
Rydym wedi cydweithio â'r cogydd enwog seren Michelin, James Sommerin, i greu lefel uwch eto o foethusrwydd i'n harlwy Dosbarth Cyntaf. Yn lansio ar 7 Ebrill, bydd bwydlen amser cinio a chyda'r nos arbennig ar gael am wyth wythnos yn unig. Dyluniwyd y fwydlen gan James Sommerin mewn cydweithrediad â'n Prif Gogydd. Caiff y prydau eu coginio'n arbennig gan ein cogyddion talentog ar fwrdd y trên.
Meals on our trains
Darganfod eich blas am antur
P’un a ydych chi’n teithio adref o'r gwaith, yn mynd am benwythnos i ffwrdd neu’n dathlu achlysur arbennig, mae gennym amrywiaeth o wasanaethau bwyd a diod ar gael a fydd yn tynnu dŵr o’ch ddannedd.
Mae’n flasus, mae’n ffres, ac o ansawdd uchel. Gorau oll, mae llawer ohono’n gynnyrch lleol gan gyflenwyr bwyd a diod talentog o bob cwr o Gymru.




⠀
Oes bwyd a diod ar gael ar fy nhrên i?
Dim ond ar ein Gwasanaeth Premier rhwng Caerdydd a Chaergybi a Chaerdydd a Manceinion y mae ein gwasanaeth ciniawa Dosbarth Cyntaf a’n gwasanaeth bar bwyd ar gael ar hyn o bryd.
Byddwn fel arfer yn darparu gwasanaeth troli gydag amrywiaeth o fyrbrydau blasus, a diodydd poeth ac oer ar y llwybrau canlynol:
-
Caerfyrddin - Manceinion Piccadilly
-
Caerdydd Canolog - Caergybi
-
Aberystwyth - Birmingham International
-
Cyffordd Llandudno - Maes Awyr Manceinion
-
Caergybi - Birmingham International
Mae ein holl wasanaethau bwyd a diod ar y trên yn amodol ar argaeledd. Y ffordd hawsaf o gael gwybod a fydd bwyd ar gael ar eich trên yw prynu eich tocyn drwy ein ap neu ar ein gwefan. Pan fyddwch yn dewis eich llwybr a’ch amseroedd gadael, bydd eicon yn ymddangos i nodi a fydd bwyd a diod ar gael.
Gallwch hefyd ein ffonio ni ar 03333 211 202 rhwng 08:00 ac 20:00 o ddydd Llun i ddydd Sadwrn a rhwng 10:00 ac 20:00 ar ddydd Sul.