Cylch Gorchwyl y Pwyllgor Archwilio a Risg

Submitted by positiveUser on

1. Pwrpas

1.1 Pwrpas y ddogfen hon ydy sefydlu Cylch Gorchwyl Pwyllgor Archwilio a Risg Trafnidiaeth Cymru.

1.2 Mabwysiadwyd yn unol â phenderfyniad gan Fwrdd y Cyfarwyddwr dyddiedig 16 Hydref 2018.

1.3 Sylwer: Mae cyfeiriadau at “y Pwyllgor” yn golygu’r Pwyllgor Archwilio a Risg ac mae cyfeiriadau at “y Bwrdd” yn golygu Bwrdd llawn Cyfarwyddwyr Trafnidiaeth Cymru (“y Cwmni”).

 

2. Cyfrifoldeb

2.1 Cyfrifoldeb Cadeirydd y Pwyllgor Archwilio a Risg a’r Pwyllgor ydy sefydlu a chynnal cylch gorchwyl y Pwyllgor.

Cyfrifoldeb y Cyfarwyddwr Cyllid ydy:

− cyflwyno’r Cylch Gorchwyl hwn i’r Pwyllgor Archwilio a Risg a’r Bwrdd i'w adolygu’n flynyddol;

− rhoi’r Cylch Gorchwyl hwn, a’r holl ddiwygiadau dilynol, ar waith.

Mae’r Cylch Gorchwyl hwn yn berthnasol i holl aelodau’r Pwyllgor, holl Gyfarwyddwyr Trafnidiaeth Cymru (TrC), holl weithwyr TrC ac unrhyw unigolion cysylltiedig sy’n atebol i’r Pwyllgor.

 

3. Pwyllgor Archwilio a Risg – Cylch Gorchwyl

3.1 Mabwysiadwyd yn unol â phenderfyniad gan Fwrdd y Cyfarwyddwr dyddiedig 16 Ionawr 2018.

Yn y Cylch Gorchwyl hwn:

Mae “y Pwyllgor” yn golygu’r Pwyllgor Archwilio a Risg;

Mae'r “Erthyglau” yn cyfeirio at Erthyglau Cymdeithasu TrC;

Mae “unigolion cysylltiedig” yn cynnwys pobl ar secondiad, gweithwyr dros dro, ymgynghorwyr, contractwyr, cynghorwyr, staff asiantaeth, interniaid a phobl ar brofiad gwaith;

Mae “y Bwrdd” yn golygu Bwrdd Cyfarwyddwyr y Cwmni;

Mae “Prif Weithredwr” yn golygu deiliad, o bryd i’w gilydd, swydd Prif Swyddog Gweithredol TrC;

Mae “Cwmni” yn golygu TrC, ei is-gwmnïau a’i is-fentrau o bryd i'w gilydd;

Mae “Cyfarwyddwr” yn golygu Cyfarwyddwr Anweithredol yn y Cwmni sy’n rhan o’r Bwrdd;

Mae “Cyfarwyddwyr Gweithredol” yn golygu deiliad, o bryd i’w gilydd, swyddi Prif Swyddog Gweithredol a Chyfarwyddwr Cyllid TrC;

Mae “tîm rheoli” yn golygu’r gweithwyr a’r unigolion cysylltiedig y telir am eu hamser gan TrC ac sy’n atebol i'r Bwrdd a’i is-bwyllgorau am weithrediad dydd i ddydd TrC;

Mae “uwch dîm rheoli” yn golygu unrhyw Gyfarwyddwr Gweithredol yn TrC ac uwch aelodau TrC (gan gynnwys pobl ar secondiad) sydd ar y Pwyllgor Gweithredol;

Dyletswyddau

3.2 Mae’r Pwyllgor yn Bwyllgor y Bwrdd a sefydlwyd dan Erthyglau Cymdeithasu’r Cwmni (“yr Erthyglau”).

3.3 Bydd trafodion a chyfarfodydd y Pwyllgor yn cael eu llywodraethu gan ddarpariaethau’r Erthyglau ar gyfer rheoleiddio cyfarfodydd a thrafodion y Bwrdd i'r graddau y maent yn berthnasol ac yn gyson â’r cylch gorchwyl hwn.

3.4 Pwrpas y Pwyllgor ydy helpu’r Bwrdd i gyflawni ei ddyletswyddau cyffredinol mewn cysylltiad â materion rheolaeth fewnol, rheoli risg a llywodraethu sy’n codi yn sgil gweithgareddau’r cwmni ac fel y maent yn effeithio ar y cyhoedd (gan gynnwys teithwyr), ar gyflogwyr, ar unigolion cysylltiedig, ar gyflenwyr ac ar unrhyw randdeiliaid perthnasol eraill.

4. Pwrpas

4.1 Pwrpas y Pwyllgor ydy darparu sicrwydd i’r Bwrdd o ran cydymffurfiad a llywodraethu TrC. Bydd y Pwyllgor yn cyflawni dyletswyddau mewn cysylltiad ag adroddiadau ariannol, rheolaeth fewnol a rheoli risg, gan gynnwys rheoli’r gadwyn gyflenwi, fel y nodir yn y cylch gorchwyl hwn. Bydd hyn yn unol â’r egwyddorion a nodir yn y rheoliadau perthnasol (fel Cod Llywodraethu Corfforaethol y DU) ac yn y Cytundeb Rheoli a’r Cynllun Dirprwyo rhwng TrC a Llywodraeth Cymru. Mae'r Pwyllgor yn gyfrifol am berthynas TrC ag archwilwyr mewnol a statudol y Cwmni hefyd.

 

5. Cyfansoddiad ac Aelodaeth

5.1 Mae’r Pwyllgor wedi cael ei sefydlu fel Pwyllgor y Bwrdd drwy benderfyniad gan y Bwrdd.

5.2 Caiff penodiadau i’r Pwyllgor eu gwneud gan y bwrdd o blith Cyfarwyddwyr TrC am gyfnod o hyd at dair blynedd, a all gael ei ymestyn am gyfnodau pellach o dair blynedd cyhyd â bod y Cyfarwyddwr yn dal yn bodloni’r meini prawf ar gyfer aelodaeth o'r Pwyllgor.

5.3 Caiff aelodau annibynnol o’r Pwyllgor eu recriwtio drwy broses agored a theg a’u penodi gan y Cyfarwyddwyr sydd ar y Pwyllgor. Bydd aelodau annibynnol yn cael eu recriwtio i wneud yn siŵr bod gan y Pwyllgor y cymwysterau a’r profiad angenrheidiol mewn cysylltiad â chyllid a llywodraethu i roi sicrwydd i’r Bwrdd.

5.4 Bydd y Pwyllgor yn cynnwys o leiaf un o Gyfarwyddwr Anweithredol y Bwrdd ac o leiaf un cyfrifydd cymwysedig. Bydd yr aelodau hyn yn annibynnol ar dîm rheoli TrC ac yn rhydd o unrhyw fusnes neu berthynas arall a allai ymyrryd yn sylweddol arnynt wrth arfer eu dyfarniad.

5.5 Ni fydd Cadeirydd y Cwmni yn aelod o'r Pwyllgor fel rheol, a bydd o leiaf un aelod o’r Pwyllgor yn meddu ar brofiad ariannol diweddar a pherthnasol.

5.6 Caiff Cadeirydd y Pwyllgor ei benodi gan y Bwrdd. Yn absenoldeb Cadeirydd y Pwyllgor, bydd yr aelodau sy’n bresennol yn dewis un o’u plith i gadeirio'r cyfarfod.

5.7 Bydd unrhyw aelod newydd o’r Pwyllgor yn cael hyfforddiant cynefino yn unol â rhaglen y cytunir arni.

5.8 Bydd y Cyfarwyddwr Cyllid a’r Cyfarwyddwr Profiad Cwsmeriaid a Masnach yn bresennol yn y cyfarfodydd fel rheol.

6. Presenoldeb

6.1 Bydd gan Gadeirydd y Bwrdd a’r Prif Weithredwr yr hawl i fod yn bresennol a siarad yng nghyfarfodydd y Pwyllgor; bydd pobl eraill yn gallu siarad neu gellir eu galw drwy drefniant ymlaen llaw â Chadeirydd y Pwyllgor.

6.2 Bydd y Pwyllgor yn cyfarfod ag archwilwyr mewnol a statudol yn rheolaidd heb i'r tîm rheoli fod yno. Dylai cyfarfodydd o'r fath ddigwydd unwaith y flwyddyn o leiaf a phara am gyfarfod cyfan sydd wedi’i drefnu gan y Pwyllgor, neu ran ohono.

 

7. Amlder Cyfarfodydd a Thrafodion

7.1 Bydd y Pwyllgor yn cyfarfod bedair gwaith y flwyddyn o leiaf, gan ystyried cylch adroddiadau ariannol y Cwmni, ac ar adegau eraill tebyg fel y bydd Cadeirydd y Pwyllgor yn ei ystyried yn briodol.

7.2 Caiff cyfarfodydd y Pwyllgor eu trefnu i gyd-fynd â’r gwaith o gyhoeddi datganiadau ariannol y Cwmni. Dylid cynnal cyfarfodydd ddeg diwrnod gwaith o leiaf cyn unrhyw gyfarfod Bwrdd lle bydd cyfrifon neu ddatganiadau ariannol yn cael eu cymeradwyo, oni bai fod holl aelodau'r Pwyllgor yn cytuno fel arall.

7.3 Caiff cyfarfodydd y Pwyllgor eu galw gan ysgrifenyddiaeth y Pwyllgor ar gais Cadeirydd y Pwyllgor. Caiff yr archwilwyr mewnol a statudol neu unrhyw aelod o'r Pwyllgor ofyn am gyfarfod ar unrhyw adeg drwy Gadeirydd y Pwyllgor.

7.4 Caiff hysbysiad ynglŷn â phob cyfarfod yn cadarnhau'r dyddiad, y lleoliad a’r amser ynghyd ag agenda o eitemau i’w trafod a’r papurau perthnasol ei anfon at bob aelod o'r Pwyllgor, lle bo hynny’n ymarferol, dim llai na phum diwrnod gwaith cyn dyddiad y cyfarfod.

7.5 Bydd cofnod o holl gyfarfodydd y Pwyllgor yn cael eu cadw, yn ogystal â chofnodion o’r trafodion a’r penderfyniadau.

7.6 Tri aelod fydd cworwm cyfarfodydd y Pwyllgor. Rhaid i o leiaf un o'r tri yma fod yn annibynnol ar dîm rheoli'r Cwmni.

7.7 Bydd y Pwyllgor yn cyfarfod ag archwilwyr mewnol a statudol heb i'r tîm rheoli fod yno unwaith y flwyddyn o leiaf.

7.8 Caiff penderfyniadau’r Pwyllgor eu gwneud drwy bleidlais y mwyafrif. Yn achos pleidlais gyfartal, bydd gan Gadeirydd y Pwyllgor ail bleidlais neu bleidlais fwrw.

 

8. Adrodd

8.1 Bydd y Pwyllgor neu ei Gadeirydd yn cyflwyno adroddiad i’r Bwrdd ar ôl pob cyfarfod.

8.2 Ar ôl cymeradwyaeth ragarweiniol gan y Cadeirydd, caiff copïau o gofnodion y cyfarfodydd eu dosbarthu i holl aelodau’r Pwyllgor ac i Gadeirydd y Bwrdd. Cyhyd â nad oes gwrthdaro rhwng buddiannau, caiff unrhyw aelod o’r uwch dîm rheoli gael gafael ar gopïau o agenda’r Pwyllgor gyda’r papurau a'r cofnodion perthnasol, a hynny ar gais i'r Cyfarwyddwr Cyllid.

8.3 Caiff y Pwyllgor wneud pa argymhellion bynnag i'r Bwrdd, fel y mae’n ystyried yn briodol, ar faes sydd o fewn ei gylch gwaith lle mae angen gwella neu gymryd camau.

8.4 Pob blwyddyn, bydd y Pwyllgor yn llunio adroddiad a gaiff ei gynnwys yng nghyfrifon ac adroddiad blynyddol y Cwmni.

8.5 Bydd y Pwyllgor yn gallu cael cyngor proffesiynol gan weithwyr yn y Cwmni a, phan fo angen, gan gynghorwyr allanol priodol.

 

9. Dyletswyddau’r Pwyllgor

9.1 Bydd y Pwyllgor yn cyflawni’r dyletswyddau canlynol ar gyfer Bwrdd TrC:

Datganiadau ariannol

9.2 Bydd y Pwyllgor yn monitro cyfanrwydd datganiadau ariannol y Cwmni ac unrhyw gyhoeddiadau ffurfiol sy’n ymwneud â pherfformiad ariannol y Cwmni, gan adolygu unrhyw ddyfarniad arwyddocaol o ran adroddiadau ariannol sydd ynddynt. Yn arbennig, bydd y Pwyllgor yn adolygu ac yn herio'r canlynol pan fo angen:-

i) cysondeb polisïau cyfrifyddu, ac unrhyw newidiadau iddynt, a hynny ar sail blwyddyn i flwyddyn ac ar draws y Cwmni a’i is-gwmnïau;

ii) y dulliau a ddefnyddir i esbonio trafodiadau sylweddol neu anarferol (gan gynnwys y gadwyn gyflenwi) lle mae dulliau eraill ar gael;

iii) a ydy'r Cwmni wedi dilyn y safonau cyfrifyddu priodol ac wedi gwneud amcangyfrifon a dyfarniadau priodol, gan ystyried barn yr archwilydd statudol;

iv) eglurder yr hyn sy’n cael ei ddatgelu yn adroddiadau ariannol y Cwmni a'r cyddestunau y caiff datganiadau eu gwneud ynddynt; ac

v) yr holl wybodaeth berthnasol a gyflwynir gyda’r datganiadau ariannol, fel yr adolygiad busnes/adolygiad cyllid a gweithredu a’r datganiad llywodraethu corfforaethol (i'r graddau y mae’n berthnasol i archwilio a rheoli risg).

Adroddiadau naratif

9.3 Bydd y Pwyllgor yn adolygu cynnwys y cyfrifon a’r adroddiad blynyddol ac yn cadarnhau eu bod, wrth eu hystyried gyda’i gilydd, yn deg, yn gytbwys, yn ddealladwy ac yn darparu’r wybodaeth sydd ei hangen ar randdeiliaid i asesu perfformiad, model busnes a strategaeth y Cwmni.

Rheolaeth Fewnol a Rheoli Risg

9.4 Bydd y Cwmni, i’r graddau nad ydy materion o’r fath yn rhan o gylch gwaith Pwyllgorau eraill y Bwrdd, yn parhau i adolygu’r canlynol:

− effeithiolrwydd polisïau a systemau'r Cwmni mewn cysylltiad ag adroddiadau ariannol a rheolaeth fewnol, gan gynnwys yr holl reolaethau perthnasol fel rheolaethau ariannol, gweithredol a chydymffurfio;

− adolygu a chymeradwyo’r datganiadau i'w cynnwys yn yr adroddiad blynyddol o ran rheolaethau mewnol a rheoli risg. Bydd hyn yn cynnwys adolygu materion TG a diogelwch data ond heb gyfrifoldeb am adolygu’r risgiau, y polisïau a’r gweithdrefnau mewn cysylltiad â diogelwch, iechyd a’r amgylchedd. Rhoddir y cyfrifoldeb am hynny ar y Pwyllgor Diogelwch yn ei Gylch Gorchwyl;

− monitro'r gwaith o fabwysiadu a gweithredu strategaeth a pholisi’r Cwmni ar gyfer rheoli risg ac unrhyw ddiwygiadau dilynol iddynt, gan gynnwys ystyried yr amgylchedd ariannol a macro-economaidd presennol ac arfaethedig, ac effaith unrhyw brosiectau newid ar y Cwmni;

− gweithdrefnau'r Cwmni ar gyfer nodi, asesu, rheoli ac adrodd ar risgiau, gan gynnwys y gofrestr risgiau, categorïau risgiau a mesur risgiau. Bydd y Pwyllgor yn rhoi blaenoriaeth i liniaru risg a gwella prosesau yn ei rôl yn darparu sicrwydd i’r Bwrdd;

− gwneud yn siŵr bod yr holl endidau perthnasol yn y Cwmni yn cydymffurfio â’r polisi rheoli risg;

− cytuno ar fethodoleg ar gyfer cofnodi risgiau yn y gofrestr risgiau;

− asesu effeithiolrwydd y systemau a sefydlwyd gan yr uwch dîm rheoli i nodi, asesu, rheoli a monitro unrhyw risgiau ariannol ac anariannol presennol neu newydd, gan roi sylw arbennig i risgiau'r gadwyn gyflenwi; ac

− adolygu bod cynnwys y datganiad rheolaeth fewnol blynyddol yn gywir, a chadarnhau hynny i’r Bwrdd.

Cydymffurfio, Chwythu’r Chwiban a Thwyll

9.5 Bydd y Pwyllgor yn gwneud y canlynol:-

− adolygu digonolrwydd a diogelwch trefniadau'r Cwmni ar gyfer ei weithwyr a’i gontractwyr o ran mynegi pryderon, yn gyfrinachol, ynglŷn â drwgweithredu yng nghyswllt adroddiadau ariannol, rheoli risg neu faterion eraill. Bydd y Pwyllgor yn sicrhau bod y trefniadau hyn yn caniatáu ymchwiliad cymesur ac annibynnol i faterion o’r fath, yn ogystal â chamau gweithredu dilynol priodol;

− adolygu digonolrwydd y polisïau a’r gweithdrefnau ar gyfer yr holl waith sy’n ymwneud ag atal a chanfod twyll, llygredd a llwgrwobrwyo;

− adolygu polisi Gwrthdaro rhwng Buddiannau a pholisi Rhoddion a Lletygarwch y Cwmni, a’r systemau a'r rheolaethau cysylltiedig ar gyfer atal llwgrwobrwyo a chael adroddiadau ar ddiffyg cydymffurfio;

− adolygu achosion o dwyll os ydy hynny’n digwydd, ac ystyried eu goblygiadau i bolisïau, gweithdrefnau a systemau TrC gan gynnwys, lle bo’n briodol, adroddiadau gan y Cyfarwyddwr Cyllid;

− chwarae rôl yn penderfynu a oes angen cynnwys yr heddlu mewn ymchwiliadau; a

− chwarae rôl yn ymchwilio i unrhyw honiadau o dwyll, llwgrwobrwyo neu lygredd gan Gyfarwyddwyr Gweithredol y Cwmni.

Archwilio Mewnol

9.6 Bydd y Pwyllgor yn gwneud y canlynol:

− monitro ac adolygu effeithiolrwydd swyddogaeth archwilio mewnol y Cwmni;

− cymeradwyo’r broses o benodi a diddymu Rheolwr Risg/swyddogaeth reoli ac unrhyw gyflenwr gwasanaethau archwilio mewnol;

− ystyried a chymeradwyo cylch gwaith y swyddogaeth archwilio mewnol, a sicrhau bod ganddi ddigon o adnoddau a’r mynediad priodol at wybodaeth i’w galluogi i gyflawni ei swyddogaeth yn effeithiol ac yn unol â’r safonau proffesiynol perthnasol. Bydd y Pwyllgor hefyd yn sicrhau bod gan y swyddogaeth statws digonol a’i bod yn rhydd rhag rheolaeth gan reolwyr neu gyfyngiadau eraill;

− datblygu ac, yn y dyfodol, ystyried y rhaglen archwilio mewnol sydd wedi’i chynllunio ar gyfer pob blwyddyn ariannol a’r rhesymau dros unrhyw newidiadau neu oedi yn y rhaglen;

− adolygu'r rhaglen archwilio mewnol sydd wedi’i chynllunio ar gyfer pob blwyddyn ariannol a’r rhesymau dros unrhyw newidiadau neu oedi yn y rhaglen;

− adolygu a monitro ymatebolrwydd yr uwch dîm rheoli i ganfyddiadau ac argymhellion y swyddogaeth archwilio mewnol;

− cael adroddiadau rheolaidd ar ganlyniadau’r gwaith archwilio mewnol a monitro ymatebolrwydd yr uwch dîm rheoli i ganfyddiadau ac argymhellion y swyddogaeth archwilio mewnol; ac

− adolygu'r holl adroddiadau i'r Pwyllgor gan yr archwilwyr mewnol yn brydlon.

Archwilwyr Statudol

9.7 O ran archwilwyr statudol y Cwmni ac unrhyw ddarparwr annibynnol o wasanaethau archwilio mewnol, bydd y Pwyllgor yn gwneud y canlynol: -

− ystyried a gwneud argymhellion i’r Bwrdd mewn cysylltiad â phenodi, ailbenodi a diddymu archwilwyr statudol y Cwmni. Bydd y Pwyllgor yn goruchwylio'r broses ddethol ar gyfer archwilydd newydd, gan gynnwys argymhellion o ran ffioedd. Bydd y penodiad am gyfnod o 3 blynedd i ddechrau gydag estyniad posibl i 5 mlynedd os bydd y Pwyllgor yn cymeradwyo hynny. Os bydd archwilydd yn ymddiswyddo, bydd y Pwyllgor yn ymchwilio i'r materion a arweiniodd at hynny ac yn penderfynu a oes angen cymryd unrhyw gamau;

− goruchwylio'r berthynas â'r archwilwyr statudol, gan gynnwys y canlynol (ond heb fod yn gyfyngedig iddynt):

i) cymeradwyo telerau ymrwymiad yr archwilwyr, gan gynnwys unrhyw lythyr ymrwymo a gyhoeddir ar ddechrau pob archwiliad, a hyd a lled yr archwiliad;

ii) asesu eu hannibyniaeth a’u gwrthrychedd, gan ystyried y gofynion rheoleiddio a phroffesiynol perthnasol a’r berthynas â'r archwilwyr ar y cyfan, gan gynnwys darpariaeth unrhyw wasanaethau nad ydynt yn gysylltiedig ag archwilio;

iii) bodloni ei hun nad oes perthnasoedd (fel teulu, cyflogaeth, buddsoddi, ariannol neu fusnes) rhwng yr archwilwyr a’r Cwmni (ar wahân yn sgil busnes arferol) a allai gael effaith niweidiol ar annibyniaeth a gwrthrychedd yr archwilwyr;

iv) cytuno â’r Bwrdd ar bolisi ar gyfer cyflogi unigolion a oedd arfer gweithio i archwilwyr y Cwmni, wedyn monitro sut caiff y polisi hwn ei roi ar waith;

v) monitro cydymffurfiad yr archwilwyr â'r canllawiau moesegol a phroffesiynol perthnasol ar gylchdroi’r partner archwilio, lefel y ffioedd mae’r Cwmni yn eu talu o gymharu ag incwm ffioedd cyffredinol y busnes, y swyddfa a’r partner, a gofynion cysylltiedig eraill;

vi) cynnal asesiad blynyddol o gymwysterau, arbenigedd ac adnoddau'r archwilwyr ac o effeithiolrwydd y broses archwilio, a fydd yn cynnwys adroddiad gan yr archwilwyr statudol ar eu gweithdrefnau ansawdd mewnol eu hunain; a

vii) mynd ati i sicrhau cydlyniant â gweithgareddau’r swyddogaeth archwilio mewnol;

− cyfarfod â’r archwilydd statudol ddwywaith y flwyddyn o leiaf, gan gynnwys unwaith yn ystod y cam cynllunio cyn yr archwiliad, ac unwaith yn ystod y cam adrodd ar ôl yr archwiliad;

− adolygu a chymeradwyo'r cynllun archwilio blynyddol a gwneud yn siŵr ei fod yn gyson â hyd a lled yr ymrwymiad archwilio;

− adolygu canfyddiadau’r archwiliad mewnol â’r archwilydd statudol. Bydd hyn yn cynnwys y canlynol ond heb fod yn gyfyngedig iddynt:

i) trafod unrhyw faterion pwysig a godwyd yn ystod yr archwiliad;

ii) unrhyw ddyfarniadau cyfrifyddu ac archwilio;

iii) lefelau’r gwallau a nodwyd yn ystod yr archwiliad; ac

iv) effeithiolrwydd yr archwiliad;

− adolygu unrhyw lythyr(au) sylwadau y gofynnir amdanynt gan yr archwilydd statudol cyn i Gyfarwyddwr Gweithredol TrC eu llofnodi;

− adolygu llythyr y tîm rheoli ac ymateb yr uwch dîm rheoli i ganfyddiadau ac argymhellion yr archwilydd statudol; a

− monitro'r defnydd o'r Polisi ar gyfer ymrwymo’r archwilwyr statudol i gyflenwi gwasanaethau nad ydynt yn ymwneud ag archwilio, gan ystyried y canllawiau moesegol perthnasol ynghylch archwilwyr statudol yn darparu gwasanaethau nad ydynt yn ymwneud ag archwilio.

Yswiriant

9.8 O bryd i'w gilydd ac unwaith y flwyddyn o leiaf, bydd y Pwyllgor yn adolygu effeithiolrwydd trefniadau yswiriant y Cwmni.

Llywodraethu Corfforaethol

9.9 O bryd i'w gilydd ac unwaith y flwyddyn o leiaf, bydd y Pwyllgor yn adolygu effeithiolrwydd trefniadau llywodraethu corfforaethol y Cwmni ac yn argymell unrhyw newidiadau y mae’n eu hystyried yn briodol i’r Bwrdd.

Polisïau

9.10 O bryd i'w gilydd ac unwaith y flwyddyn o leiaf, bydd y Pwyllgor yn adolygu polisïau’r Cwmni ar wahân i’r polisïau hynny y sonnir amdanynt rywle arall yn y cylch gorchwyl hwn.

 

10. Hawliau’r Pwyllgor Archwilio a Risg

10.1 Mae gan y Pwyllgor yr hawl i wneud y canlynol:

− Ceisio unrhyw wybodaeth sydd ei hangen arno gan unrhyw o weithwyr y Cwmni neu unrhyw unigolyn cysylltiedig er mwyn cyflawni ei ddyletswyddau;

− Ceisio, ar draul y Cwmni, unrhyw gyngor cyfreithiol neu gyfrifyddu annibynnol, neu unrhyw gyngor proffesiynol arall, ar unrhyw fater fel y mae’n ystyried yn angenrheidiol;

− Galw unrhyw weithiwr neu unigolyn cysylltiedig i gael ei gwestiynu yn un o gyfarfodydd y Pwyllgor yn ôl y galw; a

− Cyhoeddi, yn adroddiad blynyddol y Cwmni, manylion am unrhyw broblemau na ellir eu datrys rhwng y Pwyllgor a’r Bwrdd.