Mae ein hasiantwyr canolfannau cyswllt pwrpasol yn gweithredu systemau gwasanaeth cwsmeriaid proffesiynol, pwrpasol a dwyieithog ar gyfer sefydliadau ledled Cymru a’r DU.

Mae ein holl asiantwyr yn cael hyfforddiant gwasanaeth cwsmeriaid a delio â galwadau yn rheolaidd er mwyn sicrhau eu bod yn darparu gwasanaeth o’r safon uchaf ar ran ein cleientiaid. Rydym hefyd yn cydweithio â’n cleientiaid i arfogi ein hasiantwyr â’r wybodaeth a’r sgiliau i weithredu eu systemau gwasanaeth cwsmeriaid penodol.

Mae ein gwasanaethau wedi ennill gwobrau. Derbyniodd Canolfan Gyswllt TrC wobr Arian ar gyfer Tîm Cwsmeriaid y Flwyddyn yng Ngwobrau Canolfan Gyswllt Cymru 2023. Cyrhaeddodd ein gwasanaeth Traveline Cymru rownd derfynol categori Canolfan Cyswllt Bach y Flwyddyn yn 2022.

Rydym yn gweithio’n agos gyda CnectWwales i hyrwyddo arferion gorau wrth ddelio â galwadau a darparu gwasanaeth dibynadwy a phroffesiynol i’n cwsmeriaid.

Yn ein harolwg boddhad cwsmeriaid diwethaf yn 2021, dywedodd 98% o gwsmeriaid eu bod yn fodlon iawn neu’n eithaf bodlon â’r gwasanaeth a gawsant gennym drwy ein canolfannau cyswllt. Yn ein gwaith monitro ansawdd misol, mae ein cydweithwyr yn cynnal lefel ansawdd o 93% ar gyfartaledd fel y’i mesurir yn erbyn ein fframwaith ansawdd.

 

Mae ein gwasanaethau canolfannau cyswllt yn cynnwys y canlynol, ymhlith pethau eraill:

  • Galwadau gwasanaethau i gwsmeriaid
    Gall ein hasiantwyr proffesiynol dwyieithog ddarparu gwasanaeth cynhwysfawr wrth ymateb i ymholiadau am brofiad cwsmeriaid gan y cyhoedd mewn perthynas â’ch gwasanaeth. Rydym yn gweithio’n agos gyda’n cleientiaid i sicrhau bod gan ein hasiantwyr ddealltwriaeth lawn o’r gwasanaeth rydych chi’n ei ddarparu a’r systemau y byddwn ni’n eu defnyddio.

  • Ymholiadau am eiddo coll
    Rydym yn delio ag ymholiadau am eiddo coll a wneir dros y ffôn a thrwy’r ffurflen gyflwyno ar-lein. Mae gan dîm ein canolfan gyswllt y cyfle i ddarparu gwasanaeth tebyg ar eich rhan.

  • Delio â chwynion
    Mae ein hasiantwyr arbenigol yn cael hyfforddiant pwrpasol ar ddelio â chwynion sy’n eu galluogi i ddelio â chwynion a chyswllt cymhleth â chwsmeriaid mewn ffordd drefnus. Mae ganddynt ddealltwriaeth drylwyr o’r prosesau cwyno sydd ar waith ar gyfer ein cleientiaid presennol, gan gynnwys Traveline Cymru a TrawsCymru. Ymdrinnir â phob cwyn yn effeithlon yn unol â gweithdrefnau penodol pob cleient ar gyfer ymdrin â chwynion.

  • Ymateb ar y cyfryngau cymdeithasol
    Rydym yn gweithredu systemau ymateb ar y cyfryngau cymdeithasol arbenigol, gan ymgysylltu â chwsmeriaid ac ymateb iddynt ar ran cleientiaid drwy eu llwyfannau cyfryngau cymdeithasol. Mae ein hasiantwyr wedi’u hyfforddi mewn cyfathrebu ar y cyfryngau cymdeithasol ac yn delio â phob gohebiaeth yn broffesiynol ac yn gywir.

  • Ymholiadau archebu
    Rydym yn gweithredu system archebu ar gyfer gwasanaeth trafnidiaeth gymunedol fflecsi, gan gymryd ymholiadau archebu dros y ffôn a’u mewnbynnu i’r system rheoli fflecsi. Mae gennym y gallu i weithredu systemau ymholiadau archebu dwyieithog tebyg ar gyfer sefydliadau eraill yn y diwydiant trafnidiaeth gyhoeddus a thu hwnt.

  • Cymryd taliadau
    Wrth gymryd taliadau dros y ffôn, mae ein hasiantwyr yn dilyn y canllawiau PCI diweddaraf i gadw trafodion yn ddiogel a rheoliadau GDPR i gadw data ein cwsmeriaid yn ddiogel.

  • Cyfieithiadau o ohebiaeth i gwsmeriaid
    Mae ein hasiantwyr yn gallu cyfieithu gohebiaeth i gwsmeriaid, felly gellir cynhyrchu ymateb ac yna ei gyfieithu a’i anfon yn ôl at y cwsmer.

 

Oes gennych chi ddiddordeb?

Gallwch gysylltu â ni yma os hoffech wybod mwy am y gwasanaethau canolfannau cyswllt rydym yn eu cynnig a sut gall y rhain gyd-fynd â’r gwasanaethau rydych chi’n eu darparu.

Enw