Ar lan y dŵr yng Nghaerdydd ceir tai bwyta heb eu hail, atyniadau ac adloniant o safon fyd-eang.
Reid fer ar y trên o ganol dinas Caerdydd, gallwch fwynhau sioe yng Nghanolfan y Mileniwm, mynd am reid ar gwch neu ymweld ag adeilad Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
Trenau i Fae Caerdydd:
- Mae trenau rhwng Bae Caerdydd a Gorsaf Heol y Frenhines Caerdyd yn gadael bob 12 munud
- Mae’r trên cyntaf o Heol y Frenhines Caerdydd i Fae Caerdydd am 0636
- Mae’r trên olaf o Fae Caerdydd i Heol y Frenhines Caerdydd am 2348
- Mae trenau’n galw yn Heol y Frenhines Caerdydd yn aml o Gymoedd De Cymru, er enghraifft o orsafoedd Treherbert, Aberdâr, Merthyr Tudful, Coryton, Rhymni a Dinas Caerdydd.
- Mae’r trenau o Gaerdydd Canolog a Gorsaf Heol y Frenhines Caerdydd yn rhedeg hyd at 12 gwaith yr awr y rhan fwyaf o’r dydd.
Gwerth eu gweld
- Canolfan Mileniwm Cymru - cartref cenedlaethol y celfyddydau perfformio - yn cyflwyno sioeau cerdd y West End, opera, bale, syrcas a dawns gyfoes, ynghyd â rhaglen enfawr o berfformiadau am ddim
- Y Senedd - Y Senedd yw prif adeilad Cynulliad Cenedlaethol Cymru a dyma galon datganoli a democratiaeth yng Nghymru. Mae ar agor i aelodau’r cyhoedd i wylio’r trafodaethau o’r oriel gyhoeddus, cael paned yn y caffi neu fwynhau un o’r arddangosfeydd, perfformwyr neu weithgareddau niferus sy’n cael eu cynnal yn aml drwy'r flwyddyn.
- Techniquest - Techniquest yw'r lle i blant o bob oed sydd â diddordeb mewn gwyddoniaeth. Y ganolfan gwyddoniaeth sydd wedi bodoli hiraf yn y DU, ei chenhadaeth yw "gwreiddio gwyddoniaeth yn niwylliant Cymru drwy ymwneud rhyngweithiol".
Penwythnos ym Mae Caerdydd
Yr Ŵyl Fwyd - bob haf, mae Roald Dahl Plass yng nghanol Bae Caerdydd yn croesawu stondinau bwyd, bariau a gwerthwyr bwyd stryd. Peidiwch â methu’r dathliad godidog hwn o ddanteithion coginio.
Morglawdd - Mae Morglawdd Bae Caerdydd yn cysylltu’r Bae â thref gyfagos Penarth. Gallwch gerdded ar hyd y palmant gwastad a mwynhau’r parciau a’r lociau ar hyd y ffordd neu ddal tacsi dŵr ar draws. Fe ddysgwch am hanes Scott o’r Antarctig drwy’r arddangosfa am y Terra Nova anlwcus a hwyliodd o harbwr Caerdydd yn 1910.
Yr Eglwys Norwyeg - Bellach yn ganolfan i’r celfyddydau ac yn siop goffi, arferai’r eglwys hon weithredu fel man cyfarfod i forwyr o Norwy. Dyma hefyd y man lle cafodd yr awdur llyfrau plant enwocaf erioed, Roald Dahl, ei fedyddio.
-
Oeddech chi’n gwybod?Teithiwch yn SaffachGallwch gynllunio ymlaen llaw a phenderfynu pryd i deithio gan ddefnyddio ein Gwiriwr Capasiti.Gwirio capasiti
-
Cas-gwent Dewch i ddarganfod Visiting Chepstow
-
Caergybi Dewch i ddarganfod Visiting Holyhead
-
Ymweld â Chaerfyrddin Dewch i ddarganfod Visit Carmarthen
-