Yn ein hadroddiad blynyddol gallwch gael gwybod am ein cyflawniadau allweddol a'r cynnydd rydym yn ei wneud i weddnewid trafnidiaeth yng Nghymru.   

Mae ein gweledigaeth ar gyfer trafnidiaeth yn canolbwyntio ar bobl a chymunedau Cymru a'r gororau. 2019/20 gweld ein rôl a'n cylch gwaith yn esblygu i gynnwys mwy na'r rheilffyrdd mewn blwyddyn brysur arall ar gyfer TrC.   

Rydym yn cefnogi gweledigaeth Llywodraeth Cymru o wella'r ddarpariaeth ar gyfer teithio llesol a darparu rhwydwaith trafnidiaeth integredig ledled Cymru.    

  • Gwnaethom gydweithredu ag awdurdodau lleol Cymru a Llywodraeth Cymru i gyhoeddi 600,000 o Gardiau Teithio Rhatach ledled Cymru.   
  • Gwnaethom gymryd perchenogaeth o Llinellau Craidd y Cymoedd fel y gallwn ddechrau adeiladu Metro De Cymru.    
  • Dechreuom redeg gwasanaethau arlwyo ar y bwrdd a chroesawu 100 o gydweithwyr arlwyo i dîm TrC.   
  • Cyflawnwyd gwelliannau i'r gwasanaeth rheilffyrdd gan gynnwys cynnydd o 40% yn y gwasanaethau ar y Sul, llehai amser teithio rhwng Gogledd a De Cymru a chyflwyno gwasanaeth uniongyrchol rhwng Wrecsam a Lerpwl. 

Darllenwch fwy am y cynnydd rydyn ni'n ei wneud yn ein hadroddiad blynyddol 2019/20