Cynllun Datblygu Cynaliadwy 2019/20
Rhagair
Mae dros dair miliwn o bobl yng Nghymru’n dibynnu ar ein seilwaith trafnidiaeth bob dydd ac mae trafnidiaeth yn cyfrif am 14 y cant o’r holl allyriadau yng Nghymru yn 2016. Bysiau, ceir a lorïau sy’n cyfrif am 11.9 y cant o’r cyfanswm hwn. Er bod cerbydau’n dod yn fwy a mwy effeithlon, dim ond 3% mae eu hallyriadau wedi disgyn ers llinell sylfaen 1990, sy’n tynnu sylw at yr angen i ddatgarboneiddio trafnidiaeth yng Nghymru.
Ar ben hyn, mae allyriadau nitrogen deuocsid (NO2), osôn a deunydd gronynnol (PM10 neu PM2.5) gan geir a cherbydau modur eraill yn cyfrannu at tua 2,000, neu 6 y cant, o’r holl farwolaethau yng Nghymru bob blwyddyn.
Gallai lleihau’r defnydd o gerbydau preifat ac annog defnydd uwch o drafnidiaeth gyhoeddus a theithio llesol arwain at well ansawdd aer, at lai o lygredd aer ac at fanteision iechyd sylweddol.
Nod Trafnidiaeth Cymru ydy trawsnewid y rhwydwaith trafnidiaeth yng Nghymru a’r Gororau er mwyn iddo fod yn gynaliadwy go iawn ac yn addas i genedlaethau’r dyfodol, gan weithio i bobl ac i’r blaned. Bydd gwasanaethau rheilffyrdd Cymru a’r Gororau a Metro De Cymru’n cyflenwi pob rhan o Gymru a’r cymunedau ar hyd y ffin â Lloegr â rhwydwaith trafnidiaeth cyflym ac effeithlon sy’n amgylcheddol gadarnhaol.
Byddwn yn integreiddio ein rhwydweithiau trafnidiaeth gyhoeddus a theithio llesol, gan flaenoriaethu buddsoddiadau mewn seilwaith sy’n annog dewisiadau teithio cadarnhaol fel trafnidiaeth gyhoeddus a theithio llesol, yn lle cerbydau preifat.
Mae’r gwelliannau rydyn ni’n eu gwneud yn ategu polisïau allweddol Llywodraeth Cymru, fel Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol a Ffyniant i Bawb: y strategaeth genedlaethol, yn ogystal â thargedau datgarboneiddio uchelgeisiol y Llywodraeth, a fydd yn helpu i leihau llygredd aer, anghydraddoldebau a thlodi trafnidiaeth, gan wella iechyd corfforol a meddyliol, er enghraifft.
Drwy gyflawni’r nodau rydyn ni wedi’u nodi yn ein Cynllun Datblygu Cynaliadwy, byddwn yn cyfrannu at wireddu gweledigaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer trafnidiaeth gynaliadwy.
Scott Waddington
Cadeirydd
Trafnidiaeth Cymru
“Mae trafnidiaeth yn rhan hanfodol o lesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru, ac mae Trafnidiaeth Cymru wedi ymrwymo i gyflawni gweledigaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer trafnidiaeth yng Nghymru. Rydyn ni’n adeiladu rhwydwaith trafnidiaeth cynaliadwy a fydd yn arwain at fuddion eang i bawb yng Nghymru yn y dyfodol.
Mae ein Cynllun Datblygu Cynaliadwy yn pennu ein nodau a sut byddwn yn eu cyflawni. Mae hefyd yn esbonio sut byddwn yn cydweithio â’n partneriaid ac yn ymgysylltu â’n rhanddeiliaid i sicrhau bod ein hamcanion yn integredig a bod y penderfyniadau a wnawn yn gynaliadwy.
Drwy ein dulliau caffael cynaliadwy a moesol, rydyn ni’n gwneud yn siŵr bod ein buddsoddiadau’n creu cymaint o gyfleoedd â phosib i’r llu o fusnesau talentog sydd yng Nghymru, yn unol â nodau Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol.”
Lee Jones
Cadeirydd
Gwasanaethau Rheilffyrdd Trafnidiaeth Cymru
“Fel gweithredwyr Gwasanaethau Rheilffyrdd Trafnidiaeth Cymru, rydyn ni’n angerddol ynghylch ein partneriaeth strategol hirdymor gyda Llywodraeth Cymru a phobl Cymru a’r Gororau. Mae ein cwsmeriaid a’r cymunedau rydyn ni’n eu gwasanaethu wrth wraidd popeth a wnawn; gyda’n gilydd, byddwn yn darparu rhwydwaith trafnidiaeth sy’n ddiogel, yn gynaliadwy ac yn hygyrch.
“Mae gwella cysylltiad, buddsoddi mewn technoleg carbon isel a hybu teithio llesol ymhlith egwyddorion allweddol ein model busnes. Rydyn ni’n falch iawn o’r gwahaniaeth y gallwn ei wneud, y cyfleoedd economaidd rydyn ni’n eu creu a’r gwerth tymor hir rydyn ni’n ei ddatblygu ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.”
Ein Cynllun Datblygu Cynaliadwy
Bydd Cynllun Datblygu Cynaliadwy TrC yn:
- Gwneud yn siŵr bod datblygu cynaliadwy yn rhan o’n diwylliant ac wedi’i wreiddio ym mhopeth rydyn ni’n ei wneud
- Nodi ein hymrwymiad a’n dull mewn cysylltiad â datblygu cynaliadwy hyd at 2033
- Gosod nodau, camau gweithredu a chyfrifoldebau clir
- Atgyfnerthu ein hymrwymiad i fodloni gofynion deddfwriaethau a pholisïau perthnasol
- Darparu manylion am y prif weithgareddau byddwn yn eu cyflawni er mwyn adeiladu rhwydwaith trafnidiaeth gynaliadwy
Mae ein uwch dîm arwain wedi cymeradwyo ein cynllun a byddwn yn gwneud yn siŵr bod ein pobl yn deall eu rôl yn cyflawni ein nodau cynaliadwyedd.
Byddwn yn adolygu’r cynllun yn rheolaidd i wneud yn siŵr ei fod yn parhau i fod yn berthnasol o gofio natur, graddfa ac effeithiau amgylcheddol ein gweithrediadau.
Byddwn yn cyhoeddi adroddiad cynnydd blynyddol mewn cysylltiad â’n prif flaenoriaethau datblygu cynaliadwy, ac yn gofyn i gorff annibynnol adolygu ein cynnydd erbyn 2023.
Bydd y canlynol yn cefnogi ein Cynllun Datblygu Cynaliadwy:
- Strategaeth Caffael Cynaliadwy
- Strategaeth Sgiliau ac Arweinyddiaeth
- Cynllun Gweithredu Bioamrywiaeth
- Cynllun Rheoli’r Amgylchedd
- Cynllun Teithio Llesol a Beicio
- Cynllun Rheoli Gwastraff
- Cynllun Carbon Isel
Trafnidiaeth Cymru
Rydyn ni’n bodoli i gyflawni gweledigaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer rhwydwaith trafnidiaeth diogel, integredig, fforddiadwy a hygyrch o ansawdd uchel y mae pobl Cymru’n falch ohono. Rydyn ni’n gweithredu Gwasanaethau Rheilffyrdd Cymru a’r Gororau, ac yn adeiladu Metro De Cymru.
Er mwyn i Gymru a’i phobl ffynnu, mae angen i ni fod yn gysylltiedig â’n gilydd ac â’r gwasanaethau sydd eu hangen arnom er mwyn creu cyfleoedd newydd.
Mae ein gwaith yn canolbwyntio ar wneud i’r cysylltiadau hyn ddigwydd – drwy gynllunio, comisiynu a rheoli rhwydweithiau trafnidiaeth effeithlon, a drwy fanteisio ar y sgiliau gorau posibl o bob rhan o ddiwydiant, llywodraeth a chymdeithas. Gyda’n gilydd, rydyn ni’n creu rhwydwaith trafnidiaeth sy’n addas ar gyfer y dyfodol ac sydd hefyd yn cyfrannu at gynaliadwyedd hirdymor Cymru a’r cymunedau hynny sydd wedi cysylltu â ni.
Rydyn ni wedi siarad yn helaeth â theithwyr, y cyhoedd, arbenigwyr y diwydiant ac amrywiaeth o randdeiliaid er mwyn deall eu safbwyntiau ar drafnidiaeth. Bydd y safbwyntiau hyn yn ein galluogi i gyflawni rhwydwaith trafnidiaeth sy’n bodloni anghenion pobl ac yn chwyldroi eu barn ar drafnidiaeth gyhoeddus.
Byddwn yn cyflwyno trenau o ansawdd uwch â chapasiti uwch, gwasanaethau amlach a mwy prydlon, ac amseroedd taith cyflymach. Ar ben hyn, bydd ein safonau perfformiad yn canolbwyntio ar gwsmeriaid.
Metro De Cymru
Rydyn ni hefyd yn datblygu cam cyntaf Metro De Cymru, sef rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus integredig a fydd yn ei gwneud yn haws i bobl deithio ledled Prifddinas-Ranbarth Caerdydd.
Bydd gwasanaethau rheilffordd yn rhan allweddol o’r Metro, a gall cwsmeriaid ddisgwyl gwasanaeth modern lle gallwch chi gyrraedd a mynd, sy’n cynnig:
- Teithiau cyflymach, ac amseroedd teithio llai • Cysylltiadau gwell rhwng gwahanol fathau o drafnidiaeth
- Mwy o gapasiti
- Gwasanaethau amlach
- Gwasanaethau mwy dibynadwy
- Gwasanaethau mwy hygyrch
- Tocynnau rhatach a teithiau trên mwy fforddiadwy
- Gwasanaethau mwy gwyrdd
Rydym wedi dechrau buddsoddi £738 miliwn i uwchraddio seilwaith er mwyn datblygu Metro De Cymru.
Mae nifer o brosiectau Metro De Cymru wedi’u hariannu’n rhannol gan Gronfa Datblygu Ranbarthol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru.
Deddfwriaeth
Mae amrywiaeth eang o ddeddfwriaethau a pholisïau perthnasol, sy’n ein helpu i gyflawni ein nodau, wedi dylanwadu ar ein Cynllun Datblygu Cynaliadwy, gan gynnwys:
Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016
Polisi Adnoddau Naturiol
Symud Cymru Ymlaen
Ffyniant i Bawb: Cymru Carbon Isel
Arloesi Cymru, 2014
Ffyniant i Bawb: Cynllun Gweithredu Economaidd
Polisi cynllunio Cymru
Deddf caethwasiaeth fodern (2015)
Cynllun y Sector Adeiladu a Dymchwel
Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015
Bydd ein dull o ymdrin â datblygu cynaliadwy yn cael ei lywio gan adran 2 o’r Ddeddf:
“datblygu cynaliadwy” yw’r broses o wella llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol Cymru drwy weithredu, yn unol â’r egwyddor datblygu cynaliadwy, gan anelu at gyrraedd y nodau llesiant.“
Ein pum ffordd o weithio
Pan fyddwn yn gwneud penderfyniadau, byddwn yn ystyried eu heffaith ar y bobl a fydd yn byw eu bywyd yng Nghymru yn y dyfodol. Bydd ein ffyrdd o weithio’n ein hannog i weithio’n fwy cydweithredol er mwyn mynd i’r afael â rhai o’r heriau tymor hir rydyn ni’n eu hwynebu.
Mae ein pum ffordd o weithio wedi dylanwadu ar y gwaith o ddatblygu’r cynllun hwn a byddant yn ein helpu i ddangos y cysylltiad clir rhwng y sbardunau deddfwriaethol, ein penderfyniadau, y gweithgareddau rydyn ni’n eu gwneud, a’n heffaith.
Cynlluniau tymor hir
Drwy ein prosesau caffael, byddwn yn defnyddio dull gweithredu “costio oes gyfan” sy’n ystyried gwerth cyffredinol, yn hytrach na dim ond y gost ariannol. Bydd sicrhau buddion i gymunedau’n rhan annatod o’n contractau a byddwn yn datblygu cysylltiadau tymor hir ar draws ein cadwyn gyflenwi, gan rannu ein hymrwymiadau i leihau allyriadau carbon â’n partneriaid a’n cyflenwyr.
- Byddwn yn cynnal Gweithdai Gweledigaeth y Dyfodol i gyfleu ein gweledigaeth, yr heriau rydyn ni’n eu hwynebu a’r cyfleoedd ar gyfer y dyfodol
- Byddwn yn cyfathrebu ein gweledigaeth a’n nodau i’n pobl drwy sesiwn gynefino hanner diwrnod i bob un o’n pobl
Atal
Drwy gynyddu’r defnydd o drafnidiaeth gyhoeddus fwy cynaliadwy a dewisiadau teithio llesol, byddwn yn sicrhau nifer o fuddion:
- Byddwn yn lleihau’r llygredd a’r allyriadau sy’n effeithio ar gymunedau a’r hinsawdd drwy gyflwyno trenau glanach, drwy drydaneiddio rheilffyrdd a drwy annog pobl i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus a dewisiadau teithio llesol yn hytrach na’r car
- Byddwn yn manteisio ar gyfleoedd i gynyddu nifer y mannau gwyrdd ac annog pobl i fynd allan i’r awyr agored yn eu hamgylchedd lleol drwy gyflawni ein Cynllun Gweithredu Bioamrywiaeth.
- Byddwn yn lleihau arwahanrwydd cymdeithasol a gwledig drwy integreiddio’r rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus yn well, drwy raglenni cymunedol a drwy wella gorsafoedd a chanolfannau
Cymryd Rhan
Byddwn yn parhau i weithio gydag amrywiaeth o randdeiliaid a phartneriaid i wireddu ein gweledigaeth o rwydwaith trafnidiaeth diogel, integredig, fforddiadwy a hygyrch o ansawdd uchel, gan gynnwys:
- Ein pobl
- Ein partneriaid cymunedol fel y Partneriaethau Rheilffyrdd Cymunedol, y Cynllun Mabwysiadu Gorsafoedd, y Bwrdd Teithio Llesol, a Chynlluniau Datblygu Cymdeithasol a Masnachol Gorsafoedd
- Grwpiau cymunedol fel Cyfranogaeth Cymru (i gynnwys grwpiau anoddach eu cyrraedd), Cynghorau Gwirfoddolwyr Cymunedol, Ymddiriedolaeth y Tywysog, a’r bartneriaeth gwirfoddoli ieuenctid GwirVol.
Integreiddio
Mae ein hamcanion yn effeithio ar nifer o nodau, fel Nodau Datblygu Cynaliadwy’r Cenhedloedd Unedig, yn ogystal â nodau cyrff cyhoeddus eraill.
- Bydd ein Cynlluniau Datblygu Cynaliadwy ar gyfer Prosiectau’n cynnwys amcanion sy’n cael eu mapio a’u croesgyfeirio ag amcanion llesiant cyrff cyhoeddus
Cydweithio
Ni allwn gyflawni ein cynlluniau uchelgeisiol ar ein pen ein hunain. Rhaid i ni gydweithio ag erailli gyflawni ein hamcanion, gan gynnwys:
- Ein partneriaid cytundebol, gan gynnwys ein Gwasanaethau Rheilffyrdd Trafnidiaeth Cymru, ein Gweithredwr Rheilffyrdd a’n Partner Datblygu, a’n Partneriaid Cyflenwi Seilwaith
- Ein partneriaid llywodraethol a’n partneriaid yn y Sector Cyhoeddus, a fydd yn ein cefnogi mewn meysydd polisi allweddol
- Ein partneriaid academaidd, a fydd yn ein helpu ni i ddarparu’r hyfforddiant a’r prentisiaethau priodol
Saith nod llesiant
Cymru lewyrchus
“Cymdeithas arloesol, gynhyrchiol, carbon isel sy’n cydnabod y terfynau sydd ar yr amgylchedd byd-eang ac sydd, o ganlyniad, yn defnyddio adnoddau mewn modd effeithlon a chymesur (gan gynnwys gweithredu ar newid yn yr hinsawdd); ac sy’n datblygu poblogaeth fedrus ac addysgedig mewn economi sy’n cynhyrchu cyfoeth ac yn cynnig cyfleoedd cyflogaeth, gan ganiatáu i bobl fanteisio ar y cyfoeth a gynhyrchir drwy gael gafael ar waith addas.”
Cymru gydnerth
“Cenedl sy’n cynnal ac yn gwella amgylchedd naturiol bioamrywiol gydag ecosystemau iach gweithredol sy’n cynnal cydnerthedd cymdeithasol, economaidd ac ecolegol ynghyd â’r gallu i addasu i newid.”
Gymru Iachach
“Cymdeithas lle mae llesiant corfforol a meddyliol pobl cystal â phosibl a lle deellir dewisiadau ac ymddygiadau sydd o fudd i iechyd yn y dyfodol”
Cymru sy’n fwy cyfartal
“Cymdeithas sy’n galluogi pobl i gyflawni eu potensial ni waeth beth fo’u cefndir neu eu hamgylchiadau “
Gymru o Gymunedau Cydlynys
“Cymunedau atyniadol, hyfyw a diogel sydd â chysylltiadau da”
Gymru â diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu
“Cenedl sy’n hyrwyddo ac yn gwarchod diwylliant, treftadaeth a’r Gymraeg, ac sy’n annog pobl i gymryd rhan yn y celfyddydau, chwaraeon a hamdden“d a allai gwneud peth o’r fath gyfrannu’n gadarnhaol at lesiant byd-eang”
Cymru sy’n gyfrifol ar lefel fyd-eang
Cenedl sydd, wrth iddi wneud unrhyw beth i wella llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol Cymru, yn ystyried a allai gwneud peth o’r fath gyfrannu’n gadarnhaol at lesiant byd-eang”
Ein hymrwymiadau i’r saith nod llesiant
Cymru lewyrchus
Byddwn yn ysgogi gweithgarwch economaidd ac yn hyrwyddo economi ffyniannus, arloesol a charbon isel, a fydd yn darparu cyflogaeth o ansawdd uchel i aelodau o’n tîm ac i’n cadwyn gyflenwi.
Byddwn yn gwarchod adnoddau naturiol ac yn gwella ansawdd yr amgylchedd yr ydym yn gweithredu ynddo drwy hyrwyddo defnydd cynaliadwy, lleihau gwastraff a sbarduno gwelliant parhaus.
Caffael a’r gadwyn gyflenwi
Rydyn ni wedi datblygu Strategaeth Caffael Cynaliadwy
Byddwn yn darparu cyfleoedd gwaith i fusnesau bach a chanolig a mentrau trydydd sector gwirfoddol
- Byddwn yn cysoni’r cyfleoedd hyn â’n Polisi Caffael Cynaliadwy a’n Polisi Cadwyn Gyflenwi
- Byddwn yn gweithio’n agos gyda GwerthwchiGymru a Busnes Cymru i helpu i ddenu busnesau bach a chanolig a mentrau trydydd sector gwirfoddol
- Byddwn yn cynnal o leiaf dau ddigwyddiad cwrdd â’r prynwr yng ngogledd a de Cymru bob blwyddyn
- Byddwn yn buddsoddi mewn mannau cymunedol, fel Arddangosfeydd Mentrau mewn gorsafoedd
- Byddwn yn cadw cofnodion o’n defnydd o fusnesau bach a chanolig a mentrau trydydd sector gwirfoddol, a’n rhyngweithiad â nhw, ac yn adrodd ar hyn yn flynyddol
Erbyn 2021, byddwn yn caffael 20% o’n deunydd yn ôl gwariant gan fusnesau yng Nghymru a’r ardaloedd mae TrC yn eu gwasanaethu
Bydd y canlynol yn ein helpu i wneud hyn:
- Cynnal digwyddiadau Cwrdd â’r Prynwr
- Hyfforddiant Busnes Cymru i fusnesau bach a chanolig
Byddwn yn hyrwyddo arferion caffael cyhoeddus cynaliadwy a moesegol yn unol â’r polisïau a’r blaenoriaethau cenedlaethol
- Byddwn yn cynnwys meini prawf cynaliadwyedd ym mhob trefniant masnachol newydd gyda’n prif gyflenwyr, yn unol â’n Polisi Caffael
- Byddwn yn cydymffurfio â Chod Ymddygiad Llywodraeth Cymru ar Gyflogaeth Foesegol mewn Cadwyni Cyflenwi
- Byddwn yn cynnal dadansoddiad o’r bylchau sgiliau yn ein cadwyn gyflenwi er mwyn nodi’r sgiliau sydd ar gael ar y pryd, a’r rheini sydd eu hangen arnom i gyflenwi ein gwasanaethau yn y dyfodol
Byddwn yn ymrwymo i dalu’r Cyflog Byw i’n hisgontractwyr
- Byddwn yn dewis cyflenwyr sy’n cytuno i dalu’r Cyflog Byw i’w gweithwyr
Byddwn yn archwilio neu’n cadarnhau cydymffurfedd ein cadwyn gyflenwi â’n safonau ni ac â’r Cyflog Byw, ac yn cydweithio drwy gydol y broses hon
Economi gylchol, gwastraff ac ailgylchu
Byddwn yn dylunio er mwyn lleihau gwastraff a hynny drwy gynllunio, adolygu a monitro ein harferion rheoli gwastraff parhaus
- Byddwn yn rhoi Cynllun Rheoli Gwastraff ar waith. Bydd yn disgrifio sut byddwn yn datblygu a monitro ein targedau, ac yn adrodd arnynt
- Byddwn yn mynnu bod ein hisgontractwyr yn llunio Cynllun Rheoli Gwastraff hefyd
Prentisiaethau
Byddwn yn darparu Strategaeth Sgiliau ac Arweinyddiaeth
- Byddwn yn datblygu Strategaeth Sgiliau ac Arweinyddiaeth a fydd yn cael ei hadolygu bob dwy flynedd
Byddwn yn recriwtio prentisiaid a graddedigion drwy gynlluniau priodol
Byddwn yn cynnig 150 o leoliadau gwaith ‘Get Into’ drwy weithio gyda’r Prince’s Trust (neu sefydliad cyfatebol) rhwng 2019 a 2022
Yr economi
Rydyn ni’n symud i’n pencadlys newydd ym Mhontypridd, ac rydyn ni wedi agor ein Huned Fusnes yng ngogledd Cymru
- Byddwn yn gwneud yn siŵr bod o leiaf 155 o weithwyr wedi’u lleoli’n barhaol yn ein pencadlys ym Mhontypridd a’n Huned Fusnes yng ngogledd Cymru
- Dyddiad cwblhau arfaethedig ein pencadlys ym Mhontypridd ydy 30 Medi 2020. Byddwn yn rhoi rhybudd rhesymol os ydy’r dyddiad hwn yn debygol o newid
Cyflogaeth
Byddwn yn cefnogi’r gwaith o greu swyddi yng Nghymru ac yn recriwtio tîm amrywiol sy’n cydnabod talent heb ystyried cefndir, rhyw, anabledd, oedran na hil
- Rydyn ni’n gobeithio ehangu ein cyrhaeddiad drwy gyhoeddi ein swyddi gwag ar wefannau fel Recruit3 ac ar gyfryngau cymdeithasol
Byddwn yn cynnig rhaglenni hyfforddiant i dechnegwyr rheilffyrdd, rheolwyr a chynrychiolwyr gwasanaeth i gwsmeriaid, ac yn datblygu rhaglen hyfforddi benodol i bob rôl
- Byddwn yn gwneud y defnydd gorau o’n hadnoddau a bydd hyfforddwyr TrC yn darparu hyfforddiant priodol, ac yn nodi meysydd lle mae angen hyfforddiant
- Byddwn yn parhau i gynnig cyrsiau pwrpasol, fel y rheini sy’n cael eu noddi gan y Sefydliad Arweinyddiaeth a Rheolaeth
Cymru gydnerth
Byddwn yn gwella ein cydnerthedd ac yn addasu i’r newid yn yr hinsawdd a digwyddiadau tywydd eithafol, ac yn rheoli risg amgylcheddol drwy gynllunio, monitro, adolygu a, lle bo’n briodol, newid ein camau gweithredu.
Byddwn yn lleihau diraddiad cynefinoedd ac adnoddau naturiol, ac yn amddiffyn a gwella bioamrywiaeth
Ynni
Byddwn yn caffael 100% o’n hynni o ffynonellau di-garbon
Byddwn yn buddsoddi mewn technolegau adnewyddadwy, gan gynnwys gosod paneli ffotofoltäig, goleuadau LED ac offer casglu dŵr glaw
- Bydd 50% o’n hynni adnewyddadwy’n cael ei gynhyrchu yng Nghymru neu’r ardaloedd rydyn ni’n eu gwasanaethu
- Byddwn yn buddsoddi £5,000,000 mewn technolegau adnewyddadwy erbyn 31 Mawrth 2026 fan bellaf
Byddwn yn cefnogi cynnydd mewn Gwefru Cerbydau Trydan
- Byddwn yn gosod mannau gwefru cerbydau trydan mewn 10% o’r mannau sydd ar gael mewn meysydd parcio newydd ar draws ein rhwydwaith erbyn 2022
- Byddwn yn uwchraddio ein seilwaith wrth i’r dechnoleg ddatblygu
Byddwn yn rhoi mesurau ar waith i leihau’r defnydd o ynni
- Byddwn yn buddsoddi £2,736,000 i osod goleuadau LED newydd ym mhob gorsaf, gan orffen y gwaith cyfalaf erbyn diwedd mis Hydref 2023
Byddwn yn gosod mesuryddion ynni clyfar yn ein gorsafoedd a’n depos o 2019 ymlaen er mwyn monitro, dadansoddi a helpu i leihau’r defnydd o ynni
Dŵr
Byddwn yn lleihau ein defnydd o ddŵr ffres 50% drwy osod systemau casglu dŵr glaw
- Byddwn yn gosod mesuryddion dŵr awtomatig yn ein gorsafoedd a’n depos erbyn diwedd 2020 ac yn pennu ein llinell sylfaen o ran defnyddio dŵr cyn diwedd 2021
- Byddwn yn defnyddio palmentydd athraidd yn ein meysydd parcio wrth uwchraddio gorsafoedd ac adeiladu ein depo yn Ffynnon Taf
Bioamrywiaeth
Byddwn yn llunio Cynllun Gweithredu Bioamrywiaeth erbyn 2020
- Byddwn yn rhoi £17,000 i Gronfa Menter Bioamrywiaeth erbyn diwedd 2019. Bydd y gronfa hon yn annog elusennau a sefydliadau academaidd i roi mentrau ar waith ar draws ein rhwydwaith rheilffyrdd ac yn yr amgylchedd ehangach, mentrau fel planhigion sy’n denu gwenyn, cychod gwenyn, a bocsys ystlumod ac adar.
Carbon
Rydyn ni wedi creu Strategaeth Effaith Carbon Isel
- Byddwn yn gosod amrywiaeth o dargedau lleihau carbon erbyn 1 Ebrill 2023
Risg amgylcheddol
Byddwn yn rhoi ein Cynllun Rheoli’r Amgylchedd ar waith, a fydd yn manylu ar y prif risgiau amgylcheddol sy’n gysylltiedig â’n gwasanaethau a’r mesurau lliniaru risg byddwn yn eu mabwysiadu
- Byddwn yn rheoli ac yn monitro perfformiad amgylcheddol ein gwasanaethau
Byddwn yn asesu ac yn rheoli ein risg amgylcheddol ac yn rhoi mesurau lliniaru ar waith
- Byddwn yn cael ardystiad ar gyfer y safonau ISO 14001:2015 (neu gyfwerth) a ISO50001:2011 erbyn diwedd 2020
- Byddwn yn ymgorffori’r holl ddeddfwriaethau a gofynion perthnasol yn ein cofrestr gyfreithiol
- Byddwn yn darparu hyfforddiant ymwybyddiaeth amgylcheddol i’n gweithwyr
- Rydyn ni’n datblygu Dangosyddion Perfformiad Allweddol a thargedau penodol ar gyfer gwastraff, carbon ac ati a byddwn yn monitro, yn adolygu ac yn gwella ein perfformiad yn barhaus
- Byddwn yn rheoli’r ffordd rydyn ni’n defnyddio ac yn gwaredu cemegion a’r holl wastraff i leihau eu heffaith ar bobl a’r amgylchedd
Bydd ein Rheolwr Amgylcheddol yn gwneud archwiliadau amgylcheddol i wneud yn siŵr bod pob trwydded a chymeradwyaeth reoleiddiol yn ei lle cyn dechrau gwneud gwaith cynnal a chadw ac adeiladu
- Bydd ein Rheolwr Amgylcheddol a’n Cydlynwyr Amgylcheddol yn gweithio’n agos gyda’r timau dylunio i helpu i gael gwared ar niwsans amgylcheddol
- Byddwn yn dilyn arferion cynnal a chadw ac adeiladu cynaliadwy fel paratoi ymlaen llaw oddi ar y safle, ac yn gwneud yn siŵr ein bod yn ymgynghori â chymunedau lleol wrth i’r gwaith fynd rhagddo er mwyn lleihau sŵn a niwsans arall
- Byddwn hefyd yn defnyddio proses hysbysiadau brys i helpu i leihau’r effaith ar y gymuned leol yn ystod gwaith cynnal a chadw adweithiol a allai achosi amhariad
- Byddwn yn cymryd pob gofal rhesymol i leihau neu atal llygredd aer, pridd a dŵr.
- Byddwn yn talu’r costau o gywiro unrhyw lygredd rydyn ni’n ei achosi, yn unol â’r egwyddor y Llygrwr sy’n Talu
Byddwn yn cyrraedd sgôr CEEQUAL a BREEAM ‘ardderchog’ o leiaf, neu sgôr gyfwerth ag ardderchog mewn safon gydnabyddedig gyfatebol
- Byddwn yn gwneud yn siŵr bod BREEAM yn rhan annatod o’n proses ddylunio a’n bod yn monitro ein cynnydd yn erbyn adroddiadau tracio BREEAM
Byddwn yn datblygu, yn gweithredu ac yn cyhoeddi ein Cynllun Teithio Llesol a Beicio, a’i ddiwygio bob dwy flynedd
Byddwn yn hyrwyddo rhwydwaith trafnidiaeth sy’n gyfartal yn gymdeithasol, yn gynhwysol, yn iach ac yn ddiogel
Teithio llesol
Byddwn yn datblygu, yn gweithredu ac yn cyhoeddi ein Cynllun Teithio Llesol a Beicio, a’i ddiwygio bob dwy flynedd
- Byddwn yn archwilio seilwaith i feiciau ac yn nodi lle mae angen cyfleusterau a llwybrau newydd er mwyn hyrwyddo cynnydd mewn teithiau ar feiciau yn ôl ac ymlaen o Orsafoedd. Byddwn yn gwneud hyn erbyn 1 Ebrill 2019 fan bellaf a bob dwy flynedd wedi hynny
- Rhwng 1 Ebrill 2019 a 31 Mawrth 2027 byddwn yn buddsoddi £1,550,000 mewn gweithgareddau i hyrwyddo teithio llesol
Byddwn yn gweithio mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru i gynyddu teithio llesol:
- Byddwn yn hyrwyddo teithio ar reilffyrdd i gyrchfannau ar gyfer cerdded a beicio hamdden fel rhan o deithio llesol, ac yn cydweithio â gweithgareddau cynllunio teithio llesol awdurdodau lleol
- Byddwn yn cyhoeddi map teithio integredig a fydd yn cynnwys llwybrau teithio llesol, gan ddangos seilwaith a chyfleusterau, a hynny erbyn 31 Mawrth 2020
Byddwn yn cynyddu teithio llesol drwy integreiddio’n well a gwell cyfleusterau. Byddwn yn lleihau ein cyfraniad i lygredd aer yn y ffyrdd canlynol:
- Defnyddio System Reoli Amgylcheddol y Ddraig Werdd
- Uwchraddio ein fflyd cerbydau i leihau allyriadau niweidiol yn ystod ein tair blynedd gyntaf o weithredu gwasanaethau rheilffyrdd Cymru a’r Gorora
Byddwn yn darparu rhwydwaith trafnidiaeth diogel yn y ffyrdd canlynol:
- Gwneud yn siŵr bod mynediad diogel i feiciau yn ein gorsafoedd
- Sicrhau diogelwch ein gweithwyr yn ein gorsafoedd ac ar drenau drwy leihau ofn, trosedd ac ymddygiad gwrthgymdeithasol. Byddwn yn darparu hyfforddiant i reoli a lleihau trosedd a digwyddiadau diogelwch. Byddwn hefyd yn asesu ac yn adolygu risgiau diogelwch a throsedd yn rheolaidd
Ein pobl
Byddwn yn cefnogi ac yn gwella iechyd a lles ein pobl drwy reoli risgiau galwedigaethol, ymgysylltu rhagor â’n pobl, a rhoi hwb i’w morâl drwy wneud y canlynol:
- Hybu iechyd a lles ein pobl drwy’r egwyddorion ‘Pum Ffordd at Les’
- Rhoi rheolaethau a mesurau ataliol ar waith os ydy ein pobl yn wynebu risg uwch, fel gwneud yn siŵr bod glanweithyddion dwylo a brechiadau ffliw ar gael i’n timau sy’n dod i gysylltiad â chwsmeriaid
- Hybu’r gwaith o ddatblygu diwylliant ymddygiadol lle mae ein pobl yn ystyriol o’u hiechyd a lles eu hunain ac o iechyd a lles eu cyd-weithwyr
- Cyflwyno cynllun beicio i’r gwaith a helpu ein pobl i hawlio costau teithio am ddefnyddio beic
Byddwn yn amlinellu ein hymrwymiad sefydliadol i fynd i’r afael â stigma iechyd meddwl a lleihau’r stigma hwnnw
- Byddwn yn defnyddio cyfathrebiadau ac ymgyrchoedd wedi’u targedu sy’n gysylltiedig â chalendrau ymwybyddiaeth o iechyd
- Byddwn yn llofnodi addewid partneriaeth ag ymgyrch Mind Cymru, Amser i Newid Cymru
- Byddwn yn parhau i addysgu ein pobl ar iechyd meddwl/atal hunanladdiad
- Bydd ein holl bobl yn cyflawni hyfforddiant ymwybyddiaeth o iechyd meddwl bob tair blynedd o 2021 ymlaen, a byddwn yn darparu diweddariadau a sesiynau atgoffa rheolaidd
- Byddwn yn darparu hyfforddiant i Swyddogion Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl, Hyrwyddwyr Iechyd Meddwl, a thimau Atal Hunanladdiad
- Byddwn yn gwella ymwybyddiaeth ein tîm rheng flaen o anabledd, iechyd meddwl a gwasanaeth i gwsmeriaid, ac yn gwneud yn siŵr bod yr hyfforddiant hwn yn cael ei ailadrodd bob dwy flynedd.
- Byddwn yn ffurfio Grŵp Cyfoedion ar gyfer Iechyd Meddwl er mwyn rhedeg ymgyrchoedd a dwyn sylw aelodau o’r tîm at eu gwasanaethau a’u cymorth
Cymru sy’n fwy Cyfartal
Byddwn yn darparu mynediad i systemau trafnidiaeth diogel, fforddiadwy, hygyrch a chynaliadwy i bawb, gan wella diogelwch ar y ffyrdd, yn bennaf drwy ehangu trafnidiaeth gyhoeddus a rhoi sylw arbennig i anghenion pobl dan anfantais.
Byddwn yn darparu cyfleoedd i weithio a hyfforddi, gan nodi bylchau sgiliau a chynnig prentisiaethau a hyfforddiant. Byddwn yn parchu hawliau sylfaenol ac amrywiaeth ddiwylliannol, ac yn hybu lles meddyliol a chorfforol
Hygyrchedd
Byddwn yn cydymffurfio â’r gofynion i ddarparu trefniadau cludo hygyrch i bobl anabl:
Byddwn yn rhoi prosesau ar waith i wneud y canlynol:
- cofnodi ceisiadau cadw sedd a’r cymorth a roddir i bobl anabl drwy Cymorth i Deithwyr
- cofnodi a ddarperir y seddi cadw a/neu’r cymorth ai peidio
- gwneud ein cofnodion ar gael ar gais
Byddwn yn sefydlu llinell gymorth Cymorth i Deithwyr am ddim
- Byddwn yn cydymffurfio â’r gofynion i ddarparu trefniadau cludo hygyrch i bobl anabl
- Byddwn yn gwneud yn siŵr bod ein mesurau hygyrchedd yn cynnwys cymorth i bobl ag anghenion dysgu ychwanegol
- Byddwn yn gwneud yn siŵr bod ein mesurau hygyrchedd yn cynnwys cymorth i anghenion pobl â phroblemau iechyd meddwl sydd angen help i ddefnyddio gwasanaeth rheilffyrdd
- Os nad ydy teithiwr yn gallu dod oddi ar un o’n trenau o ganlyniad i gynllun gorsaf, byddwn yn darparu trefniadau cludo hygyrch eraill
Byddwn yn ymgysylltu ag Anabledd Cymru i alluogi gwelliant parhaus ac i ddatblygu seilwaith sy’n rhoi cymorth i bobl â phob math o anabledd, gan gefnogi Cymru sy’n fwy cyfartal
Byddwn yn targedu pobl leol drwy’r broses recriwtio. I wneud hynny, byddwn yn cydweithio â Chyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru ac
asiantaethau lleol eraill i hysbysebu swyddi gwag, a helpu pobl leol i ennill y sgiliau sylfaenol sydd eu hangen arnynt i wneud cais am y swyddi hyn
Byddwn yn gweithio gydag awdurdodau lleol a grwpiau cymunedol i helpu i wella hygyrchedd ac i gyflawni eu hamcanion:
- Byddwn yn creu Panel Hygyrchedd i gydweithio â rhanddeiliaid a chwsmeriaid perthnasol, gan ymgynghori â nhw ar welliannau arfaethedig a mentrau hygyrchedd. Byddwn hefyd yn eu gwahodd i gymryd rhan mewn treialon, gweithdai a hyfforddiant
- Ni fydd rhaid defnyddio grisiau ar gyfer 99% o’r holl deithiau ar Linellau Craidd y Cymoedd erbyn dechrau mis Hydref 2023. Er nad ydy mynediad heb risiau’n bosib yng ngorsaf Trehafod, byddwn yn sicrhau mynediad gwastad ar y ddau blatfform
- Byddwn yn gofyn i’n Panel Hygyrchedd adolygu a phrofi brasfodelau o’n trenau newydd cyn iddynt gael eu gweithgynhyrchu, ac yn gwneud yn siŵr bod ei adborth yn cael ei ystyried yn y broses ddylunio
Byddwn yn mesur effaith ein gwasanaeth ar hygyrchedd:
- Byddwn yn gweithio gydag Anabledd Cymru a Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol y Deillion i fesur effaith ein gwasanaethau ar hygyrchedd
Byddwn yn darparu gwasanaethau yn unol â Deddf Caethwasiaeth Fodern 2015:
- Byddwn yn adolygu ac yn asesu ein cadwyn gyflenwi a’n gweithdrefnau bob blwyddyn, yn unol â’r diweddariadau cyfreithiol perthnasol ac arferion gorau cyfredol y diwydiant
- Byddwn yn diweddaru ein Polisi Gwrthgaethwasiaeth bob blwyddyn
- Byddwn yn gwneud yn siŵr bod ein cyflenwyr yn ymrwymo i’n polisïau gwrth-gaethwasiaeth ac yn cadw at ein prosesau a’n gweithdrefnau caffael, gan gynnwys ymrwymo cyflenwyr i’n polisïau gwrth-gaethwasiaeth
Ein pobl
Byddwn yn hyrwyddo gweithle sy’n gyfartal yn gymdeithasol, yn iach ac yn ddiogel. Byddwn yn parchu hawliau sylfaenol ac amrywiaeth ddiwylliannol ein pobl, ac yn hybu eu lles meddyliol a chorfforol:
- Byddwn yn cefnogi mentrau i gynyddu nifer y bobl ddu, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig (BAME) a nifer y merched sy’n cael eu cyflogi gennym
- Byddwn yn darparu canolfan ddysgu arlein a fydd yn galluogi ein pobl i gyflawni hyfforddiant craidd, fel hyfforddiant iaith Gymraeg
Byddwn yn cyflogi Rheolwr Gyrfaoedd a Phrentisiaethau i gyflenwi rhaglen yrfaoedd helaeth a fydd yn cynnwys prentisiaethau, interniaethau wedi’u cefnogi, lleoliadau gwaith diwydiannol a chynlluniau i raddedigion
- Byddwn yn gweithio gyda cholegau lleol a sefydliadau, fel y Prince’s Trust, i wneud yn siŵr eu bod yn addysgu’r sgiliau sy’n ofynnol gennym. Byddwn yn cynnig lleoliadau gwaith i fyfyrwyr hefyd
- Byddwn yn helpu pobl ifanc i ddatblygu sgiliau gweithio drwy ein rhaglenni ag ysgolion a cholegau yng Nghymru a’r Gororau
- Byddwn yn noddi un o ‘Glybiau Achieve’ y Prince’s Trust bob blwyddyn, sy’n galluogi 30 o bobl ifanc rhwng 11 ac 19 oed i ddatblygu sgiliau rhifol a llythrennedd sylfaenol, i fagu hunanhyder ac i ennill cymhwyster ffurfiol
Gan gydnabod gwerth gwirfoddoli yn y gymuned, byddwn yn cefnogi ein pobl i wneud gwaith cymunedol gwirfoddol a chymryd rhan mewn cynlluniau perthnasol sy’n annog, yn cefnogi ac yn gwobrwyo gwirfoddoli yn y cymunedau rydyn ni’n eu gwasanaethu
- Byddwn yn annog ein pobl i wneud o leiaf dau ddiwrnod o waith gwirfoddol cyflogedig bob blwyddyn
Emily-Rose Jenkins
Peiriannydd Geo-dechnegol
Trafnidiaeth Cymru
“Mae’r Cynllun Datblygu Cynaliadwy yn nodi’n glir pa mor bwysig yw Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 ac yn dangos sut mae Trafnidiaeth Cymru wedi ymrwymo i gyflawni’r saith nod llesiant, gan integreiddio’r pum ffordd o weithio. Mae’r Cynllun Datblygu Cynaliadwy yn esbonio ymrwymiadau TrC a sut bydd cynaliadwyedd yn hollbwysig er mwyn sicrhau bod gan Gymru system drafnidiaeth bwrpasol ar gyfer cenedlaethau’r presennol a’r dyfodol.”
Cymru o gymunedau cydlynus
Byddwn yn defnyddio ein gorsafoedd i roi gwybodaeth i bobl ac i roi gwybod iddynt am ddigwyddiadau lleol a digwyddiadau eraill ledled Cymru, ac i ymgysylltu â chymunedau lleol i wneud yn siŵr bod eu buddiannau wrth galon ein penderfyniadau. Byddwn yn cynnig rhwydwaith trafnidiaeth mwy integredig, gyda gwell cysylltedd rhwng gorsafoedd a chymunedau
Cysylltu pobl
Byddwn yn defnyddio ein gorsafoedd i wneud yn siŵr bod pobl yn cael gwybodaeth ddigonol am brosiectau allweddol, fel y gwaith o drawsnewid Llinellau Craidd y Cymoedd, yn ogystal â gwybodaeth am ddigwyddiadau lleol a digwyddiadau eraill ledled Cymru
- Bydd ein prif orsafoedd yn darparu gwell mynediad i leoliadau allweddol fel ysbytai, a byddwn yn gosod cyfleusterau ychwanegol fel cysgodfannau, toiledau ac arwyddion i helpu defnyddwyr bysiau, cerddwyr a beicwyr i ddod o hyd i’w ffordd yn haws
Byddwn yn ymgysylltu â rhanddeiliaid perthnasol i adfywio mwy o fannau segur yn ein gorsafoedd a’u defnyddio ar gyfer gweithgareddau cymunedol fel llyfrgelloedd, clybiau gwaith cartref ar ôl ysgol, a banciau bwyd
- Gan weithio gyda thimau gorsafoedd, byddwn yn nodi ac yn hyrwyddo’r mannau gellir eu defnyddio sydd ar gael yn ein gorsafoedd, ar y cyd â’r tîm rheoli rhanddeiliaid a Phartneriaethau Rheilffyrdd Cymunedol
Annog Partneriaethau Rheilffyrdd Cymunedol a Mabwysiadwyr Gorsafoedd i gydweithio er mwyn cyflawni cynlluniau mwy uchelgeisiol ar gyfer gwella gorsafoedd, a byddwn yn cydweithio i geisio cyllid ychwanegol i ategu’r buddsoddiadau mewn gorsafoedd rydyn ni wedi ymrwymo iddynt
- Gan weithio gyda thimau gorsafoedd, byddwn yn nodi ac yn hyrwyddo’r mannau gellir eu defnyddio sydd ar gael yn ein gorsafoedd, ar y cyd â’r tîm rheoli rhanddeiliaid a Phartneriaethau Rheilffyrdd Cymunedol
Yn 2024, yn amodol ar gael cymeradwyaeth ac ymrwymo i’r cytundebau angenrheidiol â pherchnogion asedau, rydyn ni’n bwriadu ailwampio wyth hen gerbyd er mwyn iddynt allu cael eu defnyddio ar gyfer amrywiaeth o weithgareddau fel clybiau gwaith cartref ar ôl ysgol, banciau bwyd neu gaffis cymunedol. Byddwn yn cynnig y cyfleusterau hyn fel dewis cost-isel i annog busnesau bach ac entrepreneuriaeth mewn cymunedau isel eu hincwm
Byddwn yn ymgysylltu â chymunedau lleol i wneud yn siŵr bod eu buddiannau wrth galon ein penderfyniadau
- Bydd ein Llysgenhadon Cymunedol yn ymgysylltu â chymunedau lleol ac elusennau lleol fel y Prince’s Trust i annog unigolion ynysig i ddefnyddio’r rhwydwaith rheilffyrdd i ddod o hyd i waith
- Byddwn yn gwneud yn siŵr ein bod mewn gwell sefyllfa i fodloni anghenion grwpiau cymunedol a rhanddeiliaid nawr ac yn y dyfodol drwy feithrin perthnasoedd mwy cydweithredol â’r grwpiau hyn
- Byddwn yn defnyddio ein dylanwad i annog y diwydiant rheilffyrdd a’r sector trafnidiaeth ehangach i fod yn fwy cynhwysol
- Byddwn yn darparu gwasanaeth mwy cynhwysol a hygyrch, gan wella’r ffordd rydyn ni’n gwasanaethu ein cwsmeriaid a darpar gwsmeriaid
Byddwn yn cynyddu nifer y gorsafoedd sydd wedi’u mabwysiadu o 141 gorsaf i 201 erbyn 31 Mawrth 2023 fan bellaf
- Byddwn yn cynyddu nifer y gorsafoedd sydd wedi’u mabwysiadu drwy ddefnyddio rhwydwaith cysylltiadau Cyfranogaeth Cymru er mwyn gweithio law yn llaw â grwpiau gwirfoddolwyr eraill, fel GwirVol
Byddwn yn cynyddu teithio llesol drwy integreiddio’n well a gwell cyfleusterau
- Bydd ein Cronfa Teithio Llesol yn gwella’r cyfleusterau teithio llesol yn ein gorsafoedd ac ar draws ein rhwydwaith, gan gydweithio â’n rhanddeiliaid i ddarparu mapiau, i gyflwyno trefniadau rheoli traffig ac i ddatblygu cynllun gwobrau ar gyfer teithio llesol.
- Byddwn yn defnyddio o leiaf £600,000 o’n Cronfa Teithio Llesol i sicrhau cyllid trydydd parti gan awdurdodau lleol ac eraill, fel Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd, cyfraniadau gan ddatblygwyr (Adran 106 ayb), a Chronfeydd Trafnidiaeth Leol, a hynny i ddatblygu mentrau teithio llesol
- Byddwn yn creu 4,000 o leoedd parcio beiciau yn ein gorsafoedd rhwng 2020 a 2027
Bydd cyflawni cyfrifoldebau dan y Ddeddf Teithio Llesol (Cymru) yn cefnogi cynnydd mewn cerdded a beicio
- Byddwn yn cyfrannu at y Bwrdd Teithio Llesol, Bwrdd y Gynghrair Gorsafoedd a Bwrdd y Gynghrair Integreiddio
- Byddwn yn cyhoeddi ein Cynllun Teithio Llesol a Beicio ac yn cyhoeddi Adroddiad Cynnydd i Gwsmeriaid bob dwy flynedd
- Rydyn ni wedi clustnodi £1,420,000 i drawsnewid llwybrau beicio a £500,000 i ddatblygu llwybrau cerdded
- Byddwn yn cynyddu nifer y beiciau sy’n gallu ffitio ar ein trenau 40% erbyn 2024, gan ddarparu o leiaf dau fan i feiciau ar bob cerbyd a gwell cyfleusterau archebu ar yr ap. Bydd cwsmeriaid yn gallu archebu hyd at ddwy awr cyn amser gadael y trên
- Byddwn yn gweithio gyda rhanddeiliaid i gynnal o leiaf 25 o ddigwyddiadau cerdded bob blwyddyn er mwyn hyrwyddo llwybrau cerdded diogel, a mynd i’r afael â phryderon cymunedau
Byddwn yn ffurfio tîm rhanddeiliaid newydd ar gyfer Llinellau Craidd y Cymoedd erbyn 1 Ebrill 2021 fan bellaf er mwyn lleihau effaith andwyol y gwaith o drawsnewid Llinellau Craidd y Cymoedd ar gymunedau
Mentrau Partneriaethau Rheilffyrdd Cymunedol
Rydyn ni’n bwriadu cyflwyno saith Partneriaeth Rheilffyrdd Gymunedol arall, gan ddod â’r cyfanswm i 12 erbyn diwedd 2022
- Byddwn yn lansio tair Partneriaeth ychwanegol ym mlwyddyn ariannol 2019/20, a dwy ychwanegol yr un ym mlynyddoedd ariannol 2020/21 a 2021/22
- Byddwn yn gosod pedair ystafell gyfarfod ranbarthol i Bartneriaethau Rheilffyrdd Cymunedol yn ein gorsafoedd. Bydd pob un yn gallu dal hyd at 40 o bobl
Bydd ein tîm rhanddeiliaid yn gweithio gyda thimau gorsafoedd i nodi mannau addas
- Byddwn yn recriwtio pedwar Rheolwr Rhanddeiliaid a Chymunedau rhanbarthol erbyn diwedd 2021 i gynnig cymorth gyda gweithgareddau dydd i ddydd Partneriaethau Rheilffyrdd Cymunedol a chefnogi cyfleoedd gwella
Byddwn yn darparu cyllid i’r pum Partneriaeth Rheilffyrdd Gymunedol bresennol ac yn anelu at gynyddu’r cyllid hwn i gefnogi’r naw Partneriaeth
- Byddwn yn defnyddio’r cyllid sydd ar gael yn unol â’n cynllun ar gyfer Partneriaethau Rheilffyrdd Cymunedol
Cymru â diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu
Byddwn yn hyrwyddo iaith a diwylliant Cymru drwy ymgysylltu â Chyngor Celfyddydau Cymru, Croeso Cymru, Cadw a thrydydd partïon eraill i hyrwyddo celfyddydau, diwylliant, treftadaeth Cymru a’r iaith Gymraeg. Byddwn hefyd yn hyrwyddo celfyddydau, diwylliant a threftadaeth yr ardaloedd eraill rydyn ni’n eu gwasanaethu.
Y Gymraeg
Byddwn yn cefnogi’r defnydd o’r Gymraeg yn ein gwasanaethau
- Byddwn yn cynnig hyfforddiant iaith Gymraeg i’n pobl erbyn mis Medi 2021 fan bellaf ac rydyn ni’n anelu at wneud yn siŵr bod o leiaf 30% o’n timau sy’n dod i gysylltiad â chwsmeriaid wedi cael hyfforddiant iaith Gymraeg
Byddwn yn croesawu’r statws swyddogol sydd gan y Gymraeg yng Nghymru
- Os ydy ein haelodau tîm yn siarad Cymraeg, byddwn yn gallu cyfathrebu â chwsmeriaid drwy gyfrwng y Gymraeg yn nerbynfeydd ein gorsafoedd a’n swyddfeydd tocynnau. Os nad yw ein haelodau tîm yn siarad Cymraeg. Byddwn yn gwneud yn siŵr bod cwsmeriaid yn gallu siarad ag aelod tîm yn Gymraeg dros y ffôn neu drwy ddefnyddio technoleg gysylltu o bell arall
- Ni fyddwn yn trin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg, gan alluogi pobl yng Nghymru i fyw eu bywyd drwy gyfrwng y Gymraeg
- Bydd ein holl gyfathrebiadau cyhoeddus yn cael eu darparu yn Gymraeg ac yn Saesneg, gan gynnwys ymholiadau am drenau ac ymatebion ar gyfryngau cymdeithasol
Bydd yr holl gyfathrebiadau ysgrifenedig a llafar i’r cyhoedd a Theithwyr yng Nghymru yn cael eu darparu yn Gymraeg ac yn Saesneg, gan gynnwys lle y gofynnir amdanynt:
- ymholiadau am drenau (gan gynnwys darparu rhif uniongyrchol ar gyfer mynediad i wasanaethau
- ymatebion cyswllt cyfryngau cymdeithasol
Diwylliant Cymru
Byddwn yn cefnogi diwylliant Cymru, gan gydnabod pwysigrwydd ei hanes diwylliannol amrywiol wrth siapio’r wlad
- Byddwn yn gwahodd Cyngor Celfyddydau Cymru, Cadw, yr Urdd, Comisiynydd y Gymraeg a thrydydd partïon eraill i fod yn rhan o’n Grŵp Cynghori ar Ddatblygu Cynaliadwy
- Byddwn yn annog ein pobl i wella eu dealltwriaeth o ddiwylliant Cymru drwy ymuno â’u llyfrgell leol, ymweld ag amgueddfeydd lleol, cymryd rhan mewn clybiau chwaraeon a mynd i gemau timau lleol, a defnyddio bwytai a chaffis lleol
- Byddwn yn croesawu ac yn hyrwyddo treftadaeth gelfyddydol a diwylliannol gyfoethog ac unigryw Cymru, gan helpu i’w gwarchod i genedlaethau’r dyfodol
- Byddwn yn dod yn noddwr aur (neu lefel gyfatebol) i’r Eisteddfod o 2020 ymlaen
- Byddwn yn creu, yn cynnal ac yn cefnogi cronfa celfyddydau a diwylliant o 1 Ebrill 2023 ymlaen
- Byddwn yn creu Cronfa Celf Gymunedol gwerth £250,000 i ariannu prosiectau celf mewn gorsafoedd gan ysgolion, colegau a phrifysgolion o 2022 i 2026.
- Byddwn yn buddsoddi £500,000 mewn gorsafoedd gwyrdd a gwaith celf i wella cymeriad ein gorsafoedd ac i adlewyrchu eu cysylltiadau â thirnodau lleol
- Bydd ein gwasanaethau arlwyo ar y trenau’n cynnwys cynnyrch o Gymru
Twristiaeth gynaliadwy
Byddwn yn datblygu ac yn gweithredu mesurau i fonitro effaith ein datblygu/twristiaeth gynaliadwy er mwyn gwneud yn siŵr bod ein gweithgareddau’n creu swyddi ac yn hyrwyddo diwylliant Cymru
- Byddwn yn cydweithio â rhanddeiliaid a sefydliadau perthnasol eraill i wneud yn siŵr bod Cymru’n parhau i ddenu a darparu digwyddiadau chwaraeon a diwylliannol mawr, twristiaid, buddsoddiadau, busnesau a myfyrwyr. Byddwn hefyd yn helpu i roi Caerdydd ar y map fel prifddinas ryngwladol
Cymru sy’n Gyfrifol ar Lefel Fyd-eang
Byddwn yn lleihau ein heffaith amgylcheddol fyd-eang a’n heffaith ar gymunedau tramor drwy gaffael yn gyfrifol. Byddwn yn cydymffurfio â rheoliadau bioamrywiaeth rhyngwladol ac yn lleihau ein hôl troed carbon
Bioamrywiaeth
Byddwn yn rhoi sylw dyledus i warchod a gwella bioamrywiaeth
- Byddwn yn ystyried Confensiwn 1992 Rhaglen Amgylcheddol y Cenhedloedd Unedig ar Amrywiaeth Fiolegol
- Byddwn yn gwneud yn siŵr nad yw ein gweithgareddau’n cael effaith niweidiol ar gyfanrwydd unrhyw safle Natura 2000
Gwastraff ac ailgylchu
Lleihau effaith gwastraf
- Byddwn yn tracio llwybrau gwaredu ein gwastraff i wneud yn siŵr nad yw’n achosi nac yn cyfrannu at broblemau tramor
Safonau Masnach Deg a’r Sefydliad Llafur Rhyngwladol
Byddwn yn cefnogi statws Cymru fel Cenedl Masnach Deg
- Byddwn yn caffael te a choffi masnach deg ar gyfer ein swyddfeydd
- Byddwn yn annog ein gorsafoedd i ddarparu cynnyrch masnach deg
Hawliau dynol
Byddwn yn cefnogi ein prif gyflenwyr i roi eu polisïau hawliau dynol eu hunain ar waith
Ein tîm datblygu cynaliadwy
Delwedd: llun o'r tîm yn y swyddfa