Rydyn Ni’n Adeiladu Pum Math O Drên Rydyn Ni’n Gofyn I Blant Eu Henwi.
Bydd trên gwahanol ym mhob rhanbarth i’w enwi.
O 2023 ymlaen, bydd £800m o fuddsoddiad yn sicrhau bod 95% o’r teithiau trên yng Nghymru a’r gororau yn digwydd ar drenau newydd. Bydd mwy na hanner y trenau yn cael eu hadeiladu yng Nghymru.
Gwasanaethau pellter hir
CAF DMU – Class 197Mae’r trenau Class 197 newydd sbon yn cael eu hadeiladu yng Nghasnewydd. Byddan nhw’n dechrau rhedeg o 2022 ymlaen ar wasanaethau pellter hir ar draws rhwydwaith Cymru a’r Gororau, gan wasanaethu cyrchfannau mor amrywiol â Chaergybi, Abergwaun a Lerpwl. |
|
Class 230Yn wreiddiol, roedd y 230au yn drenau Stoc D Tanddaearol Llundain, yn gwasanaethu llinellau’r Metropolitan, y District a’r Circle tan 2017. Maen nhw wedi cael eu hailwampio’n llwyr ers hynny, gan ychwanegu injan diesel-hybrid a gwneud gwelliannau y tu mewn. Byddan nhw’n cael eu cyflwyno ar Linell Wrecsam-Bidston. |
Metro De Cymru
Mae Metro De Cymru yn rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus integredig a fydd yn ei gwneud hi'n haws i bobl deithio ar draws Prifddinas-Ranbarth Caerdydd, gan drawsnewid y gwasanaethau rheilffyrdd a bws yn ogystal â beicio a cherdded.
O fis Rhagfyr 2022 ymlaen, byddwn ni'n cyflwyno trenau newydd i ddarparu mynediad gwastad ar gyfer cwsmeriaid.
Stadler FLIRT (DEMU) - Class 231Trenau trydan a diesel pedwar cerbyd tebyg i’n trenau tair ffynhonnell pŵer. |
|
|
Stadler FLIRT (TMMU) - Class 756Byddwn yn defnyddio trenau aml-uned arloesol sy’n cael eu gyrru gan dair ffynhonnell pŵer (diesel, trydan, batri) sy’n llawer mwy gwyrdd ar gyfer yr amgylchedd. Mae Stadler yn eu hadeiladu yn y Swistir ar hyn o bryd. Gallwch fynd ar daith rithwir ryngweithiol o’r trên yma. |
|
Stadler Citylink - Class 398Gallwch ddisgwyl gweld yr unedau hyn ar y rheilffyrdd ac ar dramffyrdd ar strydoedd. Mae sbardun cyflym i’r tram-drenau trydan/batri hyn, sy’n cael eu hadeiladu yn Valencia gan Stadler, ac maen nhw’n ecogyfeillgar. |
I gael rhagor o wybodaeth am Fetro De Cymru, ewch i drenau
Gallwch ddysgu mwy am ein trenau drwy chwarae ein gêm gardiau ‘Trymps Trên’.