Portmeirion

Wedi’i gynllunio a’i adeiladu gan Syr Clough Williams-Ellis rhwng 1925 a 1976, mae Portmeirion wedi’i leoli yng Ngwynedd - ond mae ei bensaernïaeth hyfryd yn debycach i’r hyn y byddech chi’n ei weld ar Rifiera’r Eidal. Mae’n cael ei ddisgrifio’n aml fel lleoliad hardd a rhamantus, ac mae’n lleoliad perffaith ar gyfer diwrnod allan neu benwythnos i ffwrdd - boed hynny fel cwpl, neu fel teulu.

 

Teithio i Bortmeirion gyda Trafnidiaeth Cymru

Mae’n hawdd cyrraedd Portmeirion ar y trên. Mae’n daith o filltir ar droed o orsaf drenau Minffordd ar reilffordd y Cambrian (Aberystwyth/Pwhelli - Amwythig). 

Pa ffordd well o deithio i Bortmeirion a mwynhau’r golygfeydd bendigedig? Yn hytrach na gorfod chwilio am le parcio, treuliwch eich amser yn y pentref yn ymlacio ac yn mwynhau’r golygfeydd godidog.

Edrychwch ar amseroedd trenau ac archebu eich tocynnau.

 

Pethau i'w gwneud ym Mhortmeirion

Ydych chi’n chwilio am ysbrydoliaeth? Rydyn ni wedi cynnwys rhai o’n hoff atyniadau i dwristiaid i’ch helpu chi.

  • Y Sgwâr - Roedd pensaer Portmeirion, Syr Clough Williams-Ellis, yn amgylcheddwr brwd a oedd eisiau creu pentref hyfryd heb ddifetha yr amgylchedd o’i gwmpas. Mae ei arddull baróc yn amlwg iawn yn y Sgwâr. Ymhlith yr adeiladau, tai, a gerddi Eidalaidd, dyma leoliad gwych i fynd ar antur a thynnu lluniau, neu ymlacio a mwynhau’r amgylchedd hyfryd.

  • Ffair Fwyd a Chrefftau Portmeirion - Dyma ddigwyddiad sy’n dathlu rhai o gynnyrch, bwyd a diod gorau Cymru. Mwynhewch gerddoriaeth fyw, arddangosfeydd coginio, gweithdai, a Groto Nadolig hudolus – yr atyniad perffaith os ydych chi yn y ffair gyda phlant.

  • Y Gwyllt - Gwisgwch eich esgidiau cerdded a mynd allan i'r awyr agored. Mae gan y Gwyllt 70 acer o goetir, sy’n gartref i rai o goed mwyaf Prydain, gerddi cudd, blodau prin, a llawer mwy. Dyma'r lle perffaith i fwynhau rhywfaint o harddwch naturiol Cymru.

  • Rheilffyrdd Ffestiniog ac Eryri - Beth am deithio y trên stêm i ganol prydferthwch Eryri? Neu, beth am wneud y daith fer ond dymunol i Borthmadog, a mynd ymlaen i Gaernarfon ar hyd Rheilffordd Eryri?

Rhagor o wybodaeth am yr hyn y gallwch ei weld a’i wneud ym Mhortmeirion a’r cyffiniau.

 

Treulio penwythnos ym Mhortmeirion

  • Gwesty Portmeirion - Agorwyd y gwesty trawiadol hwn yn 1926, ac mae golygfeydd hyfryd o Aber Afon Dwyryd i'w gweld oddi yno. Y tu mewn i'r gwesty, mae yna fwyty gosgeiddig, bar, a theras, yn ogystal â llawer o lolfeydd braf wedi’u haddurno yn arddull Williams-Ellis.

  • Castell Deudraeth - Wedi’i leoli y tu allan i’r pentref, roedd y plasty hwn yn arfer bod yn gartref i AS yn ystod blynyddoedd cynnar yr Oes Fictoria, ond mae bellach wedi cael ei adnewyddu’n westy moethus. Ewch am dro o gwmpas y gerddi, a mwynhau'r gwaith pensaernïol anhygoel. Os ydych chi wedi gwylio’r gyfres deledu 'The Prisoner' , mae’n debygol y byddwch chi’n gyfarwydd â rhai o'r lleoliadau o gwmpas y pentref, gan mai dyma lle cafodd y gyfres ei ffilmio.

Rhagor o wybodaeth am y gwahanol fathau o lety sydd ar gael ym Mhortmeirion.

 

Wedi’ch ysbrydoli?

Gobeithio eich bod chi wedi mwynhau darllen am rai o’r pethau sydd gan Bortmeirion i’w cynnig, ac y byddwch chi’n mwynhau ymweld â’r pentref ar y trên.