Rydyn ni’n gwybod ei bod hi’n bwysig i chi wybod eich hawliau wrth i deithio ar drên a beth i’w wneud os bydd pethau’n mynd o chwith.
Felly, rydyn ni wedi llunio crynodeb cyflym i chi i egluro eich hawliau.
Yn gyffredinol, gallwch hawlio naill ai; IAWNDAL neu AD-DALIAD. Mae hyn yn seiliedig ar Amodau Teithio National Rail.
Yn gryno, os byddwch chi’n teithio ond yn cael eich dal yn ôl am 15 munud neu fwy o ben eich taith, gallwch hawlio iawndal gan y cwmni gweithredu trenau lle mae’r oedi cyntaf wedi digwydd, ni waeth beth yw’r rheswm.
Er enghraifft, os ydych chi’n teithio o Lundain i Aberdaugleddau a bod y trên yn hwyr yn gadael Paddingon, sy’n golygu eich bod wedi colli cysylltiad, byddech chi’n hawlio oddi wrth GWR.
Os oedd GWR wedi cyrraedd mewn pryd ond bod eich cysylltiad TrC yn hwyr, yna byddech yn hawlio oddi wrth TrC yma.
Os bydd eich trên yn cael ei ganslo ac nad ydych chi’n defnyddio’r tocyn, gallwch hawlio ad-daliad gan werthwr gwreiddiol y tocyn - gallai hyn fod yn TrC neu’n werthwr ar-lein fel The Trainline.
Y peth pwysicaf i’w gofio yw dal gafael ar eich tocyn i helpu gydag unrhyw hawliadau neu ad-daliadau.
Cyfnodau o darfu
Yn ystod cyfnodau o darfu fel llifogydd ar y rheilffordd, rydyn ni’n gwybod y gall eich cynlluniau newid ac mae hynny’n ddealladwy. Felly, rydyn ni wedi casglu rhywfaint o Gwestiynau Cyffredin am hyn:
- Roeddwn i eisiau mynd i ffwrdd dros y penwythnos ac roeddwn i wedi prynu dau docyn ymlaen llaw. Cafodd y trên a oedd yn mynd i fyny ei ganslo felly fe wnaethon ni yrru yn lle. Ydw i’n cael hawlio am y ddau docyn?
-
Ydych - os mai dim ond ar un rhan o’ch taith y mae hyn wedi effeithio, gallwn gynnig ad-daliad heb ddim ffi neu newid taith ar gyfer dwy ran eich taith. Mae hyn hefyd yn berthnasol os oes gennych chi ddau docyn unffordd sydd, gyda’i gilydd, yn daith ddwyffordd, ac wrth gwrs unrhyw docynnau dwyffordd llawn.
-
- Beth os ydw i’n teithio hanner ffordd ond mae’r tarfu mor ddrwg fel fy mod i’n rhoi’r gorau iddi ac yn mynd adref neu’n gofyn i rywun ddod i’m nôl?
-
Os nad ydych chi’n gallu cwblhau eich taith oherwydd tarfu, gallwch ddychwelyd i’ch man cychwyn a dal i hawlio ad-daliad ar y tocyn.
-
- Roedd gen i docyn ymlaen llaw ond cafodd y trên ei ganslo, felly fe wnes i gymryd yr un nesaf. Ydw i’n dal i gael iawndal?
-
Byddech chi’n dal i gael iawndal ar sail y gwahaniaeth rhwng yr amser yr oedd disgwyl i chi gyrraedd a’r amser y cyrhaeddodd y trên a gawsoch yn ddiweddarach.
-
- Roedd gen i docyn ymlaen llaw ond cafodd y trên ei ganslo, felly fe wnes i gymryd trên cynharach oherwydd bod gen i ddigon o amser i wneud hynny. Ydw i’n dal i gael iawndal?
-
Ni fyddai gennych hawl awtomatig i gael iawndal gan eich bod wedi dewis mynd ar wasanaeth cynharach, ond rydym yn hapus i ymchwilio i fanylion unrhyw achos unigol.
-
- Gwelais fod fy nhrên wedi cael ei ganslo felly newidiais fy nghynlluniau ond cefais wybod yn ddiweddarach fod y trên wedi mynd. Ydw i’n cael hawlio ad-daliad?
-
Ydych, os nad yw eich tocyn wedi cael ei ddefnyddio a’i fod wedi cael ei ganslo i ddechrau, gallwch hawlio ad-daliad llawn o hyd.
-
- Fe welais i fod llawer o drenau wedi’u canslo oherwydd y tywydd felly fe wnes i ddewis peidio â theithio oherwydd doeddwn i ddim eisiau cael fy nal yng nghanol unrhyw anrhefn teithio. Roedd pob un o fy nhrenau yn rhedeg yn y pen draw - a fyddai gen i hawl i unrhyw beth?
-
Os oedd y trenau roeddech chi wedi’u harchebu ymlaen llaw wedi rhedeg, gallech chi ddal hawlio ad-daliad ar docyn heb ei ddefnyddio, ond byddech yn gorfod talu ffi weinyddol o £5. Fodd bynnag, byddwn yn ystyried pob achos yn ôl ei amgylchiadau.
-
- Roeddwn i fod i deithio gyda sawl cwmni gweithredu, ond wrth i mi fynd i ddal fy nghysylltiad, fe wnes i ddarganfod bod un o’r cwmnïau’n gweithredu’n ddiwydiannol, felly roedd yn rhaid i mi wneud trefniadau eraill. Beth sydd gen i’r hawl iddo?
-
Byddai’n dibynnu ar ba mor bell ymlaen llaw rydych chi wedi archebu eich tocynnau. Rhaid i undebau roi 14 diwrnod o rybudd os ydyn nhw'n bwriadu gweithredu’n ddiwydiannol. Os ydych chi wedi archebu eich tocynnau cyn bod unrhyw rybudd yn cael ei roi, byddech chi’n gallu hawlio ad-daliad llawn heb unrhyw ffioedd gweinyddol. Os ydych chi wedi trefnu i deithio ar ôl i’r gweithredu diwydiannol gael ei gyhoeddi, eich cyfrifoldeb chi yw gwneud yn siŵr bod y gwasanaethau’n rhedeg. Byddech chi’n dal yn gallu hawlio am unrhyw docynnau heb eu defnyddio ond byddai’n rhaid talu ffi weinyddol.
-