yn ogystal â’n heffaith gynyddol ar Gymru a’r economi. Hefyd, byddwn yn datblygu/diweddaru negeseuon allweddol priodol/matrics negeseuon allweddol er mwyn cefnogi ein holl weithgareddau marchnata a chyfathrebu. Byddwn yn teilwra ein negeseuon allweddol er mwyn sicrhau eu bod yn ystyrlon i’n cynulleidfaoedd allweddol.

Bydd ein Hadroddiad Blynyddol a Datganiadau Ariannol 2018-19 yn ffocws allweddol yn ystod y flwyddyn, ac yn sbardun i’n gweithgareddau creu enw da strategol.

Datblygu brand a marchnata Trafnidiaeth Cymru ar gyfer cwsmeriaid trenau

2019 fydd blwyddyn gyntaf lawn Trafnidiaeth Cymru o weithredu gwasanaethau trenau yng Nghymru a’r gororau, a bydd ein tîm marchnata’r rheilffyrdd yn adeiladu brand Trafnidiaeth Cymru, gan gydnabod natur/gofynion unigryw gwasanaeth trenau Cymru a’r Gororau.

Byddwn yn sefydlu gwarchodaeth effeithiol o’r brand a’i ddatblygiad creadigol hefyd. Hefyd, byddwn yn sicrhau bod ein hymgyrchoedd cydweithredol yn cyfrannu at ddatblygiad ein brand, gan ystyried gofynion masnachol ac ymgysylltu â defnyddwyr ein timau.

Datblygu brand y Metro

Mae datblygu Metro’r De a Metro’r Gogledd yn brosiectau craidd ar gyfer Trafnidiaeth Cymru. Wrth i’r gwaith gychwyn ar adeiladu a sefydlu’r gwasanaethau hyn, bydd angen datblygu’r brand a chynigion cwsmeriaid ar gyfer y gwasanaethau ymhellach o’r sylfaen gadarn sydd eisoes ar waith.

Bydd datblygu brand y Metro yn weithgaredd allweddol ar gyfer 2019/2020, a bydd angen ategu’r gwaith ehangach i ddatblygu brand Trafnidiaeth Cymru. Bydd Trafnidiaeth Cymru’n sicrhau bod gan gwsmeriaid a rhanddeiliaid dealltwriaeth glir o gyfleoedd a manteision y Metro, yn ogystal â’r daith i greu hynny.

 

8. Ein strategaeth cyfathrebu mewnol ac ymgysylltu â chydweithwyr

8.1. Cyfathrebu mewnol

Byddwn yn meithrin perthnasau cadarnhaol a chynhwysol â’n gweithwyr i’w hannog i deimlo’n falch ac yn rhan o deulu Trafnidiaeth Cymru. Byddwn yn cyflawni hyn trwy ddatblygu cyfleoedd cadarnhaol i rannu gwybodaeth a sicrhau bod gan ein gweithwyr a’n partneriaid cyflenwi lais yn y broses o siapio Trafnidiaeth Cymru.

Byddwn yn credu adnoddau a diwylliant er mwyn sicrhau bod perthynas agored, gydweithredol a chlir yn bodoli rhwng gweithwyr a thimau ledled Trafnidiaeth Cymru. Byddwn hefyd yn cefnogi arweiniad gweladwy ac atebol. Bydd hyn yn seiliedig ar fabwysiadu model partneriaeth gymdeithasol, gyda chynrychiolaeth a chydweithrediad gweithwyr gydol ein datblygiad.

8.2. Ymgyrchoedd

Byddwn yn datblygu ymgyrchoedd creadigol o fri sydd wedi’u harwain gan amcanion ein cynllun busnes ac sy’n cyd-fynd â nodweddion ein personoliaeth (dynol, gonest, cynhwysol, defnyddiol). Bydd ein hymgyrchoedd wedi’u hadeiladu ar sylfeini cryf a chyson ac yn meithrin ymddiriedaeth ym mrand Trafnidiaeth Cymru a’r gwasanaethau a ddarparwn wrth ddod â brand Trafnidiaeth Cymru yn fyw.

Bydd ein hymgyrchoedd yn cyfleu ystyr Trafnidiaeth Cymru yn ogystal â’n gweledigaeth a’n gwerthoedd gydag uniondeb a hyder. Bydd ein hymgyrchoedd yn cynnwys pwyslais mewnol ac allanol, ac yn llwyddo i gyrraedd ein cynulleidfaoedd allweddol.

Hefyd, byddwn yn sicrhau bod Trafnidiaeth Cymru yn dod yn llais blaenllaw mewn ymgyrchoedd cenedlaethol a rhyngwladol allweddol er mwyn dangos ein hymrwymiad i fentrau, elusennau a phrosiectau pwysig y diwydiant, law yn llaw ag amcanion polisi ehangach Llywodraeth Cymru. 

Yn fewnol, bydd ein hymgyrchoedd yn ennyn diddordeb ein pobl ac yn chwarae rhan allweddol yn y gwaith o ddatblygu a sefydlu ein diwylliant mewnol.

8.3. Gweithredu

Byddwn yn creu system gyfathrebu fewnol sydd gyda’r ‘gorau yn y busnes’ ac yn creu gweithlu dibynadwy, sy’n teimlo eu bod wedi eu cynnwys, sy’n cadarnhau dull un tîm ‘teulu Trafnidiaeth Cymru’. Bydd gweithio’n agos gyda chydweithwyr o Wasanaethau Rheilffyrdd Trafnidiaeth Cymru a Network Rail yn cyfrannu’n allweddol at feysydd allweddol o’r busnes.

Byddwn yn lansio platfformau newydd a diddorol wedi’u creu a’u rheoli yn unol â safbwyntiau ac anghenion ein staff ledled y sefydliad, a fydd yn adeiladu ar ein henw da o fod yn gyflogwr o ddewis.

Byddwn yn ystyried patrymau gwaith ein gweithwyr, gan gynnwys cydweithwyr ar hyd a lled Cymru mewn lleoliadau amrywiol eraill, wrth gynllunio digwyddiadau i gydweithwyr.

Ein nod cyffredinol yw sicrhau bod ein cydweithwyr yn ymddiried yn ein gwasanaeth cyfathrebu mewnol ac yn canfod y gwasanaeth yn werthfawr a defnyddiol i’w rôl ac fel gweithwyr Trafnidiaeth Cymru.

Byddwn yn adeiladu ar ein lefelau ymgysylltu cyfredol, calonogol, i greu cyfres lawn o blatfformau cyfathrebu mewnol Trafnidiaeth Cymru i’n cydweithwyr eu defnyddio.

Trwy ein rhaglen o weithgareddau sy’n cyd-fynd â’r platfformau hyn, byddwn yn sicrhau bod ein gweithwyr a’n rhanddeiliaid allweddol yn gallu cael gafael ar wybodaeth a diweddariadau’n hawdd. Hefyd, byddwn yn sicrhau mai ein gweithwyr a’n rhanddeiliaid yw’r cyntaf i wybod am unrhyw newidiadau, achlysuron lansio a diweddariadau perthnasol.

Bydd y tactegau cyfathrebu mewnol y byddwn yn eu rhoi ar waith, a’n platfformau dewisol, yn cael eu harwain a’u llywio gan fewnbwn ac adborth gweithwyr.

Byddwn yn annog proses gyfathrebu ddwyffordd fel rhan o’n systemau cyfathrebu mewnol, gan annog ein cydweithwyr i gymryd rhan a rhoi adborth.

Bydd ein cyfathrebiadau mewnol yn cynnwys opsiynau amlgyfrwng, gan gynnwys digidol ac wyneb yn wyneb.

Byddwn yn cysoni ein tôn llais fewnol â brand Trafnidiaeth Cymru.

Yn 2019/20, byddwn yn rhoi nifer o ymgyrchoedd ar waith gan gynnwys:

  •  Cyfathrebu lansio cardiau teithio rhatach Cymru
  • Cyfnewidfa bysiau Caerdydd
  • Rhaglen Newid Trafnidiaeth Llywodraeth Cymru
  • Trosglwyddo gwasanaeth arlwyo ar drenau i Trafnidiaeth Cymru
  • Ymgyrchoedd recriwtio

8.4. Negeseuon allweddol

Bydd ein tôn llais fewnol a’n negeseuon allweddol yn atgyfnerthu ac yn ategu ein brand, ein gweledigaeth a’n gwerthoedd. Dyma ein negeseuon allweddol:

  • Rydyn ni’n ymrwymo i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi
  • Rydyn ni’n ymrwymo i greu dull un ‘teulu Trafnidiaeth Cymru’
  • Rydyn ni’n ymrwymo i gadw Cymru i symud
  • Rydyn ni’n ymrwymo i gyflawni ein gwerthoedd

Yn unol â’n gwerthoedd, hoffem i weithwyr deimlo fel a ganlyn:

  •  Yn gyfrifol
  • Yn falch
  • Wedi’u grymuso
  • Eisiau cymryd rhan
  • Wedi’i clywed
  • Wedi’u cynnwys

 

9. Ein strategaeth cysylltiadau’r cyfryngau

9.1. Byddwn yn creu brand dibynadwy a chyfarwydd ar y cyfryngau cymdeithasol sy’n adlewyrchu ein personoliaeth fel sefydliad dynol, gonest, cynhwysol a defnyddiol. Byddwn yn adlewyrchu ein parodrwydd a’n cynllun i drawsnewid gwasanaethau.

9.2. Byddwn yn cynyddu’r sylw cadarnhaol yn y cyfryngau er mwyn helpu i gyfleu newidiadau a datblygu strwythur storïol clir a thôn llais y gall pobl uniaethu â nhw, eu deall, ac ymfalchïo ynddyn nhw. Byddwn yn adeiladu ac yn datblygu perthnasau cryf a chadarn gyda phartneriaid yn y diwydiant, rhanddeiliaid a newyddiadurwyr.

9.3. Gweithredu

Trwy greu cynnwys ac ymgysylltu â’r cyfryngau:

  • Byddwn yn creu brand dibynadwy a chyfarwydd sy’n adlewyrchu ein gonestrwydd, ein tryloywder a’n parodrwydd i drawsnewid gwasanaethau cyn gynted â phosib – I Bobol, I Gymuned, I Gymru
  • Byddwn yn datblygu cynllun cysylltiadau cyfryngau clir sy’n canolbwyntio ar ddatblygiadau/cyflawniadau allweddol Trafnidiaeth Cymru sy’n sicrhau ein bod ni’n cynnal ymgyrchoedd yn y cyfryngau i gyfathrebu a chefnogi’r llwyddiannau hyn
  • Byddwn yn cynyddu’r sylw cadarnhaol yn y cyfryngau ac yn datblygu strwythur storïol clir a thôn llais y gall pobl uniaethu â nhw, eu deall, ac ymfalchïo ynddyn nhw
  • Byddwn yn creu ac yn datblygu perthnasau clir â phartneriaid yn y diwydiant, rhanddeiliaid a newyddiadurwyr dylanwadol (lleol, cenedlaethol a’r fasnach reilffyrdd), gan ymateb i ymholiadau gohebwyr o fewn yr amserlenni gofynnol lle bo hynny’n ymarferol bosib
  • Cydweithio â’n partneriaid yn y diwydiant, mynychu cyfarfodydd rheolaidd er mwyn sicrhau negeseuon cyson a chreu darlun cydgysylltiedig o’r diwydiant trafnidiaeth yng Nghymru
  • Byddwn yn cydweithio’n agos â rhanddeiliaid gwleidyddol gan gynnwys trefnu ymweliadau gweinidogion er mwyn manteisio i’r eithaf ar sylw cadarnhaol yn y cyfryngau a phwysleisio pa mor berthnasol ydym i gyfrifoldebau’r llywodraeth
  • Byddwn yn datblygu strwythur blaenoriaethu negeseuon clir a fydd wrth wraidd ein holl gynnwys

9.4. Byddwn yn creu, datblygu a chyhoeddi cynnwys:

  • Perthnasol i gyfrifoldebau Trafnidiaeth Cymru
  • Perthnasol i gyfrifoldebau Llywodraeth Cymru
  • Gwrthrychol ac esboniadol
  • Diddorol a llawn gwybodaeth
  • Bob amser yn cyfiawnhau’r defnydd o arian cyhoeddus
  • Gonest a thryloyw
  • Gwleidyddol niwtral

Byddwn yn dangos arweiniad amlwg ac atebol trwy sicrhau bod llefarwyr perthnasol Trafnidiaeth Cymru yn cynrychioli ein brand wrth gyfathrebu â’r cyfryngau.

 

10. Ein strategaeth cysylltiadau’r llywodraeth a materion cyhoeddus

10.1. Byddwn yn hybu enw da Trafnidiaeth Cymru ac yn meithrin ymddiriedaeth ym mrand Trafnidiaeth Cymru gyda’n cynulleidfa ehangach: Llywodraeth Cymru, y Cynulliad Cenedlaethol ehangach, Aelodau Seneddol (AS) a chynrychiolwyr etholedig yn fwy eang. Mae cynrychiolwyr etholedig wedi’u penodi gan rai sy’n defnyddio ac wedi’u heffeithio gan ein gweithgareddau, felly mae’n hanfodol ein bod ni’n cydweithio â phawb.

10.2. Byddwn yn gwella ein partneriaethau â Gweinidogion Llywodraeth Cymru trwy sicrhau ein bod yn cyflawni eu hamcanion trwy gyfathrebu, cefnogi ac ymgysylltu’n effeithiol. Byddwn yn helpu Llywodraeth Cymru i gyfathrebu ac ymgysylltu’n effeithiol ag Aelodau Cynulliad (AC) ac ASau Cymru ar bynciau gweithredol sy’n berthnasol i Trafnidiaeth Cymru a’n partneriaid cyflenwi.

10.3. Byddwn yn ymgysylltu â Gweinidogion Llywodraeth Cymru, ACau ac ASau i wneud y canlynol:

  • Hyrwyddo enw da Trafnidiaeth Cymru
  • Magu hyder Llywodraeth Cymru, y Cynulliad Cenedlaethol ehangach ac ASau ym mrand Trafnidiaeth Cymru
  • Gwella ein cysylltiadau partneriaeth â Gweinidogion, gan sicrhau eu bod nhw’n teimlo’n rhan o daith drawsnewidiol Trafnidiaeth Cymru
  • Sicrhau eu bod nhw’n deall bod gan Trafnidiaeth Cymru gynlluniau uchelgeisiol y gellir eu cyflawni, a’n bod ni’n eu cyflwyno
  • Sicrhau eu bod nhw’n deall bod Trafnidiaeth Cymru ar gael ac yma i helpu

10.4. Gweithredu

Byddwn yn meithrin dealltwriaeth a dirnadaeth o’n cynulleidfaoedd i dargedu ein systemau cyfathrebu, gan gydnabod lefelau gwybodaeth ein cynulleidfaoedd a’u diddordeb mewn materion trafnidiaeth, a sicrhau ein bod ni’n cynnig opsiynau gwahanol iddyn nhw o ran sut maen nhw’n ymwneud â Trafnidiaeth Cymru.

Byddwn yn cynnal arolwg o holl ACau ac ASau Cymru a’r gororau i ganfod faint o ddealltwriaeth sydd ganddyn nhw o wasanaethau Trafnidiaeth Cymru ac i gael eu barn.

Byddwn yn defnyddio cyfryngau cyfathrebu amrywiol i ymgysylltu â’n cynulleidfaoedd:

  • Cyfathrebu uniongyrchol, gan gynnwys ymateb i ymholiadau etholwyr a mynychu cyfarfodydd
  • Cylchlythyron sy’n crynhoi ein newyddion a’r digwyddiadau sydd ar y gweill
  • Sesiynau galw heibio i ACau yn y Senedd ac ASau yn San Steffan
  • Briffiau etholaethol, gan gynnwys cynnwys print ac ar-lein o’r radd flaenaf i ddiweddaru, hysbysu a darparu gwybodaeth ddefnyddiol i etholwyr.

11. Ein strategaeth ymgysylltu cymunedol

11.1. Ni ddylai ein gwasanaethau fod o fudd i’r teithwyr sy’n eu defnyddio yn unig, dylent hefyd gael effaith gadarnhaol ar yr economïau a’r cymunedau lleol rydyn ni’n eu gwasanaethu, a dim ond trwy gydweithio o fewn y cymunedau hynny y gallwn sicrhau hyn. O’r herwydd, rydyn ni wedi lansio ein Gweledigaeth Rheilffyrdd Cymunedol, a luniwyd ar y cyd â’n partneriaethau rheilffyrdd cymunedol a grwpiau cymuned eraill, sy’n rhoi amlinelliad manwl o’n holl ymrwymiadau ar gyfer 2019 a thu hwnt.

11.2. Gweithredu

Byddwn yn creu panel ymgynghori er mwyn craffu ar y broses o ddarparu ein hymrwymiadau, a llywio’r gwaith o ddatblygu’r sefydliad. Byddwn yn ategu hyn trwy ddatblygu fframwaith cynghori ehangach sy’n cynnig llwybrau ymgysylltu clir a hwylus i ddefnyddwyr, rhanddeiliaid a grwpiau buddiant.

Fel rhan o’n proses gynghori, byddwn hefyd yn ystyried sut i gynnwys ein strwythurau ymgysylltu cyfredol er mwyn sicrhau ein bod ni’n creu cyfleoedd ymgysylltu clir a thryloyw ar draws ein cylch gwaith cyfredol.