Roedd fy nhrên yn brydlon ond doeddwn i ddim yn hapus gyda'r gwasanaeth (dim toiledau/y bwyd a gafodd ei addo ddim ar gael/wi-fi gwan ac ati) A ga’i fy arian yn ôl?

Yn gyntaf, edrychwch ar y Siarter Teithwyr perthnasol. Os na allwch ddod o hyd i ateb i'ch cwyn, ysgrifennwch at y CWMNI TRENAU yn nodi manylion eich achos. Byddant yn adolygu hawliadau fesul achos. Os ydych wedi talu am wasanaeth ychwanegol na chawsoch chi, yna fel rheol bydd gennych hawl i gael ad-daliad llawn o'r tâl ychwanegol a dylech gysylltu ag adran gwasanaethau cwsmeriaid y CWMNI TRENAU. Os na wnaethoch chi dalu unrhyw beth am y gwasanaeth, ni chynigir ad-daliad i chi fel arfer.

 

A ga’i hawlio iawndal am oedi byr?

Fel rheol ni fydd CWMNÏAU TRENAU yn cynnig iawndal am oedi sy'n fyrrach na'r terfynau a nodir yn Siarter Teithio pob CWMNI TRENAU. Mae'r terfynau oedi yn amrywio rhwng CWMNÏAU TRENAU; mae rhai yn cynnig iawndal am oedi o 30 munud a hyd yn oed 15 munud, ond bydd wastad hawl gennych hawlio os oes 60 munud neu fwy o oedi.

Mae Trafnidiaeth Cymru yn cynnig iawndal os bydd eich trên yn wynebu oedi o 15 munud yn unig – am wybod mwy

 

A ga’i hawlio iawndal os bydd yr amserlen yn newid? 

Gallwch hawlio iawndal am unrhyw oedi oherwydd newidiadau i'r amserlen a hysbysebwyd ar gyfer y diwrnod roeddech yn bwriadu teithio drwy ddilyn prosesau ad-dalu’r diwydiant rheilffyrdd. Bydd eich cais yn cael ei ystyried heb oedi gormodol a bydd unrhyw iawndal sy'n ddyledus yn cael ei dalu o fewn 14 diwrnod ar ôl i'ch CWMNI TRENAU gytuno i’ch cais. Nod CWMNÏAU TRENAU yw prosesu pob cais drwy'r broses hon o fewn mis i’w dderbyn

 

A ga’i hawlio iawndal os nad oes sedd i fi?

Ni chynigir iawndal gan amlaf lle nad oes seddi ar gael, ond gellir ystyried hawliadau lle neilltuwyd sedd.

 

A ga’i hawlio iawndal os ydw i wedi talu am Sedd Dosbarth Cyntaf ac nad oedd rhai ar gael?

Os ydych wedi talu am docyn Dosbarth Cyntaf ac nad oes seddi Dosbarth Cyntaf ar gael (neu lle hysbysebwyd cerbyd Dosbarth Cyntaf ond doedd dim un ar gael), yna byddwch yn gallu hawlio drwy'r CWMNI TRENAU am y gwahaniaeth rhwng pris eich tocyn a’r pris dosbarth safonol ar yr un gwasanaeth. Sylwch y gall pris hyrwyddo neu docyn Dosbarth Cyntaf Ymlaen Llaw weithiau fod yn rhatach na'r pris Dosbarth Safonol, ac yn yr achosion hynny, efallai na fydd gennych hawl i unrhyw arian yn ôl.