A person on a bicycle at the top of a hillside

Mae Church Stretton yn dref farchnad hanesyddol fach yng nghanol Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Bryniau Swydd Amwythig. Mae’n gorwedd o dan wastadedd ucheldirol llawn grug Cefn Hirfynydd, mewn dyffryn hyfryd. Mae gan y dref ddwy Warchodfa Natur Leol yn union gerllaw canol y dref, sy’n cynnwys tua 200 erw, un ar lawr y dyffryn gyda digonedd o rywogaethau gwlyptir a’r llall yn ardal goediog, a ddisgrifiwyd unwaith fel “y lle mwyaf heddychlon ym Mhrydain”.

Mae hanes hir Church Stretton yn amlwg yn yr adeiladau niferus sy’n dyddio’n ôl i oes y Tuduriaid, gyda phlaciau esboniadol i’w darllen wrth i chi gerdded o gwmpas. Cafodd y prif strydoedd siopa eu datblygu yn oes Edward, ac nid oes siopau cadwyn yn Church Stretton, dim ond llawer o fusnesau annibynnol, lleol sy’n helpu i greu ymweliad hudolus â’n tref hyfryd.

Mae Church Stretton ar brif reilffordd Trafnidiaeth Cymru o Amwythig i Lwydlo. Mae ganddi hefyd gysylltiad bws rheolaidd â’r ddwy dref, yn ogystal â gwasanaeth Bws Gwennol o gwmpas y bryniau ar benwythnosau’r haf.

 

Aerial view of Church Stretton's landscape

 

5 peth i’w weld a’i wneud

  • Mwynhewch yr amrywiaeth o siopau annibynnol, arbenigol cyn ymlacio yn un o’r caffis a’r tafarndai niferus, neu difethwch eich hun â byrbryd blasus o’r siop delicatessen artisan.
  • I fwynhau’r golygfeydd panoramig ar draws Bryniau Swydd Amwythig, mae llawer o lwybrau cerdded gwych i fyny at Gefn Hirfynydd, neu i’r fryngaer ar ben Caer Caradog ar ochr arall y dyffryn.
  • Ar benwythnosau’r haf, gallwch fynd ar daith Bws Gwennol ar draws i Warchodfa Natur Carneddau Teon, gan aros am ginio efallai yn The Bridges ar yr ochr arall i Gefn Hirfynydd.
  • Ewch am dro o amgylch tawelwch Rectory Wood a Gwarchodfa Natur Leol Field gerllaw canol y dref, gyda’i dyluniad gwreiddiol wedi’i ddylanwadu gan “Capability” Brown, a gweld a allwch chi sylwi ar rai o’i nodweddion hanesyddol, fel y Tŷ Rhew. Neu, gallwch geisio gweld faint o blanhigion, pryfed ac adar gwlyptir y gallwch eu gweld yng Ngwarchodfa Natur Coppice Leasowes i’r gogledd o’r dref, a Llwybr Pren a Dôl Cudwell i’r de o’r dref.
  • Ewch am dro i Ddyffryn Carding Mill i fwynhau ei nant hyfryd a chael cyfle i ddod ar draws rhai o ferlod Cefn Hirfynydd, cyn aros am de a chacen yng nghaffi’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol.

 

Aerial view of Church Stretton's landscape

 

Penwythnos yn Church Stretton

Mae Church Stretton, yn ei leoliad hyfryd, yn cynnig dihangfa wledig, ddelfrydol am ychydig ddyddiau gydag amrywiaeth o ddewisiadau, yn dibynnu ar ba mor weithgar rydych am fod.  Gallwch fwynhau archwilio’r amrywiaeth anarferol o siopau a phori o amgylch y Ganolfan Hen Greiriau, cyn rhoi cynnig ar y gwahanol siopau te a choffi. Mae gennym amrywiaeth o fwytai ar gyfer pob chwaeth, o dafarndai, caffis a bwytai. A dim ond hanner milltir i’r gogledd ac i’r de o’r dref y mae pentrefi All Stretton a Little Stretton, y naill a’r llall yn rhoi mynediad i ddyffrynnoedd hardd Cefn Hirffordd a llwybrau i fyny’r bryniau, ac mae ganddynt dafarndai â bwyd gwych.

Gellir cyfuno'r daith o archwilio’r dref, gyda’i nifer o adeiladau hanesyddol a’i heglwys Normanaidd, gyda theithiau cerdded ysgafn o gwmpas un o'r Gwarchodfeydd Natur Lleol sydd gerllaw. Mae Dyffryn Carding Mill, taith gerdded fer o ganol y dref, yn boblogaidd gyda phlant ac oedolion fel ei gilydd, gyda llwybrau cerdded i’r rhaeadr leol, neu i fyny at Gefn Hirffordd. Gall rhieni ymlacio ym Mhafiliwn yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, tra bo’r plant yn cael hwyl yn gwneud argaeau neu’n dal penbyliaid yn y nant.

 

Teithiau cerdded lleol

Dyma ddolen i gyfres o wyth taith gerdded fer yn Church Stretton a’r cyffiniau, y gallwch eu llwytho i lawr a’u hargraffu cyn i chi gyrraedd.

 

Fideo i godi awydd arnoch

Gwyliwch y fideo byr yma i weld pam mae Church Stretton a’r bryniau cyfagos yn denu cerddwyr, beicwyr a rhedwyr.

 

Gwybodaeth i ymwelwyr

Ewch i wefan Church Stretton i gael rhagor o wybodaeth cyn ac yn ystod eich arhosiad.

Galwch draw i’r Ganolfan Gwybodaeth i Ymwelwyr sydd yn y Llyfrgell, ac sy’n cynnwys pob math o wybodaeth ddefnyddiol i ymwelwyr yn yr ardal. Ewch i wefan Ymweld â Church Stretton i weld yr oriau agor.

 

Ewch i wefan Visit Shropshire i gael rhagor o wybodaeth.

Visit Shropshire logo