Dinbych 77
Dyma fflecsi sydd hefyd yn cysylltu cymunedau gwledig â chanol tref Dinbych, ac mae’n rhedeg mewn ardaloedd i’r de-orllewin, gogledd-orllewin a gogledd-ddwyrain o’r dref - gan gynnwys Llanelwy. Mae’r gwasanaeth yn helpu i ddarparu cludiant i siopau lleol, canolfannau iechyd, mannau gwaith, cysylltiadau teithio pellach a chyrchfannau allweddol eraill yng nghanol tref Dinbych.
Prisiau
Dyma’r prisiau ar gyfer teithio i ganol tref Dinbych:
- Tocyn unffordd drwy’r dydd i oedolion: £2.00
Dyma’r prisiau ar gyfer teithio o Henllan i Ddinbych:
- Tocyn unffordd drwy’r dydd i oedolion: £1.50
Mae tocynnau 1bws hefyd yn ddilys ar y gwasanaeth hwn a gellir eu prynu am £6.50.
Mae’r rheini sydd â cherdyn bws rhatach yn teithio am ddim gyda fflecsi.
Archebu ymlaen llaw
28 diwrnod.
Cŵn ar y bws
Derbynnir cŵn.