Yn bendant. Mae gennym fflyd o 134 o drenau a cherbydau, yn bennaf, trenau diesel un neu ddau gerbyd.
Mae ein holl drenau ar brydles gan Gwmnïau Gweithredu Cerbydau Rheilffyrdd. Ni sy'n gyfrifol am eu cynnal a’u cadw ac am eu glanhau o ddydd i ddydd, a'r cwmnïau prydlesu sy'n gyfrifol am waith adnewyddu mawr sy'n rhaid ei wneud o bryd i'w gilydd.
Os oes angen gwneud gwella neu addasu ein fflyd ar raddfa fawr, rydym yn gweithio’n agos gyda’n partneriaid yn Llywodraeth Cymru, y Cwmnïau Gweithredu Cerbydau Rheilffyrdd a chyflenwyr eraill i sicrhau bod ansawdd ein fflyd yn diwallu anghenion a dymuniadau ein teithwyr a’n rhanddeiliaid.
-
Oeddech chi’n gwybod?Teithiwch yn SaffachGallwch gynllunio ymlaen llaw a phenderfynu pryd i deithio gan ddefnyddio ein Gwiriwr Capasiti.Gwirio capasiti