Ein hôl troed carbon 2021

Submitted by Content Publisher on

Ein hôl troed carbon 2021

Oherwydd newidiadau yn y fethodoleg, rydyn ni wedi ailosod 2020/21 fel ein llinell sylfaen ar gyfer ein hôl troed carbon. Bydd yr adroddiad hwn yn gweithredu fel man cychwyn ar gyfer asesu cynnydd yn y dyfodol.

 

Cyflwyniad

Rydyn ni wedi ymrwymo i adeiladu rhwydwaith trafnidiaeth sy’n addas ar gyfer y dyfodol ac rydyn ni wedi gosod targedau i ddatgarboneiddio ein rhwydwaith a’n gweithrediadau erbyn 2030.

Mae Llywodraeth Cymru wedi nodi ei hymrwymiad cyfreithiol i sicrhau allyriadau sero net erbyn 2050 ond mae’n ymdrechu i “gyflawni hynny’n gynt”.

Yma yn Trafnidiaeth Cymru (TrC) rydyn ni wedi ymrwymo i chwarae ein rhan i greu dyfodol mwy disglair i genedlaethau’r dyfodol ac i’n hamgylchedd.

Rydyn ni’n cymryd camau i leihau ein heffaith ar y newid yn yr hinsawdd

Rydyn ni’n gwneud y canlynol;

  • trydaneiddio dros 172km o gledrau
  • cyflwyno cerbydau newydd
  • annog dulliau teithio mwy cynaliadwy 
  • helpu i greu llwybrau teithio llesol gwell a mwy hygyrch gyda’n partneriaid
  • anelu at sicrhau colled-sero-net mewn bioamrywiaeth drwy greu cynefinoedd
  • gweithio gyda’n cadwyn gyflenwi i leihau ein heffaith ar allyriadau carbon gyda’n gilydd
  • datblygu ein cynllun Addasu ar gyfer Newid yn yr Hinsawdd
  • llunio cynllun wedi’i gostio i’n helpu i ddatgarboneiddio, fel gweithredwr trafnidiaeth, erbyn 2030
     

 

Ein hôl troed carbon lleol

Mae’r Ymddiriedolaeth Garbon wedi creu adnodd ôl troed cabon i gyfrifo ein hôl troed carbon.

Mae’r adnodd hwn wedi’i strwythuro fel bod modd mewnbynnu’r ffynonellau data ac wedyn bydd yn cyfrifo’r ôl-troed yn awtomatig.

Mae hyn yn caniatáu i ni gymharu ôl troed carbon o un flwyddyn i’r llall a monitro bod cynnydd yn cael ei wneud.

 

Beth yw allyriadau cwmpas?

CWMPAS 1

Allyriadau uniongyrchol sy’n deillio o weithrediadau a gweithgareddau y mae TrC yn berchen arnynt neu’n eu rheoli.

Tanwydd 
cludiant
Allyriadau adeiladau rydyn ni’n berchen arnynt Tanwydd ffordd
CWMPAS 2 Allyriadau anuniongyrchol o ynni sy’n cael ei gyflenwi drwy’r grid. Ynni a brynir    
CWMPAS 3 Allyriadau anuniongyrchol sy’n deillio o weithgareddau sy’n ymwneud â gweithrediadau TrC, ond sydd ddim o fewn ein rheolaeth uniongyrchol. Gweithwyr yn cymudo Trydan
(trawsyrru a dosbarthu)
Cadwyn gyflenwi
Gwastraff Allyriadau ‘o’r tarddiad i’r tanc’ Dŵr

 

Allyriadau 2021

Allyriadau gros yn ôl cwmpas 2020/21

tCO2e

Cwmpas 1 - 64,497

Cwmpas 2 - 2,647

Cwmpas 3 - 536,615

 

Cwmpas 1 - 1%

Cwmpas 2 - 11%

Cwmpas 3 - 88%

 

Mae amcangyfrifon o allyriadau ‘O’r Tarddiad i’r Tanc’ (WTT) wedi cael eu cynnwys ar gyfer:

  • Cynhyrchu trydan
  • Trawsyrru a dosbarthu trydan
  • Cyflenwad nwy
  • Tanwydd
  • Milltiroedd cerbydau

Mae allyriadau WTT yn cael eu defnyddio i geisio rhoi cyfrif am allyriadau ymhellach i fyny’r gadwyn gyflenwi sy’n gysylltiedig ag echdynnu, puro a chludo pob un o’r ffynonellau tanwydd uchod (a ddefnyddir gan sefydliad) cyn i’r hylosgi ddigwydd.

Mae’r holl allyriadau WTT wedi’u cynnwys yng Nghwmpas 3 ac wedi’u categoreiddio fel “colledion ymhellach i fyny’r gadwyn”, gan fod yr allyriadau wedi digwydd cyn eu defnyddio a’u bod y tu hwnt i reolaeth uniongyrchol sefydliad. Mae allyriadau yn sgil trawsyrru a dosbarthu trydan hefyd yn cael eu hystyried yn golledion o’r fath ac maent wedi’u cynnwys yng nghwmpas 3.

 

Dadansoddiad o allyriadau 2021

Cyfanswm allyriadau (tCO2e)
Cwmpas 1 (Allyriadau uniongyrchol)
Nwy 607
Tanwydd 63,890
Milltiroedd cerbydau 7
Cynhyrchu ynni adnewyddadwy -
Cwmpas 2 (allyriadau anuniongyrchol o ynni sy’n cael ei gyflenwi drwy’r grid)
Trydan 2,647
Cwmpas 3 (allyriadau anuniongyrchol eraill)
Colledion ymhellach i fyny’r gadwyn - nwy 87
Colledion ymhellach i fyny'r gadwyn - tanwydd 14,655
Gwastraff ac Ailgylchu 13
Cyflenwad dŵr 21
Trin dŵr 42
Cadwyn gyflenwi 521,164
Colledion ymhellach i fyny'r gadwyn - trydan 624
Colledion ymhellach i fyny'r gadwyn - milltiredd cerbydau 2
Allyriadau defnyddio tir
Allyriadau net o asedau tir TrC -689
Cyfanswm allyriadau cwmpas 1,2 a 3 603,070

 

Cyfanswm allyriadau blynyddol gros

Rydyn ni wedi newid ein hôl troed carbon yn unol â Chanllaw Llywodraeth Cymru i’r Sector Cyhoeddus ar gyfer Adrodd ar Garbon Sero-Net.

Oherwydd y fethodoleg gyfrifyddu newydd a bod gweithgareddau crai eraill wedi cael eu cynnwys, mae ein hôl troed wedi cynyddu 515,839 tCO2e o’i gymharu â 2019/20.

Nid yw allyriadau yn sgil cymudo a thrafnidiaeth gyhoeddus wedi’u cynnwys ar hyn o bryd yn y broses adrodd ar gyfer eleni. Rydyn ni’n llunio prosesau i fesur y data hyn.

Ar ôl ailasesu ein hallyriadau, ein cadwyn gyflenwi yw’r gweithgaredd sy’n gyfrifol am y lefel uchaf o allyriadau erbyn hyn. Wrth i ni fwrw ymlaen â’n rhaglen drawsnewid, bydd allyriadau ein cadwyn gyflenwi yn parhau i fod yn anodd eu trin neu hyd yn oed yn cynyddu o ganlyniad. Fodd bynnag, er bod allyriadau ein cadwyn gyflenwi yn uchel ar hyn o bryd, ystyrir bod y buddsoddiad mewn creu system drafnidiaeth aml-ddull gynaliadwy ac integredig yn gwrthbwyso hyn drwy’r gostyngiad mewn allyriadau o sector trafnidiaeth Cymru yn y tymor hir.

 

Cyfanswm allyriadau blynyddol gros 2018-21

Cyfanswm allyriadau blynyddol gros 2018-21

 

Sut rydyn ni’n lleihau ein hallyriadau

Ar ôl dadansoddi allyriadau ein cadwyn gyflenwi, y tri chategori lle gwelwyd yr allyriadau mwyaf yn 2020/21 oedd:

  • Adeiladu 255,858 tCO2e
  • (Gwasanaethau) Trafnidiaeth rheilffyrdd 209,686 tCO2e
  • Gwasanaethau pensaernïol a pheirianneg; gwasanaethau dadansoddi a phrofi technegol 24,454 tCO2e

Mae’r amcangyfrifon ar gyfer allyriadau cadwyn gyflenwi TrC wedi cael eu cyfrifo o ddata gwariant a ddarparwyd gan ein timau Cyllid a Chontractio.

Mae’r gweithgarwch o ran gwariant yn cyd-fynd yn agos â chategorïau’r cadwyn gyflenwi. Nid yw’r fethodoleg safonol gyfredol yn ystyried penderfyniadau prynu, fel eitemau sy’n cael eu caffael drwy ffynonellau cynaliadwy. 

Mae’n debygol y bydd allyriadau yn ein cadwyn gyflenwi yn cynyddu wrth i ni fuddsoddi mewn seilwaith newydd i gefnogi datgarboneiddio’r sector trafnidiaeth yng Nghymru.

Rydyn ni wedi ymrwymo i leihau allyriadau o’n cadwyn gyflenwi lle bo hynny’n bosib. Byddwn yn dadansoddi allyriadau ein cadwyn gyflenwi yn barhaus er mwyn cael darlun cywir o ôl troed carbon y nwyddau a’r gwasanaethau rydyn ni’n eu prynu, gan nodi cyfleoedd ar gyfer lleihau allyriadau i gefnogi ein targedau datgarboneiddio ar gyfer 2030.

 

Mae 15,600 kWh o drydan adnewyddadwy dim allyriadau yn cael ei gynhyrchu gan ein paneli solar bob blwyddyn. Rydyn ni’n defnyddio’r ynni hwn yn uniongyrchol ac rydyn ni’n bwriadu dyblu arwynebedd y paneli erbyn diwedd 2022.

Bydd ein fflyd newydd o drenau, a fydd yn dechrau rhedeg ar ein rhwydwaith o 2022 ymlaen, yn defnyddio tanwydd yn fwy effeithlon, ac yn defnyddio cymysgedd o ddisel, batri a thrydan.

Mae ein pencadlys ym Mhontypridd yn defnyddio system casglu dŵr glaw sy’n dal hyd at 45,000 litr, gan leihau ein galw am gyflenwadau dŵr.

Rydyn ni wedi ymrwymo i fabwysiadu dull gweithredu sy’n rhoi byd-natur yn gyntaf wrth ymgorffori cadernid o ran newid yn yr hinsawdd yn ein rhwydwaith. Byddwn yn ceisio defnyddio atebion sy’n seiliedig ar natur yn ein cynllun addasu ar gyfer newid yn yr hinsawdd.

 

Atodiad A

Gofynion adrodd

Cwmpas 1

  • Nid yw’r allyriadau sy’n gysylltiedig â’n defnydd o danwydd yn cynnwys gwasanaethau bws yn lle trên. Bydd yr allyriadau hyn yn cael eu cynnwys yng nghylch adrodd 2021/22 ac mae ein hôl troed yng nghyswllt Cwmpas 1 yn debygol o gynyddu.
  • Mae’r holl amcangyfrifon sy’n ofynnol ar gyfer allyriadau O’r Tarddiad i’r Tanc (WTT) wedi’u cynnwys yng Nghwmpas 3.
  • Mae allyriadau o’n defnydd uniongyrchol o nwy wedi gostwng 382 tCO2e o’i gymharu â 2019/20 
  • Mae allyriadau o’n defnydd uniongyrchol o danwydd yn 1874 tCO2e yn is na 2019/20. Mae gostyngiadau yn yr allyriadau nwy a thanwydd yn debygol o fod yn gysylltiedig â COVID-19, o ganlyniad i ostyngiad yn nifer y teithwyr a’r gwasanaethau rydyn ni wedi bod yn eu darparu.

 

Cwmpas 2

  • Mae Llywodraeth Cymru yn mynnu bod bob sefydliad yn y sector cyhoeddus y mae adrodd yn berthnasol iddo yn cyfrifo allyriadau trydan Cwmpas 2 gan ddefnyddio’r dull seiliedig ar leoliad. Mae’r dull hwn yn ystyried cymysgedd tanwydd y grid cenedlaethol gan ddefnyddio’r ffactor allyriadau safonol ar gyfer grid trydan y DU. Nid yw’n adlewyrchu unrhyw benderfyniadau caffael, megis tariffau gwyrdd.
  • Rydyn ni’n prynu ein trydan drwy dariff “gwyrdd”. Mae hyn yn golygu bod canran o’r ynni a gafodd ei gyflenwi wedi cael ei gynhyrchu gan ffynonellau adnewyddadwy. Mae’r tariff yn cael ei gefnogi gan dystysgrifau Gwarant Tarddiad Ynni Adnewyddadwy (REGO) fel dull o ddilysu’r ynni adnewyddadwy
  • Mae’r Protocol Nwyon Tŷ Gwydr yn argymell dull deuol o adrodd, ond rydyn ni wedi penderfynu adrodd yn unol â chanllawiau Llywodraeth Cymru ar gyfer 2020/21. Rydyn ni’n cydnabod pryderon Llywodraeth Cymru ynghylch y posibilrwydd o gyfrif ddwywaith gyda’r dull deuol o adrodd ac yn credu bod y dull seiliedig ar leoliad yn fwy pragmatig nes y ceir rhagor o eglurder ynghylch y dull seiliedig ar y farchnad. 
  • Mae ein defnydd o drydan wedi gostwng 856 tCO2e o’i gymharu â ffigurau 2019/20. Mae’r gostyngiad hwn yn cael ei briodoli i lai o deithwyr a gwasanaethau oherwydd pandemig COVID-19.

 

Cwmpas 3

  • Gofynnir i’r holl sefydliadau sy’n cymryd rhan roi amcangyfrif o allyriadau yn eu cadwyn gyflenwi gan ddefnyddio’r dull seiliedig ar wariant, sy’n defnyddio data cyfartalog a ffactorau allyriadau o’r tarddle i’r safle. Nid yw’r fethodoleg yn ystyried unrhyw benderfyniadau caffael, a wneir gan gwmni, i leihau ôl troed carbon ei gadwyn gyflenwi.
  • Wrth gwblhau Llys Cadwyn yn 2020/21, gwnaethom benderfyniad ymwybodol i leihau effaith amgylcheddol ffitiadau mewnol drwy gaffael dodrefn ail-law a gafodd eu hail-bwrpasu gan gwmni menter gymdeithasol lleol yng Nghymru. Nid yw’r dull seiliedig ar wariant yn ystyried y penderfyniad caffael hwn, gan ei fod yn amcangyfrif allyriadau ar sail gwariant, yn hytrach na’r cynnyrch a brynwyd. Dywedodd Rype Office, ein partner yn y prosiect, ein bod wedi arbed 90,000 kgCO2e drwy wneud y dewis hwnnw wrth gaffael. 
  • Rydyn ni’n rhagweld bod allyriadau ein cadwyn gyflenwi wedi cael eu chwyddo’n ormodol ac nad ydynt yn wirioneddol gynrychioladol o effaith amgylcheddol fwyaf tebygol y nwyddau a’r gwasanaethau rydyn ni wedi’u caffael.
  • Byddwn yn cynnal dadansoddiad o allyriadau ein cadwyn gyflenwi er mwyn cael darlun mwy cywir o ôl troed carbon ein proses gaffael. Byddwn yn archwilio methodolegau cyfrifyddu eraill fel rhan o’r gwaith hwn. Bydd y prosiect hefyd yn ceisio canfod cyfleoedd i leihau allyriadau yn ein cadwyn gyflenwi.
  • Nid yw allyriadau o deithiau busnes (awyr) a chymudo staff wedi cael eu cynnwys oherwydd prinder data. Mae cyfyngiadau COVID-19 wedi arwain at ostyngiad yn nifer y staff sy’n cymudo i’r gwaith neu’n hedfan at ddibenion busnes.
  • Mae allyriadau teithiau busnes (ffordd) wedi cael eu cynnwys yn yr adroddiad hwn, ond, mae’n debyg y bydd gwallau yn y data presennol. Bydd y broses  honyn cael ei hadolygu a’i mireinio ar gyfer adroddiadau 2021/22 ac mae allyriadau’n debygol o newid ar gyfer y gweithgaredd hwn.
  • Mae Llywodraeth Cymru yn mynnu bod cwmnïau yn y sector cyhoeddus yn adrodd ar gostau teithio o ran trafnidiaeth gyhoeddus (tacsi, bws lleol, bws moethus a thrên). Nid yw allyriadau o’r gweithgareddau hyn wedi’u cynnwys yn yr adroddiad hwn, gan nad oedd yn ofyniad adrodd o’r blaen. Mae prosesau’n cael eu datblygu i gasglu’r data perthnasol yn y dyfodol a bydd amcangyfrifon o allyriadau’n cael eu cyfrifo ar gyfer 2021/22. Mae’n debyg y bydd allyriadau yng nghyswllt Cwmpas 3 yn cynyddu.
  • Mae allyriadau o gynhyrchu gwastraff wedi gostwng 25 tCO2e o’i gymharu â 2019/20. Mae’r newid hwn yn debygol o fod yn gysylltiedig â COVID-19, oherwydd y gostyngiad mewn gwasanaethau a nifer y teithwyr, a chydweithwyr ar y safle. 
  • Canfuwyd gwall yn y dull cyfrifyddu yng nghyswllt milltiroedd cerbydau yn y blynyddoedd blaenorol. O’r herwydd, bydd y tueddiadau o ran allyriadau milltiroedd cerbydau yn dechrau o 2020/21 ymlaen.
  • Mae’r amcangyfrifon o allyriadau milltiroedd yn yr adroddiad hwn yn rhoi cyfrif am y rheini o Grŵp TrC yn unig, nid Rheilffyrdd TrC.. Nid yw’r data ar gyfer cydweithwyr yn y Grŵp yn cynnwys data am gerbydau a mathau o danwydd, dim ond y milltiroedd a deithiwyd, a’r swm a hawliwyd. Mae’r amcangyfrifon yn yr adroddiad hwn wedi cael eu cyfrifo ar sail mathau o gerbydau “Cyffredin” gyda mathau o danwydd “Anhysbys”. Yn y dyfodol, bydd y broses yn cael ei datblygu i fireinio’r amcangyfrifon o allyriadau a gyfrifir ar gyfer milltiroedd cerbydau.
  • Mae allyriadau O’r Tarddiad i’r Tanc (WTT) ar gyfer ein defnydd o nwy, tanwydd a thrydan, a milltiroedd cerbydau, wedi cael eu cynnwys yng Nghwmpas 3 yn unol â chanllawiau’r Protocol Nwyon Tŷ Gwydr.
  • Mae allyriadau trawsyrru a dosbarthu trydan (T a D) yn un o ofynion adrodd Llywodraeth Cymru ac maent wedi cael eu cynnwys yng Nghwmpas 3 yng nghyswllt yr adroddiad ar gyfer 2020/21.
  • Mae Canllaw Llywodraeth Cymru i’r Sector Cyhoeddus ar gyfer Adrodd ar Garbon Sero-Net yn ei gwneud yn ofynnol bod pob sefydliad sector cyhoeddus yng Nghymru yn adrodd ar allyriadau eu cadwyn gyflenwi. Mae cynnwys allyriadau’r gadwyn gyflenwi wedi golygu bod ein hôl troed carbon wedi cynyddu 521,164 tCO2e. Mae’r canllawiau hefyd yn ei gwneud yn ofynnol ein bod yn adrodd ar nifer o weithgareddau ychwanegol. O ganlyniad, mae ein hôl troed wedi cynyddu o 516,736 tCO2e o’i gymharu â 2019/20.

 

Allyriadau defnyddio tir

  • Mae’r amcangyfrifon ar gyfer ein hasedau tir wedi cael eu cyfrifo yn unol â methodoleg adrodd Llywodraeth Cymru ar gyfer y Sector Defnyddio Tir, Newid Defnydd Tir a Choedwigaeth.
  • Defnyddiodd ein tîm Systemau Gwybodaeth Ddaearyddol (GIS) ddata Mapiau’r Arolwg Ordnans i fesur amcangyfrifon ar gyfer arwynebedd y tir (mewn hectarau) fesul math o ddefnydd tir. Dyma’r mathau o ddefnydd tir: tir cnydau, tir coedwig, glaswelltir, tir arall, anheddiad a gwlyptir.
  • Ar hyn o bryd, nid yw’r math o bridd yn hysbys, felly dewiswyd pridd “mwynol” ar gyfer pob categori defnyddio tir.
  • Mae’r math blaenorol o ddefnyddio tir hefyd yn anhysbys ar gyfer pob categori, a thybiwyd bod pob un heb newid ers dros 20 mlynedd.