Teithio Cymru ar droed ac ar drên

Ysbrydoliaeth ar gyfer dros 100 milltir o deithiau cerdded o orsafoedd rheilffordd ledled Cymru gyda ap cerdded a lles rhad ac am ddim Go Jauntly, ar y cyd â Trafnidiaeth Cymru.

Mae'r ap, sy'n addas i deuluoedd, ar gael am ddim ar iOS ac Android ac mae manylion y teithiau cerdded ar gael yn Gymraeg a Saesneg.

Lawrlwythwch yr ap cerdded rhad ac am ddim hwn a byddwch yn berchen ar wyddoniadur maint poced o deithiau cerdded trefol yma:

App StoreGoogle Play

Darganfod teithiau cerdded ar Ynys Môn Darganfod teithiau cerdded yng Nghastell-nedd Port Talbot
Darganfod teithiau cerdded yng Nghaerdydd Darganfod teithiau cerdded yn Sir Benfro
Darganfod teithiau cerdded yn Sir Gaerfyrddin Darganfod teithiau cerdded ym Mhowys
Darganfod teithiau cerdded yng Ngheredigion Darganfod teithiau cerdded yn Rhondda Cynon Taf
Darganfod teithiau cerdded yng Nghonwy Darganfod teithiau cerdded yn Abertawe
Darganfod teithiau cerdded yng Sir Ddinbych Darganfod teithiau cerdded ym Mro Morgannwg
Darganfod teithiau cerdded yn Sir y Fflint Darganfod teithiau cerdded yn Wrecsam
Darganfod teithiau cerdded yng Ngwynedd  

 

Darganfod teithiau cerdded ar Ynys Môn

Taith y Traeth, y Llyn a Thwyni Rhosneigr

Cymuned Llanfaelog, Ynys Môn | 2 hours / 6.2km

Mwynhewch Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Ynys Môn ar y daith hamddenol hon drwy’r twyni tywod ac ar lan y llyn. Mae lluniaeth ar gael ar hyd y ffordd.

 

Darganfod teithiau cerdded yng Nghaerdydd

Parc y Rhath a’r Gerddi Botaneg

Cymuned y Mynydd Bychan, Caerdydd | 1hr 30m / 4km

Taith gerdded hawdd i Barc y Rhath a’r gerddi Botaneg. Llawer o lefydd i blant chwarae a digonedd o fywyd gwyllt. Palmant yr holl ffordd ac yn wastad yn bennaf.

 

Tuag at Forglawdd Bae Caerdydd ac yn ôl

Butetown, Caerdydd | 1hr 30m / 3.3km

Mae’r llwybr hwn yn dilyn Llwybr Arfordir Cymru o amgylch Bae Caerdydd tuag at y morglawdd. Mae’r llwybr hwn yn gwbl wastad a cheir golygfeydd anhygoel.

 

Darganfod teithiau cerdded yn Sir Gaerfyrddin

O Landeilo i Barc Dinefwr

Llandeilo, Sir Gaerfyrddin | 40 minutes / 2.3km

Taith gyda golygfeydd bendigedig o orsaf Llandeilo i Barc Dinefwr. Gan fynd drwy barc hyfryd a Choed Castell. Mae grisiau serth ar y daith hon.

 

Llandeilo i Barc Dinefwr heb risiau

Llandeilo, Sir Gaerfyrddin | 30 minutes / 2.5km

Taith heb risiau o orsaf Llandeilo i Barc Dinefwr. Addas i bobl â chadeiriau olwyn a bygis.

 

Cylchdaith Gorsaf Llanymddyfri

Cymuned Llanymddyfri, Sir Gaerfyrddin | 2 hours / 5.2km

Taith gerdded o amgylch Llanymddyfri gyda Trafnidiaeth Cymru. Mae gwartheg a chamfeydd ar y ffordd, yn ogystal â golygfeydd bendigedig o gefn gwlad a chestyll.

 

Cylchdaith Hyfryd Llandeilo

Cymuned Llandeilo, Sir Gaerfyrddin | 1hr 45m / 5.8km

Dewch i fwynhau golygfeydd godidog o afon Tywi, mynd am dro drwy Goed y Castell a rhyfeddu at fyd natur yng Ngwarchodfa Natur Coed Tregib.

 

Darganfod teithiau cerdded yng Ngheredigion

Aberystwyth - Harbwr a Thraeth y De

Aberystwyth, Ceredigion | 3 hours / 8.4km

Mae’r llwybr hwn yn cynnwys cerdded ar hyd yr arfordir a glan yr afon yn ardal traeth y de yn Aberystwyth. Cewch olygfeydd bendigedig.

 

Harbwr, Traeth y De a Phen Dinas

Aberystwyth, Ceredigion | 4 hours / 10.6km

Mae’r llwybr hwn yn cynnwys cerdded ar hyd yr arfordir a glan yr afon yn ardal traeth y de yn Aberystwyth. Mae hefyd yn cynnwys estyniad anhygoel i fryngaer Pen Dinas.

 

Darganfod teithiau cerdded yng Nghonwy

Bae Colwyn i Gapel Sant Trillo

Bae Colwyn, Conwy | 1hr 30m / 5km

Mae’r daith hon yn dilyn Llwybr Arfordir Cymru o Fae Colwyn i Gapel Sant Trillo yn Llandrillo yn Rhos. Mae’n cynnig golygfeydd glan môr hyfryd yr holl ffordd.

 

Llanrwst a Threfriw, Conwy

Cymuned Llanrwst, Conwy | 1hr 45m / 5.1km

Cylchdaith drawiadol yn Nyffryn Conwy. Golygfeydd wrth lan yr afon, tirweddau bugeiliol, melin wlân a rhaeadr.

 

Pen y Benar a Chastell Dolwyddelan

Cymuned Dolwyddelan, Conwy | 3hr 30m / 9.4km

Dringfa egnïol i fyny Pen y Benar gyda golygfeydd o’r Wyddfa, coedwigoedd, afonydd, tirweddau bugeiliol a’r castell.

 

Taith gerdded hamddenol - Glan yr Afon a Phont Gower

Cymuned Llanrwst, Conwy | 1hr 30m / 3.3km

Mae’r daith hon yn dilyn llwybrau drwy’r dref ac ar hyd afon Conwy. Mae’n cynnwys Pont Gower anhygoel. Mae maes chwarae hefyd.

 

Darganfod teithiau cerdded yng Sir Ddinbych

Llwybr Clawdd Offa a Graig Fawr

Prestatyn, Sir Ddinbych | 3 hours / 8km

Mae’r daith hon yn dilyn Llwybr Clawdd Offa i fyny Mynydd Prestatyn. Mae’r ddringfa’n llawn golygfeydd godidog. Ewch yn ôl ar hyd hen reilffordd.

 

Darganfod teithiau cerdded yn Sir y Fflint

Cylchdaith y Castell a’r Bont Geffylau

Caergwrle, Sir y Fflint | 1hr 30m / 3km

Mae’r daith hon yn dilyn palmentydd o gwmpas y pentref. Mae dringfa serth at y castell yn werth yr ymdrech. Mae’r Bont Geffylau yn cynnig golygfeydd dros Alun.

 

Castell y Fflint a Llwybr yr Arfordir

Y Fflint, Sir y Fflint | 1hr 30m / 5km

Mae’r daith hon yn dilyn llwybrau caled o amgylch Castell y Fflint ac ar hyd Llwybr Arfordir Cymru, ac mae golygfeydd gwych o Aber Afon Dyfrdwy.

 

Cylchdaith Gorsaf Penarlâg

Penarlâg, Sir y Fflint | 1hr 15m / 3km

Taith sy’n addas i deuluoedd o amgylch Penarlâg. Mae dipyn o risiau ond fel arall mae’n wastad. Mae castell ac eglwys ar hyd y ffordd, gan gynnwys rhannau oddi ar y ffordd.

 

Darganfod teithiau cerdded yng Ngwynedd

Pier Bangor gyda Golygfeydd Di-rif

Bangor, Gwynedd | 1hr 50m / 6km

Cylchdaith drwy strydoedd deiliog i’r pier hanesyddol ar y Fenai. Dychwelyd drwy fannau gwyrdd a’r Stryd Fawr. Dim grisiau.

 

Pont y Bermo a Hwyl ar y Fferi

Cymuned y Bermo, Gwynedd | 2hr 15m / 6.6km

Ewch dros afon Mawddach ar Bont y Bermo a mwynhau golygfeydd o'r afon a’r arfordir ar y gylchdaith wastad hon, sy’n cynnwys taith ar gwch.

 

Cylchdaith Blaenau Ffestiniog

Blaenau Ffestiniog, Gwynedd | 1 hour / 2.6km

Cylchdaith y Moelwynion, Manod a Chwm Bowydd o amgylch Blaenau Ffestiniog.

 

Castell Cricieth a’r Traeth

Cymuned Cricieth, Gwynedd | 1 hour / 2.4km

Taith hamddenol o amgylch Cricieth gyda thraethau hardd, y castell, siopau annibynnol a chaffis ar hyd y ffordd.

 

Castell Harlech a’r ffordd fwyaf serth

Cymuned Harlech, Gwynedd | 50 minutes / 2km

Ewch i fyny’r ffordd fwyaf serth i bentref perffaith Harlech. Gyda golygfeydd godidog am yr Wyddfa yn ogystal â’r castell a siopau.

 

O Borthmadog i Bentref Hardd Portmeirion

Cymuned Porthmadog, Gwynedd | 1hr 35m / 4.9km

Cerddwch ochr yn ochr â’r trên stêm gan fwynhau golygfeydd o’r Wyddfa, yna dringo drwy goetiroedd a dod i ben eich taith ym mhentref penigamp Portmeirion.

 

Crwydro Traeth a Harbwr Pwllheli

Cymuned Pwllheli, Gwynedd | 1hr 35m / 4.9km

Mwynhewch warchodfa natur, twyni tywod godidog, traeth tywodlyd hir, ffurfiannau creigiau a’r harbwr. Mae toiledau a lle i gael lluniaeth ar y ffordd.

 

Darganfod teithiau cerdded yng Nghastell-nedd Port Talbot

Cylchdaith Parc Gwledig Castell-nedd a’r Gnoll

Cymuned Castell-nedd, Castell-nedd Port Talbot | 1hr 30m / 5.4km

Mae’r gylchdaith hon yn mynd drwy ganol tref Castell-nedd i Barc Gwledig y Gnoll. Cyfle i ddarganfod byd natur a hanes. Opsiwn heb risiau.

 

Darganfod teithiau cerdded yn Sir Benfro

Gorsaf Dinbych-y-pysgod a Waterwynch

Cymuned Dinbych-y-pysgod, Sir Benfro | 1hr 15m / 4.9km

O’r orsaf i’r môr ac yn ôl. Llawer o lethrau serth i fyny ac i lawr. Mae’n werth mynd am y golygfeydd.

 

Darganfod teithiau cerdded ym Mhowys

Tro Hamddenol o Orsaf Llanwrtyd

Llanwrtyd, Powys | 1hr 45m / 5.5km

Taith hyfryd o gwmpas cefn gwlad Llanwrtyd, gyda golygfeydd hyfryd ar lan yr afon.

 

Crwydro drwy Fyd Natur Trefyclo

Trefyclo, Powys | 1hr 20m / 3.7km

Cylchdaith hyfryd drwy Drefyclo a Choed Ffridd Fawr. Toiledau cyhoeddus ar y ffordd. Defaid yn y caeau ar y daith gerdded hon.

 

Llwybr Clawdd Offa o Drefyclo

Trefyclo, Powys | 3 hours / 8.4km

Ewch i ganolfan Clawdd Offa a'r ffin genedlaethol cyn mynd am dro ar hyd strydoedd hyfryd Trefyclo a'r Llwybr Cenedlaethol anhygoel.

 

Cerdded a Chrwydro yn y Trallwng

Y Trallwng, Powys | 2hr 55m / 7.4km

Cylchdaith hyfryd o amgylch y Trallwng. O’r gamlas i’r castell, gan orffen ar y stryd fawr am luniaeth. Llawer o gamfeydd.

 

Taith Gerdded Bywyd Gwyllt y Trallwng - Heb Risiau

Y Trallwng, Powys | 1hr 30m / 2km

Taith gerdded linol, wastad ar hyd Camlas Maldwyn yn y Trallwng. Mwynhewch weld byd natur ar hyd y ffordd. Gwych i deuluoedd a chŵn ar dennyn.

 

Darganfod teithiau cerdded yn Rhondda Cynon Taf

Taith Hamddenol Parc Aberdâr

Aberdâr, Rhondda Cynon Taf | 1hr 30m / 4.3km

Mae’r llwybr hwn yn dro hawdd drwy ganol tref Aberdâr i fyny i ardal hyfryd Parc Aberdâr. Mae digonedd o fywyd gwyllt a mannau chwarae y ffordd yma.

 

Llwybr Treftadaeth Lofaol

Trehafod, Rhondda Cynon Taf | 1hr 30m / 4.2km

Cyfle i fwynhau hanes y Rhondda gydag ymweliad â'r Parc Treftadaeth, Parc Gwledig Barry Sidings a chanol tref Pontypridd.

 

Darganfod teithiau cerdded yn Abertawe

O Lansamlet i Warchodfa Bro Tawe

Llansamlet, Abertawe | 1hr 50m / 6.8km

Ar y gylchdaith hon, byddwch yn gweld adeiladau diwydiannol hanesyddol, pyllau d?r cudd a bywyd gwyllt. Llwybr cwbl hygyrch.

 

Darganfod teithiau cerdded ym Mro Morgannwg

Crwydro Bae Whitmore

Y Barri, Bro Morgannwg | 1hr 30m / 3.8km

Mae’r llwybr hwn yn dilyn Llwybr Arfordir Cymru o amgylch Trwyn Nell, Bae Whitmore, y Promenâd a Thrwyn y Brodyr. Dim grisiau, a gwastad yn bennaf.

 

Darganfod teithiau cerdded yn Wrecsam

Parc Gwledig Dyfroedd Alun

Gwersyllt, Wrecsam | 2hr 30m / 4.7km

Mae’r llwybr hwn yn dilyn palmentydd a llwybrau caled gwastad yn y parc gwledig. Cewch olygfeydd bendigedig o’r afon a'r coetir ar y gylchdaith hon.

 

Golygfeydd Di-rif ar Daith Fawr y Waun

Maes y Waun, Wrecsam | 4hr 10m / 9.8km

Cylchdaith anhygoel o amgylch y Waun ar hyd y ffin. O borfeydd i goetiroedd, ac afonydd i fryniau. Mae’n wych.