Darganfyddwch Canolbarth Cymru a'r Gororau
Teithiau cerdded tywys o orsafoedd rheilffordd yng Nghanolbarth Cymru a’r Gororau yw’r Troeon Trên. Mae pob taith gerdded wedi’i chynllunio i fod yn hygyrch drwy daith diwrnod ddwyffordd o nifer o orsafoedd trên a bws ar y prif reilffyrdd a rheilffyrdd cysylltiol. Mae’r teithiau cerdded yn rhad ac am ddim ac yn agored i’r cyhoedd, does dim rhaid bod yn aelod o unrhyw fudiad.
Mae’r rhaglen Troeon Trên yn cael ei threfnu gan aelodau gwirfoddol o Gymdeithas Troeon Trên Canolbarth Cymru a’r Gororau a Throeon Trên Cymru. Am fanylion pellach, ewch i'w gwefannau
I gael rhagor o wybodaeth am ein teithiau cerdded, cysylltwch â: enquiries@railrambles.org
Dydy’r Troeon Trên ddim yn cyhoeddi manylion cyswllt arweinwyr teithiau unigol, ond maen nhw’n hapus i’ch rhoi mewn cysylltiad ag arweinwyr os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch chi am daith gerdded neu gyngor ar sut i ymuno â thaith.
Taithiau gerdded gorsaf
Teithiau cerdded i’r teulu gyda Go Jauntly
Mwynhewch deithiau cerdded, archwilio trysorau cudd ac ymweld â mannau anhygoel ar droed ac ar y trên. Cewch eich ysbrydoli gan dros 100 milltir o deithiau cerdded o orsafoedd rheilffordd ledled Cymru a’r Gororau gydag ap sy’n addas i deuluoedd.
Dewch o hyd i’n llwybrau cerdded nawr.