Mae calon dinas enedigol The Beatles yn curo â diwylliant a threftadaeth. Mae mwy o amgueddfeydd ac orielau yn Lerpwl nag yn unrhyw le arall yn y DU ar wahân i Lundain ac mae’n ddinas ddelfrydol ar gyfer gwyliau. Mae’n gartref i nifer o grwpiau cerddorol, dau glwb pêl-droed o uwchgynghrair Lloegr a Chwrs Rasio Aintree.
Ewch ar y trên i Lerpwl Lime Street ac fe ddewch chi o hyd i Liverpool ONE ryw 15 munud i ffwrdd ar droed. Wrth ymyl glannau eiconig y ddinas, fe ddewch chi o hyd i siopau sy’n addas i bob chwaeth a chyllideb. Ar gyfer siopau annibynnol, cerddwch 7 munud o Lime Street i Bold Street ac fe ddewch chi o hyd i un o’r ‘strydoedd siopa gorau yn y wlad’ yn ôl Lonely Planet.
Ymwelwch â marchnad Nadolig Lerpwl
Mae Marchnad Nadolig Lerpwl wrth ymyl gorsaf reilffordd Lerpwl Lime Street. Mae’r farchnad ar agor tan 24 Rhagfyr yn St George’s Plateau. Fe ddewch chi o hyd i anrhegion Nadolig gwych ar gyfer ffrindiau a theulu yn ogystal â phob math o fwyd Nadoligaidd blasus. Gallwch hefyd fynd i gael diod yn y Bar Bafaraidd newydd.
Gwerth eu gweld yn Lerpwl
The Beatles Story a The Cavern
Dysgwch am hanes The Beatles yn y dathliad anhygoel hwn gydag arddangosfeydd, eitemau cofiadwy, canllawiau sain, ffotograffau a mwy yn yr atyniad yma sydd wedi ennill gwobrau. Wedyn beth am fynd draw i The Cavern, sydd wedi cael ei alw’n ‘y clwb enwocaf yn y byd’. Mae wedi bod yn ganolbwynt i gerddoriaeth yn Lerpwl ers dros 60 o flynyddoedd.
Cartref i waith gan David Hockney a Lucian Freud yn ogystal â champweithiau o’r Dadeni a chasgliadau o gelf Cyn-Raffaëlaidd. Mae’r Oriel yma wedi bod yn un o’r goreuon yn Ewrop ers dros 130 o flynyddoedd.
Cyrchfan ar gyfer unrhyw un sy’n mwynhau pêl-droed. Mae’r ddau gawr yma wedi croesi’r ddinas i chwarae ei gilydd yn fwy na neb arall ar y lefel uchaf ym mhêl-droed Lloegr.
Treuliwch benwythnos yn Lerpwl
Cadeirlan Lerpwl ydy’r gadeirlan fwyaf yn y DU. Dechreuwyd adeiladu Cadeirlan Lerpwl yn 1904 ac ni chafodd y gwaith ei orffen tan 1978, 74 o flynyddoedd yn ddiweddarach.
Wedi’i lleoli yn noc Royal Albert gallwch fwynhau arddangosfeydd modern a chyfoes Prydeinig a rhyngwladol yn yr oriel yma. Agorwyd Tate Liverpool yn 1988 ac ar hyn o bryd mae’n arddangos dros 70,000 darn o gelf.
Agorwyd yr atyniad yma yn 2017 ac mae’n defnyddio dillad, offerynnau ac eitemau cofiadwy perfformwyr i adrodd hanes cerddoriaeth dros y blynyddoedd. Mae hyd yn oed cyfle i chi roi cynnig ar chwarae gitâr neu daro drymiau.
-
Oeddech chi’n gwybod?Teithiwch yn SaffachGallwch gynllunio ymlaen llaw a phenderfynu pryd i deithio gan ddefnyddio ein Gwiriwr Capasiti.Gwirio capasiti
-
Cas-gwent Dewch i ddarganfod Visiting Chepstow
-
Caergybi Dewch i ddarganfod Visiting Holyhead
-
Ymweld â Chaerfyrddin Dewch i ddarganfod Visit Carmarthen
-