Gwelliannau Canolog Caerdydd Cwestiynau Cyffredin

  • Pa welliannau eraill sydd ar y gweill yng ngorsaf Caerdydd Canolog?
    • Bydd y rhaglen waith yn gwella’r orsaf drên drwy gynyddu capasiti, lleihau tagfeydd a thrawsnewid yr amgylchedd i deithwyr. 

      Dyma’r hyn y mae Trafnidiaeth Cymru yn bwriadu’i wneud fel rhan o’r rhaglen wella:

      • Atgyfnerthu llinellau’r gât er mwyn hwyluso’r gallu i symud drwy gydol yr orsaf
      • Gwella cyfleusterau aros i gwsmeriaid
      • Darparu lleoedd preswyl newydd i staff
      • Gwneud gwelliannau i blatfform 0
      • Tacluso’r orsaf
      • Gwneud gwaith uwchraddio a fydd yn gwella sut mae’r orsaf yn rhedeg o ddydd i ddydd
      • Uwchraddio cyfleusterau’r orsaf yn y fynedfa o gyfeiriad y De
      • Gwneud gwelliannau o ran hygyrchedd a chynllun cyntedd yr orsaf o gyfeiriad y Gogledd
       
  • Sut fydd rhaglen waith gorsaf Caerdydd Canolog yn rhyngwynebu â chynlluniau eraill yn yr ardal?
    • Mae Trafnidiaeth Cymru’n cydweithio â phartneriaid i drawsnewid teithio yng nghalon Caerdydd. Nod y buddsoddiad cyffredinol o fwy na £300m yn yr ardal yw creu canolbwynt trafnidiaeth integredig sy’n gwella mynediad i ganol Caerdydd yn sylweddol, yn ogystal â sefydlu twf pellach ledled y rhanbarth.

      Yng nghanol Caerdydd, mae cynlluniau ar waith gan bartneriaid i wella tir cyhoeddus a chysylltiadau trafnidiaeth gyda chysylltiadau newydd i gerddwyr a beicwyr, cyfleusterau cyfnewid ar gyfer dulliau trafnidiaeth eraill (bws, coets, tacsi, gwasanaethau metro lleol), canolbwynt beicio, cydgrynhoad o ddarpariaeth maes parcio (gan gynnwys isadeiledd cerbydau trydan a digidol), a datblygiad masnachol newydd.

  • Beth yw’r gyllideb ar gyfer y gwelliannau hyn?
    • Mae partneriaid wedi cytuno ar gyllideb gyffredinol o £130m.

       
  • Sut mae’r prosiect yn cael ei ariannu?
    • Bydd y cyllid yn cael ei ddarparu drwy gyfres o bartneriaid - yr Adran Drafnidiaeth, Prifddinas-Ranbarth Caerdydd a Llywodraeth Cymru.

  • Pam mae angen gwario’r arian hwn?
    • Mae gorsaf Ganolog Caerdydd heb newid llawer ers degawdau ac mae angen ei moderneiddio a’i huwchraddio. Gyda nifer gynyddol o deithwyr, mae’n gorlenwi’n rheolaidd, yn enwedig yn ystod oriau brig y bore a’r nos, ac mae pryderon ynghylch ei gallu i ddarparu lle diogel i deithwyr yn y dyfodol, gan amharu’n benodol ar botensial y ddinas i gynnal digwyddiadau mawr a byd-eang.

  • A fydd unrhyw gyfle i deithwyr gael dweud eu dweud ynghylch y gwelliannau hyn?
    • Cynhaliwyd ymarfer ymgysylltu yn 2021 i geisio barn gyffredinol am yr hyn roedd pobl yn ei ystyried yn flaenoriaeth ar gyfer yr orsaf Ganolog Caerdydd a’r ardal gyfagos, yn enwedig o ran hygyrchedd. Yn ystod haf 2024, mae TrC yn gobeithio cyflwyno cais cynllunio llawn a fydd yn darparu rhagor o gyfleoedd i randdeiliaid gyflwyno sylwadau, gan gynnwys teithwyr a’r cyhoedd yn ehangach.

  • A fydd gwelliannau i’r orsaf yn golygu unrhyw welliannau i berfformiad trenau a dibynadwyedd y gwasanaethau sy’n stopio yng ngorsaf Caerdydd Canolog?
    • Bydd prosiect gwella’r orsaf yn gwella capasiti ar blatfform 0 er mwyn galluogi trenau newydd, hirach i’w ddefnyddio, yn ogystal â gwella profiad cyffredinol teithwyr o gael mynediad at yr orsaf a’i defnyddio.

      Mae prosiectau ar wahân, i wella capasiti ar y llwybrau i mewn ac allan o orsaf Caerdydd Canolog, yn cael eu datblygu gan Network Rail a Trafnidiaeth Cymru. Nod y gwaith hwn yw cynyddu capasiti’r rheilffordd i’r orsaf, ac mae hyn wedyn yn gwella dibynadwyedd ac yn creu cyfleoedd ar gyfer gwasanaethau newydd.

  • Wrth ymchwilio a datblygu eich cynlluniau, ydych chi wedi ystyried yr effaith y mae pandemig y coronafeirws wedi’i gael ar ddyfodol teithio ar reilffordd?
    • Fel rhan o’r gwaith cynllunio i nodi’r opsiwn ymarferol gorau i wella mynediad yn yr orsaf, mae ymarfer wedi cael ei gwblhau i gasglu data ar y defnydd presennol o’r orsaf (Mai 2022), gan fesur cyfnodau cymudo brig cyffredinol a ‘diwrnodau digwyddiadau’ yng Nghaerdydd, pan mae nifer yr ymwelwyr fel arfer yn codi. Bydd hyn yn sicrhau bod gwelliannau i’r orsaf yn cyfrif am newidiadau mewn patrymau teithio ac yn cael eu cyfuno â’r rhagolygon twf diweddaraf i roi achos busnes crwn ar gyfer y cynllun.

  • Sut bydd y prosiect hwn yn cyd-fynd â’r gyfnewidfa bysiau newydd gyfagos?
    • Mae tîm y prosiect sy’n darparu gwelliannau i’r orsaf yn gweithio’n agos gyda’u cydweithwyr sy’n datblygu’r gyfnewidfa bysiau i sicrhau y bydd y ddwy yn integreiddio’n ddi-dor. Bydd hyn yn cynnwys systemau gwybodaeth i gwsmeriaid modern, hawdd eu deall a dulliau ‘canfod y ffordd’ clir yn yr orsaf drenau a’r gyfnewidfa bysiau. Mae opsiynau i wella cysylltedd yn uniongyrchol yn cael eu hystyried.

  • A fyddwch chi’n gwella’r cyfleoedd ar gyfer integreiddio â mathau eraill o drafnidiaeth, yn enwedig beicio?
    • Bydd TrC yn cydweithio gyda phartneriaid ar eu prosiectau rhyngwynebu yn yr ardal er mwyn darparu cysylltiadau trafnidiaeth gwell ar gyfer dulliau teithio eraill gan gynnwys cerdded a beicio, bws, coets, tacsi a gwasanaethau’r dyfodol.