Uwchraddio i docyn Safonol a Mwy

Gwariwch ychydig bach arnoch chi eich hun i gael mwy o le ar deithiau hirach, yna cewch eistedd yn ôl ac ymlacio.

Gallwch nawr uwchraddio o docyn Safonol i docyn Safonol a Mwy, ein hopsiwn newydd sydd ar gael ar rai o’n trenau newydd sbon. Am ddim ond 25% ar ben pris eich tocyn Safonol, fe gewch chi sedd fwy cyfforddus gyda mwy o le i'ch coesau.

 

Ar ba wasanaethau fydd yr opsiwn Safonol a Mwy ar gael?

Gallwch uwchraddio ar y llwybrau canlynol, ar yr amod bod yr opsiwn ar gael. 

  • Amwythig - Birmingham
  • Rheilffordd y Cambrian: Aberystwyth/Pwllheli - Amwythig
  • Rheilffordd Arfordir Gogledd Cymru: Crewe - Caergybi 
  • Rheilffordd y Gororau: Casnewydd - Crewe/Manceinion
  • Prif Reilffordd De Cymru: Abertawe - Cyffordd Twnnel Hafren
  • Rheilffyrdd Gorllewin Cymru: Abertawe - Abergwaun, Aberdaugleddau a Doc Penfro

 

Dydy'r opsiwn Safonol a Mwy ddim ar gael ar ein Gwasanaethau Premier rhwng Caerdydd a Chaergybi, a rhwng Caerdydd a Manceinion. Mae tocynnau Dosbarth Cyntaf ar gael ar gyfer y gwasanaeth hwn.

 

Sut fydda i’n gwybod a yw'r opsiwn Safonol a Mwy ar gael ar fy nhrên a sut mae uwchraddio?

Dim ond ar y trên y gallwch chi uwchraddio i docyn Safonol a Mwy a gall eich goruchwyliwr wirio a yw ar gael pan fyddwch chi’n talu am uwchraddio.

Gellir uwchraddio tocynnau i rai Safonol a Mwy a Dosbarth Cyntaf ar yr amod bod yr opsiynau hynny ar gael, a byddant yn cael eu gwerthu ar sail y cyntaf i’r felin.

 

Beth am fwyd a diod?

Mae ein holl wasanaethau bwyd a diod ar y trên yn amodol ar argaeledd. Y ffordd hawsaf o gael gwybod a fydd bwyd a diod ar gael ar eich trên yw prynu eich tocyn ar yr ap neu ar ein gwefan. Pan fyddwch yn dewis eich llwybr a'ch amser gadael, bydd eicon bwyd a diod yn ymddangos.