Ymddiheuriadau, nid yw ein ffurflenni ar-lein ar gael ar hyn o bryd.

Os am anfon cwyn, ymholiad neu adborth cadarnhaol, anfonwch e-bost atom: customer.relations@tfwrail.wales.

Mae angen cynnwys y wybodaeth ganlynol i’n helpu ni ymateb cyn gynted â phosibl:

  • Dyddiad eich taith.
  • Yr amser roedd eich trên yn fod i gychwyn.
  • Yr orsaf roeddech chi’n teithio ohoni a'r orsaf roeddech chi’n teithio iddi
  • Os oedd eich trên yn hwyr, pa mor hwyr oeddech chi’n cyrraedd yr orsaf roeddech chi’n teithio iddi?
  • Rhowch gopi o'r tocynnau trên ar gyfer y daith. Os nad yw'r tocynnau gennych chi mwyach, gallwn dderbyn cadarnhad o’ch archeb.
  • Dywedwch wrthym sut hoffech i ni dalu unrhyw iawndal sy’n ddyledus i chi. Gallwn gynnig iawndal ar ffurf talebau teithio National Rail, trosglwyddiad banc (BACS). Os byddwn yn cynnig iawndal fel arwydd o ewyllys da, byddwn yn gwneud hynny ar ffurf talebau teithio National Rail fel arfer.