Lein y Cambrian i ailagor yn dilyn damwain reilffordd

 

Bydd lein y Cambrian yn ailagor ar gyfer gwasanaethau arferol o ddydd Llun yn dilyn y ddamwain drasig ar y rheilffordd yn gynharach yr wythnos hon, cyhoeddodd Network Rail a Trafnidiaeth Cymru heddiw.

Mae'r timau ymchwilio wedi dod â'u hymchwiliad ar y safle i ben, gan alluogi peirianwyr Trafnidiaeth Cymru i wahanu'r ddau drên a ddifrodwyd, sydd yn y broses o gael eu tynnu oddi ar y safle.

Ar yr un pryd, mae peirianwyr Network Rail wedi bod yn gwneud gwaith atgyweirio, cynnal a chadw a chyfres o wiriadau ac archwiliadau diogelwch trylwyr.

Mae systemau diogelwch y trenau sy'n defnyddio'r lein yn parhau i gael eu gwirio a'u harchwilio'n rheolaidd.

Bydd trenau prawf yn rhedeg drwy'r ardal i sicrhau bod popeth yn gweithredu yn ôl yr arfer cyn dechrau gweithrediadau i deithwyr ddydd Llun.

Gall y digwyddiad effeithio ar wasanaethau trên yn y tymor byr o hyd a dylai teithwyr barhau i wirio cyn teithio.

 

Dywedodd Nick Millington, Cyfarwyddwr Llwybrau Cymru a'r Gororau Network Rail:

"Bydd digwyddiadau trasig nos Lun wedi’u serio ar fy nghof am byth ac mae pob un sydd wedi’i effeithio yn fy meddwl o hyd. Diolch byth, mae digwyddiadau fel hyn yn brin iawn ar y rhwydwaith rheilffyrdd. Rydym yn parhau i weithredu un o'r rhwydweithiau rheilffordd mwyaf diogel yn Ewrop.

"Mae ein peirianwyr wedi bod ar y safle trwy gydol y cyfnod ac wedi cynnal archwiliadau diogelwch trylwyr iawn ac byddwn yn rhedeg trenau prawf drwy'r ardal.

"Dw i’n ddiolchgar i'r gymuned leol sydd wedi bod yn hynod o gefnogol drwy gydol yr wythnos ddiwethaf wrth i ni reoli’r digwyddiad hwn.

"Hoffwn ddiolch hefyd i deithwyr am eu hamynedd, eu dealltwriaeth a'u cefnogaeth yn ystod y dyddiau diwethaf wrth i’n timau weithio'n ddiflino i adfer y rheilffordd cyn gynted ag y gallent."
 

Dywedodd Jan Chaudhry van der Velde, Prif Swyddog Gweithrediadau TrC:

"Mae gan y rheilffyrdd yng Nghymru record ddiogelwch dda iawn, felly pan fydd digwyddiadau difrifol fel hyn yn digwydd, rydym ni yn TrC, ynghyd â'n partneriaid yn Network Rail, yn benderfynol o fynd at wraidd yr hyn a'i hachosodd. Am y rheswm hwnnw, rydym yn cydweithredu'n llawn â'r awdurdodau sy'n ymchwilio i'r gwrthdrawiad, ac yn benodol, y Gangen Ymchwilio i Ddamweiniau Rheilffordd.

"Rydym wedi gweithio'n galed i glirio'r trenau'n ddiogel o safle’r ddamwain, ac i gynnal gwiriadau a phrofion diogelwch llawn cyn ailagor y lein ar gyfer trenau i deithwyr.

"Rydym yn cydymdeimlo’n arw â theulu'r teithiwr a fu farw, ac yn dymuno gwellhad buan i’r teithwyr a'r aelodau staff hynny a anafwyd yn y gwrthdrawiad."
 

 

 

Gellir dod o hyd i'r wybodaeth ddiweddaraf am wasanaethau yma.