Prifddinas-Ranbarth Caerdydd

Mae Prifddinas-Ranbarth Caerdydd yn cynnwys 10 ardal awdurdod lleol ar draws De-ddwyrain Cymru. Y rhain yw Blaenau Gwent, Pen-y-bont ar Ogwr, Caerffili, Caerdydd, Merthyr Tudful, Sir Fynwy, Casnewydd, Rhondda Cynon Taf, Torfaen a Bro Morgannwg.  Rydyn ni’n gweithio’n agos gyda nhw i gyd i ddatblygu rhwydwaith trafnidiaeth integredig a fydd yn creu mannau hygyrch i fyw, gweithio a chwarae.

 

Rheilffyrdd

Mae’r estyniad arfaethedig cyntaf i'r Metro rhwng Aberdâr a Hirwaun, gan ddefnyddio’r hen reilffordd cludo nwyddau a arferai wasanaethu Pwll Glo’r Tower. Bydd yn cynnwys gorsaf yn y canol yn Llwydcoed a bydd yn gyfle i ni wneud Hirwaun yn ganolfan drafnidiaeth gynaliadwy ac yn borth i Fannau Brycheiniog, gan gefnogi datblygu economaidd a thwristiaeth.

 

Bysiau

Bydd gwelliannau sylweddol i fysiau dros y blynyddoedd nesaf. Rydyn ni’n canolbwyntio ar ddarparu gwasanaethau dibynadwy o ansawdd uchel sydd â chysylltiadau da ac sy’n cael blaenoriaeth dros draffig arall ar y ffyrdd.

Rydyn ni’n cydweithio â Llywodraeth Cymru, awdurdodau lleol Cymru a Phrifddinas-Ranbarth Caerdydd i wella ansawdd ein bysiau, profiad cwsmeriaid ac allyriadau. Byddwn hefyd yn gweithio gydag awdurdodau lleol Cymru i wella’r prif lwybrau bysiau er mwyn gwneud siwrneiau’n gyflymach, ac i wella dibynadwyedd, amseroedd teithio, a chysylltiadau.

 

Teithio llesol ac integreiddio

Mae TrC yn cydweithio ag awdurdodau lleol Cymru i ddatblygu ein cynlluniau cyntaf ar gyfer y Rhwydwaith Gorsafoedd Teithio Llesol o amgylch gorsafoedd Pontypridd a Phen-y-bont ar Ogwr. Bydd y rhain yn cael eu hintegreiddio â’n cynlluniau ehangach ar gyfer y rhwydwaith lleol. Yna byddwn yn datblygu cynlluniau rhwydwaith gorsafoedd pellach yn gysylltiedig â rhaglen waith ehangach i wella proses integreiddio teithio llesol, bysiau a threnau ar draws y Metro.

 

Edrych tua’r dyfodol gyda theithio cyflym ar drenau a bysiau

Yn y tymor hir, ein nod yw cyflwyno lefelau amlder a chysylltedd y gwasanaethau ar Linellau Craidd y Cymoedd i weddill y rhwydwaith. Bydd y gwelliannau hyn yn cynnig gwell mynediad at swyddi a gwasanaethau mewn ardaloedd gwledig fel Bro Morgannwg, cymoedd y dwyrain a Sir Fynwy.

Rydyn ni’n cychwyn nifer o astudiaethau strategol i wella cyfleoedd Metro yn yr ardaloedd hyn sy’n cael blaenoriaeth. Ein nod yw datgarboneiddio a gwella effaith amgylcheddol ein rhwydwaith drwy drydaneiddio.

Rydyn ni’n disgwyl i wasanaethau bws cyflymach a mwy uniongyrchol chwarae mwy o ran ar rai llwybrau allweddol.