Adroddiad dyletswydd 2019 - Bioamrywiaeth a chydnerthedd ecosystemau

Submitted by Content Publisher on

Cyflwyniad a chyd-destun

Mae Trafnidiaeth Cymru yn gwmni nid-er-elw sy'n canolbwyntio ar gwsmeriaid. Mae wedi ymroi i sbarduno nod Llywodraeth Cymru o drawsnewid y rhwydwaith trafnidiaeth. Byddwn yn darparu gwasanaeth effeithlon o ansawdd uchel, gan leihau ein heffaith ar yr amgylchedd ar yr un pryd. Mae ein Cynllun Datblygu Cynaliadwy wedi cael ei adeiladu ar y fframwaith a gyflwynir yn Neddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymrul 2015, a'n gweledigaeth ni yw gwneud yn siwr bod yr egwyddorion arweiniol hyn yn cael eu sefydlu yn ein gweithrediadau.

Yn sefydliad Cymru gyfan, rydyn ni'n defnyddio ein dealltwriaeth leol er budd ein cwsmeriaid. Mae Llywodraeth Cymru yn ymddiried yn TrC fel partner cyflenwi. Rydyn ni'n ymgysylltu a'r Adran Drafnidiaeth mewn cysylltiad a rhannau o wasanaeth rheilffyrdd Cymru a'r Gororau sy'n rhedeg yn Lloegr, ac a Network Rail ar draws Cymru gyfan a'r Gororau. Mae TrC hefyd yn gyfrifol am ddatblygu Metro Gogledd Cymru a Metro De Cymru. Bydd y ddwy yn system aml­ddull, gan integreiddio'r rhwydweithiau rheilffyrdd trwm ac ysgafn a gwasanaethau bysiau lleol. teithio llesol a dulliau eraill o deithio.

Oros y pum mlynedd nesaf, bydd TrC yn gwneud gwaith led led Cymru a'r Gororau i ddatblygu ac uwchraddio'r rhwydwaith. Rydyn ni'n cydnabod y gallai'r gwaith hwn gael effaith ar fioamrywiaeth leol. Mae ein Cynllun Gweithredu Bioamrywiaeth yn amlinellu ein strategaethau i ddiogelu ac adfer y cynefinoedd naturiol o amgylch ein hardaloedd gwasanaeth a sut rydyn ni'n bwriadu lliniaru unrhyw ddifrod a achosir gan ein gweithrediadau. 0 dan Ddyletswydd Gweinidog Cymru, mae'n rhaid i TrC adrodd ar ein cynnydd yn unol ag adran 6 Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016.

 

Camau Gweithredu Allweddol

Cyhoeddi'r Cynllun Gweithredu Bioamrywiaeth

Monitro llystyfiant a chynefinoedd

Oros £1 miliwn o gyllid wedi'i neilltuo i brosiectau bioamrywiaeth

Cam 1 o'r gwaith plan nu coed dros naw hectar yn Llan-wern

 

Astudiaeth Achos: Plannu Coed yn Llan-wern

Mae Llywodraeth Cymru wedi comisiynu TrC i gyflenwi Lein Gadw ar gyfer Digwyddiadau Mawr a fydd wedi'i lleoli gerllaw leiniau gwasanaeth Gwaith Dur Tata yng Nghasnewydd, Cymru. Mae'r prosiect yn rhan o becyn ehangach o fuddsoddiadau a gwelliannau trafnidiaeth gan TrC.

Caiff y prosiect ei rannu'n gamau penodol; Prosiect y Lein Gadw a Phrosiect Gorsafoedd.

Bydd y gwaith sy'n gysylltiedig a Phrosiect y Lein Gadw'n arwain at golli coetir llydanddail eilaidd (coetir gwlybl dros tua 2.9 hectar. Mae'r cynefin hwn yn gynefin a blaenoriaeth o dan Adran 7 Deddf yr Amgylchedd (Cymrul 2016. Mae'r coetir mewn cyflwr cymharol wael o ran y strwythur a'r amrywiaeth rhywogaethau o ganlyniad i ddiffyg rheolaeth a thresmasu gan rywogaethau estron a goresgynnol.

Rydyn ni wedi cytuno a Cyfoeth Naturiol Cymru ar fesurau lliniaru, sef plan nu coed newydd yn lle'r rhai sy'n cael eu tynnu, a hynny ar gymhareb o blannu tua 2 hectar am bob hectar sy'n cael ei dynnu. Mae Llywodraeth Cymru wedi prynu ardal o 20 hectar i ddarparu ar gyfer y mesurau lliniaru hyn i'r cynllun, fel y nodir yn Ffigur 1 isod.

Bydd y gwaith plannu'n dechrau yn gynnar yn 2020, cyn y gwaith adeiladu a fydd yn dechrau tua diwedd 2020. Mae hyn i gyd-fynd a'r tymhorau plannu. 

Bydd y cam cyntaf hwn, a fydd yn cynnwys plan nu 76,500 o blanhigion, yn cael ei gyflawni ar y tir lliniaru. 0 amgylch ymylon y safle bydd y gwaith plannu'n cynnwys cymysgedd amrywiol o amodau addas i'r safle, er mwyn denu anifeiliaid di-asgwrn-cefn. Bydd hyn yn amgylchynu cymysgedd craidd coetir brodorol ac yn cynnwys coed Derw, Cyll, Helyg ac Afalau Surion i enwi dim ond rhai. Fel rhan o'r prosiect, bydd tua 100 o flychau Pathewod yn cael eu cyflwyno i'r ardal mewn coetir cyfagos. 

Mae ardaloedd wedi cael eu neilltuo ar gyfer gwaith plan nu i gamau nesaf y prosiect. Mae cyllideb cynnal a chadw ac amnewid weithredol wedi cael ei neilltuo ar gyfer y prosiect hwn dros y 30 mlynedd nesaf.

 

Astudiaeth Achos: Rheoli Llystyfiant

Bydd prosiect trawsnewid Llinellau Craidd y Cymoedd yn gwella'r seilwaith trafnidiaeth presennol yn ne ddwyrain Cymru a'r cyffiniau. Mae'n cynnwys uwchraddio 16 o adrannau llwybrau, adnewyddu traciau, a gosod llinellau pwer trydanol uwchben a sylfeini ar hyd y rhan fwyaf o'r trac. Bydd angen i ni fynd i'r afael a llawer o heriau er mwyn cyflawni'r trawsnewidiad arloesol hwn.

 

Diogelwch

O ganlyniad i lystyfiant wrth ochr rheilffyrdd yn tresmasu, mae cryn amhariad wedi bod ar wasanaethau rheilffyrdd, o streiciau trenau i ganslo gwaith cynnal a chadw oherwydd diffyg mynediad i lwybrau cerdded diogel.

 

Cyfanrwydd Strwythurol 

Mae dirywiad posib yn sefydlogrwydd strwythurol pontydd, argloddiau, waliau cynnal a ffensys o ganlyniad i ddiffyg rheolaeth ar dwf llystyfiant. Mae presenoldeb llystyfiant ar lawer o strwythurau cynnal yn ein rhwystro rhag cynnal asesiadau hollbwysig.

 

Draenio 

Mae presenoldeb llystyfiant nas reolir yn rhwystro sianeli draenio agored a gall arwain at lif ar wely traciau neu, mewn rhai achosion, at dirlithriad.

 

Adlynu

Gall dail sydd wedi cwympo ar reilffyrdd gael effaith fawr ar adlyniad y llinell, sy'n gallu achosi 'llithrigrwydd' rhwng y cledrau a'r olwynion. 

 

Rhywogaethau Goresgynnol

Mae rheoli rhywogaethau estron goresgynnol yn elfen hanfodol o reoli ochr rheilffyrdd er mwyn lleihau'r effaith ar seilwaith, ar wasanaethau ac ar ein cymdogion wrth ochr rheilffyrdd.

 

Strategaeth

Ein nod yw gallu rhoi cyfrif !lawn am yr holl lystyfiant sy'n cael ei dynnu tel rhan o brosiect Trawsnewid Llinellau Craidd y Cymoedd. Rydyn ni'n cynnal arolygon trylwyr o gynefinoedd a llystyfiant ar hyd llinellau'r prosiect i ddeall yr heriau a'r cyfleoedd i leihau ein heffaith, a byddwn yn talu sylw dyledus i gadw, adfer a gwella bioamrywiaeth. Rydyn ni'n cyfathrebu a rheoleiddwyr gan gynnwys Cyfoeth Naturiol Cymru ac awdurdodau lleol i wneud yn siwr bod ein gweithgareddau'n cydymffurfio.

 

Adroddiad Gweithredu

Amcanion y cynllun adfer natur

 


Amcan 1:

Gofyniad

Ymgysylltu ac ategu cyfranogiad a dealltwriaeth i ymgorffori bioamrywiaeth wrth wneud penderfyniadau ar bob lefel.

Camau allweddol

Mae ein Cynllun Datblygu Cynaliadwy yn nodi sut rydyn ni'n cysoni ein gweithrediadau a Nodau Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol. Rydyn ni wedi ymrwymo i gynnal amgylchedd naturiol bioamrywiol i gefnogi Cymru fwy cydnerth. Er mwyn darparu rhagor o fanylion. rydyn ni wedi cyhoeddi ein Cynllun Gweithredu Bioamrywiaeth sy'n nodi'r strategaethau byddwn yn eu defnyddio i wneud yn siwr ein bod nid yn unig yn lleihau ein heffaith ar fioamrywiaeth nawr ac yn y dyfodol, ond yn ei gwella hefyd.

 

Amcan 2:

Gofyniad

Diogelu rhywogaethau a chynefinoedd o'r pwys mwyaf a gwella eu rheolaeth.

Camau allweddol

I reoli'r gwaith o glirio llystyfiant drwy gydol datblygiad ein prosiectau, rydyn ni'n cynnal asesiadau amgylcheddol cyn gwneud gwaith adeiladu ac yn defnyddio Cofrestr Risgiau Amgylcheddol i gadw golwg ar risgiau a chyfleoedd ein gweithgareddau. Mae gennym drwydded rhywogaethau a warchodir gan Cyfoeth Naturiol Cymru ar gyfer ein holl lwybrau. Mae'r drwydded hon yn mynnu ein bod yn dilyn dull gweithredu y cytunir arno wrth gyflawni gweithgareddau adeiladu ac yn sicrhau nad oes colledion net o fioamrywiaeth.

Rydyn ni wedi ymrwymo i ddefnyddio'r metrigau mwyaf cadarn i fonitro a rhoi cyfrif am weithgareddau rheoli cynefinoedd a llystyfiant. Rydyn ni hefyd yn gweithio gyda National Rail yn eu hasesiadau nhw o weddill y rheilffyrdd yng Nghymru i wneud yn siwr bod unrhyw waith clirio llystyfiant yn gyfyngedig ac yn cael ei wneud yn gyfrifol.

Ar hyn o bryd, rydyn ni wedi asesu addasrwydd cynefinoedd ar gyfer y prif rywogaethau a warchodir ar gyfer rhwydwaith craidd y cymoedd yn ei gyfanrwydd. Mae ein tim o ecolegwyr yn gyfrifol am ddilysu coetiroedd, cynefinoedd a lleoliadau rhywogaeth a warchodir hysbys, a'u harchwilio ar lawr gwlad. Maen nhw'n defnyddio trapiau camera i fonitro cynefinoedd moch daear a chanfodyddion ystlumod i'n helpu i ddeall y prif lwybrau twrio a chymudo, a'r math o oleuadau y mae angen i ni eu defnyddio er mwyn peidio ag amharu ar batrymau naturiol.

 

Amcan 3:

Gofyniad

Cynyddu cydnerthedd ein hamgylchedd naturiol drwy adfer cynefinoedd dirywiedig a chreu cynefinoedd.

Camau allweddol

Mae TrC wedi ymrwymo i blannu coed newydd yn lle'r holl rai sy'n cael eu tynnu fel rhan o'r gwaith adeiladu neu gynnal a chadw. Bydd yr holl waith plannu'n digwydd yng Nghymru. Rydyn ni wedi caffael 20 hectar o dir yn Llan-wern i'w ddefnyddio i blannu coed. Bydd y gwaith hwn yn dechrau ym mis lonawr 2020. Yn ystod cam cyntaf y prosiect, byddwn yn cyflwyno 76,500 o blanhigion newydd i 9 hectar o dir, a 100 o flychau Pathewod. Ar 61 gorffen, bydd y prosiect yn cysylltu tri choetir presennol yn Llan-wern i greu ardal gynefin fwy o faint i rywogaethau brodorol. ac i wella bioamrywiaeth dros amser wrth i'r coetiroedd sy'n cael eu plannu ddatblygu.

 

Amcan 4:

Gofyniad

Mynd i'r afael a'r prif bwysau ar rywogaethau a chynefinoedd.

Camau allweddol

Rydyn ni'n trin rhywogaethau goresgynnol yn barhaus ar hyd Llinellau Craidd y Cymoedd, gan gynnwys trin clymog Japan, cotoneaster a Jae y Neidiwr. Ymysg ein technegau mae tynnu'n ffisegol, trin ac ailddefnyddio / gwaredu deunydd planhigion a phriddoedd, a thaenellu neu chwistrellu a chwynladdwr. Bydd yr holl staff ac isgontractwyr gwaith tir yn cael eu hyfforddi mewn adnabod a rheoli.

Mae TrC yn mynd i'r afael a'r newid yn yr hinsawdd ac yn cefnogi nod Cymru o ddatgarboneiddio ein rhwydwaith. Mae ein dull wedi'i nodi yn ein Strategaeth Effaith Carbon lsel. Fel rhan o hyn, byddwn yn gwella llygredd aer lleol drwy drydaneiddio'r rhwydwaith rheilffyrdd a chael gwared ar halogiad ym mhob un o orsafoedd Llinellau Craidd y Cymoedd.

Rydyn ni'n cyflwyno system casglu dwr glaw yn ein depo yn Ffynnon Taf ac arwynebau hydraidd, a fydd yn lleihau lefelau llygredd y dwr ffo i'r amgylchedd. Ni fydd ein gwaith yn achosi difrod i unrhyw safle Natura 2000 yn yr ardaloedd yng nghwmpas ein prosiect.

Rydyn ni wedi ymrwymo £330,000 fel rhan o gronfa seilwaith gwyrdd i gefnogi mentrau dros y pum mlynedd nesaf drwy ein Cynllun Gwella Gorsafoedd. Mae hyn yn cynnwys toeon gwyrdd ar lochesau beiciau mewn 20 o orsafoedd, waliau gwyrdd mewn chwe gorsaf o fewn ardaloedd trefol, a ffyrdd gwyrdd.

 

Amcan 5:

Gofyniad

Gwella ein tystiolaeth, ein dealltwriaeth a'n gwaith monitro.

Camau allweddol

Fel rhan o'n prosesau mapio a monitro bioamrywiaeth, rydyn ni'n cael deialog rheolaidd a Chanolfan Cofnodi Bioamrywiaeth De-ddwyrain Cymru i gael y cofnodion diweddaraf o rywogaethau a warchodir, er cymorth i'n harolygon ni o'r seilwaith. Rydyn ni hefyd yn cael trafodaethau rheolaidd a Cyfoeth Naturiol Cymru, sy'n bartner allweddol yn ein hymdrech i ddiogelu cynefinoedd pwysig, i leihau'r colledion bioamrywiaeth ac i reoli rhywogaethau estron goresgynnol.

Mae gennym dfm o ecolegwyr a thyfwyr coed sy'n mapio llystyfiant a chynefinoedd ar hyd Llinell, a thyfwr coed o Network Rail sy'n rhoi cyngor ar gyfer llinellau eraill yng Nghymru. Rydyn ni'n gweithio'n agos gydag ymgyngoriaethau amgylcheddol sydd wedi cynnal llawer o arolygon ecolegol ar hyd llinellau rheilffordd Cymru ar ein rhan. Mae gan ein trm berthynas waith dda a Cyfoeth Naturiol Cymru sy'n gwneud yn siwr ein bod yn gwneud yr ymdrech orau bosib i ddiogelu a gwella bioamrywiaeth yng Nghymru.

 

Amcan 6:

Gofyniad

Sefydlu fframwaith llywodraethu a chymorth ar gyfer cyflawni.

Camau allweddol

Mae ein Huwch Dim Arwain a'n Bwrdd wedi cymeradwyo ein Cynllun Datblygu Cynaliadwy a'n Cynllun Gweithredu Bioamrywiaeth.

Fel rhan o'n strategaeth, byddwn yn ffurfio partneriaethau a grwpiau amgylcheddol, elusennau ac academyddion i annog syniadau newydd ac arloesol gan ddefnyddio ein Cronfa Menter Bioamrywiaeth i helpu gyda'r gwaith cadwraeth hwn. Drwy fanteisio ar sgiliau o bob rhan o'r diwydiant. rydyn ni'n cyfrannu at gynaliadwyedd tymor hir Cymru, ei hamgylchedd a'n cymunedau. Rydyn ni wedi ymrwymo £17,000 i'r gronfa, a fydd yn cael ei ddefnyddio gan y grwp hwn i roi mentrau wella bioam wiaeth ar waith ar draws rhw dwaith ac eiddo orsafoedd. Gallai hyn gynnwys cyflwyno planhigion sy'n denu gwenyn, cychod gwenyn, a bocsys ystlumod ac adar mewn ardaloedd gorsafoedd.

Mae gennym gynllun mabwysiadu gorsafoedd, lie gall pobl leol fabwysiadu gorsaf heb griw er mwyn ei chadw'n Ian ac yn ddymunol. Fel rhan o hyn, caiff mabwysiadwyr gorsafoedd eu hannog i gyflwyno arddangosfeydd blodau neu i gynnal a chadw gerddi yn y gorsafoedd. Ar hyn o bryd mae 159 o orsafoedd wedi cael eu mabwysiadu led led Cymru, ac mae 53 ar gael i'w mabwysiadu.