Rydyn ni’n trawsnewid ein gwasanaeth rheilffyrdd fel rhan o’n hymgyrch i greu gwell rhwydwaith trafnidiaeth.  Rydym yn buddsoddi llawer o arian er mwyn trawsnewid y gwasanaeth ac yn gweithio ar nifer o brosiectau. 

Fe allwch weld rhai o’r gwelliannau rydyn ni’n eu gwneud wrth deithio ar y rhwydwaith, ond rydyn ni hefyd yn gweithio’n galed y tu ôl i’r llenni i wneud yn siŵr ein bod yn creu rhwydwaith trafnidiaeth cynaliadwy neu i annog pawb ohonom i feddwl am Deithio Llesol, er enghraifft.

Rydym yn cyhoeddi fideos yn rheolaidd am ein gwaith a’r cynnydd rydyn ni’n ei wneud.  Rydym am wneud yn siŵr fod ein fideos yn llawn gwybodaeth ac o gymorth ichi. Byddem wrth ein bodd yn clywed gennych pe baech am i ni gyhoeddi fideo ar rywbeth y mae gennych chi ddiddordeb ynddo. Os oes gennych syniad am fideo, cysylltwch â ni ar media@tfw.wales
 
Adroddiad blynyddol

Mae Trafnidiaeth Cymru (TrC), y cwmni nid-er-elw sy’n mynd ati i gyflawni gweledigaeth Llywodraeth Cymru o ran trafnidiaeth yng Nghymru, wedi cyhoeddi ei adroddiad blynyddol a datganiadau ariannol ar gyfer blwyddyn ariannol 2018/19.

Gweledigaeth Gwella Gorsafoedd

Mae Trafnidiaeth Cymru wedi cyhoeddi manylion y cynllun buddsoddi gwerth £194 miliwn i wella’r 247 o orsafoedd rheilffordd sydd yng Nghymru.

Hydref

Mae Trafnidiaeth Cymru a Network Rail wedi bod yn gweithio’n galed i sicrhau bod y diwydiant rheilffyrdd yng Nghymru yn barod ar gyfer yr hydref.  Mae'r hydref yn dymor anodd i’r diwydiant rheilffyrdd ar draws y DU o ganlyniad i amodau tywydd gwael sy’n gallu difrodi trenau, sy’n lleihau’r nifer sydd ar gael ar gyfer gwasanaethau.

Class 170:

Mae Trafnidiaeth Cymru wedi derbyn y trên Turbostar Dosbarth 170 cyntaf gan Greater Anglia. Cyrhaeddodd Uned 170207 ddepo Treganna ddydd Sul 1 Medi. Mae gan y trên sydd â thri cherbyd 186 o seddi a bydd saith uned arall â thri cherbyd a phedair uned â dau gerbyd yn ymuno ag ef yn fuan, gyda phob un yn darparu seddi ar gyfer 110 o deithwyr

Class 37:

Roedd Trafnidiaeth Cymru yn falch iawn o groesawu hen wyneb cyfarwydd yn ôl i’w rwydwaith yr wythnos diwethaf, pan ail-gyflwynwyd trên Dosbarth 37 wedi’i dynnu gan locomotif.Mae’r trên Dosbarth 37 a ddefnyddiwyd ddiwethaf ar y rhwydwaith yn 2005, wedi cael ei gyflwyno i ddarparu mwy o gapasiti ar Reilffordd Cwm Rhymni, tra bo Trafnidiaeth Cymru yn aros i’w drenau ychwanegol gyrraedd.

Vivarail

Mae Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth wedi ymweld â’r gwneuthurwr cerbydau trên Vivarail i weld trenau Dosbarth 230 a fydd yn gweddnewid profiad y cwsmer ar reilffyrdd gogledd Cymru

Meet the Buyer

Gyda chontractau gwerth £50 miliwn y flwyddyn ar gael yn ystod y 15 mlynedd nesaf, mae Trafnidiaeth Cymru wedi ymrwymo i weithio’n agos gyda busnesau lleol i sicrhau eu bod yn elwa o'r lefelau buddsoddi arwyddocaol hyn a bod y gwir fanteision i’w teimlo ledled y cymunedau rydym yn eu gwasanaethu. Mae’r digwyddiadau’n cael eu cyflwyno mewn partneriaeth â Busnes Cymru, gwasanaeth cefnogi busnesau blaenllaw Llywodraeth Cymru

Halton Curve:

Mae Trafnidiaeth Cymru nawr yn rhedeg gwasanaethau rheilffyrdd bob awr rhwng Gogledd Cymru a Sir Caer i Lerpwl. Drwy ailagor trac Tro Halton, mae Trafnidiaeth Cymru wedi lansio 215 o wasanaethau newydd bob wythnos a bydd gwell cysylltiad yn hwb economaidd mawr i’r rhanbarth

Conwy Valley

Diolch i bawb yn Trafnidiaeth Cymru a Network Rail am eu gwaith caled ar Rheilffordd Dyffryn Conwy ar ôl difrod gan lifogydd.

Community Rail

Mae Trafnidiaeth Cymru wedi lansio gweledigaeth newydd sbon ar gyfer rheilffyrdd cymunedol, gan roi lle blaenllaw i anghenion ardaloedd lleol yn ei gynlluniau.

Elite Paper Solutions

Mae Trafnidiaeth Cymru wedi dyfarnu contract i ELITE Paper Solutions, menter gymdeithasol sy’n helpu pobl ag anableddau i gael gwaith

Minister visits Vivarail:

Mae Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth, Ken Skates, wedi ymweld â’r gwneuthurwr cerbydau trên Vivarail i weld trenau newydd Trafnidiaeth Cymru a fydd yn gweddnewid profiad y cwsmer ar reilffyrdd gogledd Cymru

Trawsnewid Trafnidiaeth