A view of the Ludlow landscape on a cloudy day

"Llwydlo, mae'n debyg, yw'r dref harddaf yn Lloegr gyda thai Sioraidd ar allt uwchlaw afon Teme" - John Betjeman, 1943

Mae Llwydlo, sydd wedi’i lleoli ar gyrion Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Bryniau Swydd Amwythig, yn Dref Farchnad sy’n enwog am ei diwylliant a’i bwyd. Fel cymuned fywiog, mae gan Lwydlo nifer o ddigwyddiadau a gwyliau’n cael eu cynnal yma drwy gydol y flwyddyn, gan gynnwys ein Gŵyl Fwyd enwog, Ffair Fai Flynyddol a Gŵyl Ymylol Llwydlo i enwi dim ond rhai.

Mae naws Canoloesol, Tuduraidd a Sioraidd yn perthyn i’r dref farchnad fach hon, sydd ag ychydig o dan 500 o adeiladau rhestredig. Ar hyd y strydoedd coblog mae amrywiaeth o siopau, bwytai blasus, ffefrynnau’r stryd fawr, a marchnad awyr agored wobredig.

 

Ludlow centre on a sunny day

 

Pethau y mae'n rhaid eu gweld

  • Castell Llwydlo - Cyfle i gerdded o amgylch tir y castell ac i archwilio'r ardaloedd lle’r oedd brenhinoedd, breninesau, tywysogesau, barnwyr ac uchelwyr yn arfer byw - cipolwg ar fywyd y gymdeithas ganoloesol a Thuduraidd.
  • Marchnad Llwydlo - Bwyd a diod lleol, crefftau crefftwyr, ategolion i'r cartref, eitemau fintej a llestri gwydr. Cyfle i fwynhau marchnadoedd bob dydd Llun, dydd Mercher, dydd Gwener a dydd Sadwrn, yn ogystal â marchnadoedd arbennig ar ddyddiau Iau a Sul penodol drwy gydol y flwyddyn.
  • Bragdy Llwydlo - Mewn hen sied reilffordd Fictoraidd wedi’i hadfer, mae’r bragdy wedi’i leoli 50m yn unig o orsaf Llwydlo. Gall teithwyr rheilffordd gael gostyngiad o 20% ar Brewery Tours, darganfyddwch fwy trwy ludlowbrewery.co.uk/byrail.
  • Ystafelloedd Ymgynnull Llwydlo - Lleoliad celfyddydol a chymunedol gyda rhaglen gyffrous o ddigwyddiadau - gan gynnwys ffilmiau, theatrau, cerddoriaeth, sgyrsiau a chomedi.
  • Amgueddfa Llwydlo yn y Buttercross - Gadewch i dreftadaeth hanesyddol Llwydlo ddod yn fyw o flaen eich llygaid. Dewch i fwynhau detholiad gwych o arddangosfeydd a fydd yn eich tywys chi drwy hanes cyfoethog Llwydlo.
  • Siop fferm Llwydlo - Amgylchedd siopa unigryw lle daw ffermio, brwdfrydedd dros fwyd arbennig, a manwerthu at ei gilydd i greu profiad heb ei ail.

 

Penwythnos yn Llwydlo

Siopa - Mae Llwydlo yn falch o’i detholiad unigryw a gwych o siopau annibynnol. Mae casgliad o siopau hen bethau, siopau bwtîc hyfryd, siopau nwyddau deniadol i’r cartref, yn ogystal â siopau bwyd diguro ar gael. Mae’n anodd peidio â chael eich denu gan siopau annibynnol, hudolus Llwydlo.

Ymestyn eich coesau - Mwynhewch olygfeydd hyfryd o Lwydlo gydag amrywiaeth o deithiau cerdded. Boed yn ymweliad â Whitcliffe ar hyd llwybr Breadwalk, neu’n daith gerdded drwy erddi Castell Llwydlo, Millenium Green neu ar hyd llwybrau Magnalonga (Taith gerdded bwyd a diod o tua 8 milltir drwy gefn gwlad Llwydlo), mae gan Lwydlo deithiau gerdded ar gyfer pobl o bob gallu. Cerdded o gwmpas Llwydlo a’r cyffiniau

Gweld beth sydd gan Lwydlo i'w gynnig - mae Llwydlo yn enwog am gael calendr sy’n llawn dop o ddigwyddiadau. Dewch i weld beth sydd ymlaen ac i ymuno â ni ar gyfer ein digwyddiadau bwyd poblogaidd, cyngherddau yn y Castell, Rasys Llwydlo neu ddigwyddiadau celfyddydol a diwylliannol.

Blas ar Lwydlo - Ar ôl cael ei ddisgrifio fel y lle delfrydol i bobl sy’n caru bwyd, ni fuasai unrhyw ymweliad â Llwydlo yn gyflawn heb i chi fynd ar daith ddanteithiol drwy’r strydoedd canoloesol. Mwynhewch ddanteithion o’r Marchnadoedd Bwyd a Chrefft a Chynnyrch Lleol ar wahanol ddyddiau Iau a Sul, boed yn ddanteithion melys gan siopau bara lleol, neu’n brydau lleol blasus mewn bwytai a chaffis unigryw sydd i’w cael o gwmpas pob cornel.

 

Ludlow centre on a sunny day

 

Dolenni

Ystafelloedd Ymgynnull

Ymweld â Llwydlo

Llwydlo

Gŵyl Fwyd Llwydlo

Gŵyl Ymylol Llwydlo

Canllaw Llwydlo

Cyngor Tref Llwydlo

 

Ewch i wefan Visit Shropshire i gael rhagor o wybodaeth.

Visit Shropshire logo