Trafnidiaeth Cymru Cofnodion Cyfarfod y Bwrdd - 17 Medi 2020

Submitted by positiveUser on

Cofnodion Bwrdd TrC Medi 2020

10:00 – 16:00; 17 Medi 2020

Clive House, Bradford Place, Penarth

Yn sgil argyfwng COVID-19 cynhaliwyd y cyfarfod drwy gyfleuster fideo/saingynadledda

 

Mynychwyr

Scott Waddington (SW) (Cadeirydd); James Price (JP); Heather Clash (HC); Sarah Howells (SH); Nicola Kemmery (NK); Vernon Everitt (VE); Alun Bowen (AB); Gareth Morgan (eitem 2c) a Jeremy Morgan (Ysgrifenyddiaeth).

Sesiwn diweddaru gweithredol (Rhan B): Geoff Ogden (GO); David O’Leary (DOL); Lewis Brencher (LB); Gareth Morgan (GM); Lee Robinson (LR); Alexia Course (AC); Karl Gilmore (KG); Gareth Morgan (GM) a Dave Williams (DW).

 

Rhan A – Cyfarfod Bwrdd Llawn

1a. Ymddiheuriadau am Absenoldeb

Natalie Feeley (NF), Alison Noon-Jones (ANJ) a Lisa Yates (LY) (sesiwn diweddaru gweithredol)

1b. Hysbysiad Cworwm

Gan fod yna gworwm croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod a datgan bod y cyfarfod yn agored.

1c. Gwrthdaro buddiannau

Dim wedi’u datgan.

1d. Cofnodion a Chamau Gweithredu’r Cyfarfod Blaenorol

Derbyniwyd cofnodion o gyfarfod y Bwrdd a gynhaliwyd ar 16 Gorffennaf 2020 fel cofnod gwir a chywir.

2a. Digwyddiad Diogelwch

Bu bws ysgol mewn damwain ddoe drwy golli rheolaeth a diweddu ar ei ochr gydag ychydig o’r disgyblion yn dioddef mân-anafiadau. Atgoffwyd y Bwrdd y bydd yna set newydd o heriau pan fydd TrC yn ymwneud â darparu gwasanaethau bysiau. Trafododd y Bwrdd broblemau ynghylch gorchuddion wyneb. Roedd teithwyr yn fwy nerfus am deithio a’r argraff bod pobl yn anghyson wrth weithredu rheoliadau a chanllawiau. Mae hyder a lleddfu nerfusrwydd yn sylfaenol er mwyn cael pobl yn ôl i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus. Mae yna fwy o swyddogion diogelwch yn bresennol mewn rhai gorsafoedd erbyn hyn ac mae dros 3,000 o bobl wedi’u tynnu oddi ar drenau am beidio â dilyn y rheoliadau gorchuddion wyneb.

2b. Digwyddiad Cwsmeriaid

Rhannodd SH ei phrofiad o dreulio amser yng ngorsaf Radur gyda chydweithwyr gwasanaethau yn lle trenau. Roedd y rhan fwyaf o deithwyr yn mynd ar fysiau yn gwisgo gorchudd wyneb, ond nid oedd gofynion cadw pellter cymdeithasol yn cael eu gorfodi fawr ddim. Roedd hi’n system drefnus ar y cyfan gyda phobl yn cael eu tywys i fysiau. Roedd yna wersi i’w dysgu ynghylch metrigau a diogelu refeniw. Canmolodd un teithiwr y gyrwyr a’r gwasanaeth wrth ddod oddi ar y bws.

2c. Perfformiad diogelwch

Ymunodd GM â’r cyfarfod i gyflwyno’r adroddiad ar berfformiad diogelwch. Roedd hwn wedi bod yn gyfnod heriol gan fod cyfnodau clo lleol yn golygu heriau i’r rhwydwaith. Cadarnhawyd bod rhai llinellau a gorsafoedd yn cael eu targedu i sicrhau bod teithwyr yn cydymffurfio â rheoliadau gorchuddion wyneb.

Clywodd y Bwrdd fod y Pwyllgor Iechyd, Diogelwch a Llesiant wedi adolygu damwain angheuol Stonehaven yn ddiweddar. Mae rhwydwaith Prif Linellau’r Cymoedd yn cynnwys 26 draen debyg i’r un a oedd yn ganolog i ddigwyddiad Stonehaven, ac mae’r cyfan wedi’u hadolygu. Bydd y RAIB yn adrodd yn fuan ar ddigwyddiad Stonehaven a bydd yr argymhellion yn cael eu hadolygu i asesu sut mae angen eu cymhwyso i rwydwaith Prif Linellau’r Cymoedd.

Cafwyd trafodaeth ar ddiogelwch croesfannau rheilffordd ger gorsafoedd sy’n fannau aros ar gais yn unig yn sgil yr amserlen bresennol. Cadarnhawyd bod asesiadau risg wedi’u cynnal ar bob un o’r 34 croesfan yn rhwydwaith Prif Linellau’r Cymoedd a bod cyflymder trenau wedi’u gostwng i 15mya pan fo angen. Mae gweithdai a hyfforddiant mewnol yn mynd rhagddynt yn cynnwys asesiadau tân a diogelwch ar gyfer swyddfa newydd Pontypridd. Cynhaliwyd asesiad risg COVID-19 ar drefniadau gweithio. Mae trefniadau rheoli risg blinder yn parhau i gael eu datblygu.

Yn anffodus, cafwyd dau hunanladdiad ar y rhwydwaith yn ystod y cyfnod. Mae swyddogion cyswllt rhanddeiliaid yn cael hyfforddiant ar atal hunanladdiad.

Trafododd y Bwrdd ffigurau iechyd a diogelwch o’r cyfnod blaenorol ac fe’i cynghorwyd bod y Mynegai Marwolaethau Pwysedig wedi cynyddu ychydig, ond bod tuedd digwyddiadau’r gweithlu ar i lawr gyda’r rhan fwyaf ohonynt yn fân-anafiadau. Er bod achosion o ymosodiadau ar y gweithlu wedi gostwng roedd y Bwrdd yn bryderus am lefel isel y dirwyon gorfodi. Cytunodd y Bwrdd y byddai’n fuddiol cael trafodaeth gyda BTP. Nid oes unrhyw ddigwyddiadau iechyd a diogelwch wedi’u hadrodd ar waith trawsnewid Prif Linellau’r Cymoedd, ond cafwyd achosion y bu ond y dim iddynt ddigwydd. Mae digwyddiadau trosedd llwybrau ar gynnydd, yn enwedig ymyrryd â chyfarpar fel dwyn ceblau. Mae digwyddiadau tresmasu wedi cynyddu dros y tri chyfnod diwethaf hefyd.

3a. Adroddiad y Prif Swyddog Gweithredol

Cyflwynodd JP ei farn ar y busnes ers cyfarfod diwethaf y Bwrdd. Roedd llawer o feddwl a gwaith wedi’i roi i reoli plant a myfyrwyr a oedd yn dychwelyd i’r ysgol a’r coleg. Roedd hyn yn creu nifer o heriau anodd ond roeddynt wedi’u rheoli’n dda ac nid oedd unrhyw un wedi methu mynychu’r ysgol neu’r coleg oherwydd problemau gyda thrafnidiaeth TrC. Er bod y broblem uniongyrchol wedi’i rheoli’n dda, mae angen asesu a meincnodi cost anghenion y busnes.

Cam gweithredu: LR i feincnodi’r costau o dalu am fysiau ysgol i sicrhau ein bod ni’n cael gwerth am arian

Mae TrC wedi bod yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru a’r ODP i ddeall goblygiadau’r rheoliadau cadw pellter cymdeithasol, yn enwedig diwygiadau i ddeddfau a gyflwynwyd i gynnal pellter cymdeithasol ar drenau. Mae cydymffurfiaeth â’r rheoliadau gwisgo gorchuddion wyneb wedi cynyddu o 20% i tua 75% o fewn ychydig wythnosau gyda llawer o waith wedi’i wneud i sicrhau hyn drwy ganfod cydbwysedd rhwng addysg, anogaeth a gorfodaeth.

Cafwyd diweddariad cryno ar statws trafodaethau â Keolis Amey ar gyfer trefniadau wedi’r Cytundeb Mesurau Brys.

3b. Cyllid

Cyflwynodd HC yr adroddiad cyllid a’r cyfrifon rheoli ar gyfer Awst 2020. Y prif feysydd ffocws yw monitro’r Cytundeb Mesurau Brys cyfredol. Mae hyn yn cynnwys adolygu’r fantolen a chau eitemau COVID-19 er mwyn cysoni a gwneud taliad terfynol ynghyd â rheoli llif arian ac adolygiadau misol. Mae gwaith yn parhau i gefnogi trefniadau ar gyfer y cyfnod wedi’r Cytundeb Mesurau Brys drwy fodelu ariannol, adolygu’r amddiffyniad rhag costau tanwydd cyfnewidiol, modelu effaith gwasanaethau, goblygiadau COVID-19 i raglen Prif Linellau’r Cymoedd, nodi risgiau sy’n datblygu ac ystyried opsiynau cytundebol.

Mae gwaith yn parhau hefyd ar draws holl rannau eraill y sefydliad drwy gefnogi gwaith ar yr agenda fysiau, ymateb i’r llythyr cylch gwaith diweddaraf, amrywiadau contractau rheilffyrdd, pensiynau ac archwiliad mewnol. Gofynnodd y Bwrdd a oedd yna unrhyw broblemau’n ymwneud â chyllid ar gyfer y dyfodol. Cadarnhawyd nad oedd unrhyw broblemau ar hyn o bryd.

Nododd y Bwrdd gyfrifon rheoli mis Awst 2020. Roedd Gwariant Adnoddau mis Awst yn £30 miliwn, £28 miliwn ohono’n gysylltiedig â rheilffyrdd, y mwyafrif yn cael ei drosglwyddo i’r ODP. Roedd gwariant cyfalaf mis Mawrth yn £14.1 miliwn, gyda £14 miliwn ohono’n gysylltiedig â rheilffyrdd.

3c. Diweddariad ar is-bwyllgorau

Derbyniodd y Bwrdd ddiweddariadau ar gyfarfodydd diweddar y Pwyllgorau Archwilio a Risg, Cwsmeriaid a Chyfathrebu, Iechyd, Diogelwch a Llesiant a Phobl.

Trafododd y Pwyllgor y cynnydd a wnaed i sefydlu’r Pwyllgor Prosiectau Newid Mawr. Cadarnhawyd mai VE fydd cadeirydd y pwyllgor gydag AB yn is-gadeirydd. Trafododd y Bwrdd y cylch gorchwyl drafft a fydd yn cael ei drafod ymhellach mewn cyfarfod sefydlu ddechrau Hydref yna’i fabwysiadu’n ffurfiol yng nghyfarfod mis Hydref y Bwrdd. Cadarnhawyd y bydd y Pwyllgor yn craffu ac yn darparu sicrwydd i’r Bwrdd ar brosiectau newid mawr y presennol a’r dyfodol.

3d. Cerdyn sgorio’r Bwrdd

Cytunodd y Bwrdd ar gynnwys arfaethedig cerdyn sgorio misol. Bydd yr adrodd yn cychwyn ym mis Hydref 2020.

3e. Bwrdd Llywio

Rhoddodd y Cadeirydd y wybodaeth ddiweddaraf i’r Bwrdd ar gyfarfod diweddar Bwrdd Llywio TrC gyda Llywodraeth Cymru. Yn y cyfarfod trafodwyd trefniadau wedi’r Cytundeb Mesurau Brys, rheoli risg, cylch gwaith, a chyllidebau a Dangosyddion Perfformiad Allweddol.

4. Unrhyw fater arall

[wedi ei olygu]

Rhan B – Sesiwn diweddaru gweithredol

Ymunodd LB, LR, AC, KG, DOL, DW, GM a GO â’r cyfarfod.

Diolchodd SW i’r Weithrediaeth a’u timau am eu gwaith ac annog pawb i sicrhau eu bod yn cymryd egwyl yn ystod y dydd.

 

5a. Dyfodol Rheilffyrdd

[Wedi ei olygu]

5b. Caffaeliadau a chyfranddaliadau

Rhoddwyd y wybodaeth ddiweddaraf i’r Bwrdd ar gynnydd gyda phedwar caffaeliad neu weithgareddau cyfranddaliadau posibl y mae TrC yn eu rheoli.

Mae trafodaethau wedi mynd rhagddynt yn dda ar drosglwyddo cyfrifoldeb ariannu gwasanaethau fel PTI (Gwybodaeth Trafnidiaeth Cyhoeddus) Cymru o Lywodraeth Cymru i TrC. Daethpwyd i gytundeb mewn egwyddor i ddatblygu’r cynnig hwn ymhellach gyda PTI Cymru a’r bwriad yw i TrC fynychu eu cyfarfod bwrdd ym mis Tachwedd 2020. Ym mis Medi 2020, dechreuwyd ar waith cynllunio a llywodraethu mewnol i reoli’r broses gaffael ac integreiddio.

5c. Cofrestr Risg

Trafododd y Bwrdd y Gofrestr Risg Strategol a chawsant wybod bod dwy risg newydd wedi’u hychwanegu mewn perthynas â chostau newid asedau annisgwyl Network Rail [wedi ei olygu].

5d. Cyfathrebu

Mae sgôr argraff y brand yn dal i fod yn gadarnhaol. Mae ymgyrchoedd a gynhaliwyd ar y cyfryngau yn ddiweddar yn dangos canlyniadau da ond mae heriau sylweddol yn dal i fodoli o ran cyfleu’r neges o fod yn ddiogel yn yr amgylchedd presennol.

5e. Opsiynau darparu cerbydau i gyflawni amserlen Rhagfyr 2020

Cefnogodd y Bwrdd argymhelliad i gadw’r naw cerbyd Porterbrook dosbarth 153s er mwyn gallu cyflawni amserlen Rhagfyr 2020 [wedi ei olygu]. Hysbyswyd y Bwrdd y byddai’r gwasanaeth yn cael ei leihau heb gadw’r cerbydau dan sylw.

5f. Llety Wrecsam

Cymeradwyodd y Bwrdd adeiladu cyfleuster swyddfa Portakabin wedi’i adnewyddu yng Ngorsaf Wrecsam Cyffredinol i ddarparu lleoliad i dîm y Gogledd a staff Gwasanaeth Rheilffyrdd TrC yn y Gogledd ar gost o £1.1 miliwn dros 15 mlynedd.

5g. Traciwr Rhaglenni a Chorfforaethol

Nododd y Bwrdd y tracwyr rhaglenni a chorfforaethol diweddaraf.

5h. Diweddariad ar seilwaith

Nododd y Bwrdd bapur a oedd yn rhoi diweddariad ar gynnydd prosiectau seilwaith.

5k. Unrhyw fater arall

Dim.

Diolchodd y Cadeirydd i bawb am eu presenoldeb.

Cyfarfod nesaf – 15 Hydref 2020.