Os gwnaethoch brynu tocyn tymor ac nad ydych am ei ddefnyddio mwyach, mae’n rhaid i chi wneud cais am ad-daliad cyn gynted â phosibl. Mae hyn oherwydd bod unrhyw ad-daliad yn cael ei gyfrif o'r dyddiad y mae'r gwerthwr yn derbyn y tocyn tymor.
Sut mae ad-daliad tocyn tymor yn cael ei gyfrif?
Ni chyfrifir ad-daliadau tocynnau tymor yn seiliedig ar y nifer pro-rata o ddyddiau y cawsant eu defnyddio. Yn hytrach, bydd unrhyw ad-daliad yn cael ei gyfrif yn seiliedig ar y mathau o docynnau y byddai angen i chi fod wedi’u prynu i wneud y teithiau hynny. Mae'r tabl isod yn rhoi enghreifftiau o sut mae ad-daliadau tocynnau tymor yn cael eu cyfrif.
Ffigurau enghreifftiol ar gyfer tocyn tymor rhwng Caer a Manceinion | Tocyn Tymor Wythnosol | Tocyn Tymor Misol | Tocyn Tymor Blynyddol |
Cost y tocyn | £71.40 | £274.20 | £2,856.00 |
Yn ddilys am | 7 diwrnod | 1 mis | 12 mis |
Nifer y diwrnodau a ddefnyddiwyd | 3 diwrnod | 16 diwrnod | 5 mis a 4 diwrnod |
Tocynnau sydd eu hangen ar gyfer diwrnodau a ddefnyddiwyd | 3 tocyn dydd dwyfford | 2 docyn wythnosol a 2 docyn dydd dwy ffordd | Gellir cael cyfraddau ar gyfer cyfnodau o fis a throsodd drwy ddefnyddio’r tabl Ffactorau Cyfnod yn seiliedig ar bris Tocyn Tymor 7 Diwrnod. |
Cost y diwrnodau a ddefnyddiwyd | £53.10 | £178.00 | £1,408.10 |
Tynnu’r ffi weinyddol | £5 | £5 | £5 |
Cyfanswm yr Ad-daliad sy'n ddyledus | £8.30 | £86.20 | £1,437.90 |